Mater - penderfyniadau

Revenue Budget Monitoring 2017/18 (Month 5)

20/11/2017 - Revenue Budget Monitoring 2017/18 (Month 5)

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2017/18 fel yr oedd ym Mis 5 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

Ar Gronfa’r Cyngor, rhagwelwyd y byddai’r sefyllfa net yn ystod y flwyddyn £1.348m yn uwch na’r gyllideb, sef cynnydd bach ers Mis 4.  Crynhowyd newidynnau arfaethedig ym mhob portffolio ac roedd monitro risgiau yn ystod y flwyddyn yn cynnwys asesiad o risgiau newydd i bennu’r effaith ar 2018/19.   Amcangyfrifwyd y byddai 92% o arbedion cynlluniedig yn cael eu cyflawni ac y byddai balans cronfeydd wrth gefn yn £3.734m erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Ar y Cyfrif Refeniw Tai, rhagamcanwyd y byddai gwariant yn ystod y flwyddyn £0.026m yn is na’r gyllideb, gan adael balans o £1.090m ar ddiwedd y flwyddyn sy’n uwch na’r lefel isaf a argymhellir.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Richard Jones, darparodd y Prif Weithredwr esboniad ar gyllid cylchol o’r Gronfa Gofal Canolraddol sef dyraniad newydd i’r gyllideb oherwydd ei fod wedi’i gadarnhau’n hwyr.  Fel rhan o Gam 2 proses cyllideb 2018/19, byddai gofyn i Aelodau gefnogi cais am glustnodi’r cyllid hwn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi adroddiad monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 5) a chadarnhau nad oes unrhyw faterion i’w cyflwyno gerbron y Cabinet.