Mater - penderfyniadau

Capital Programme 2017/18 (Outturn)

11/10/2018 - Capital Programme 2017/18 (Outturn)

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid yr adroddiad yngl?n â Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Canlyniad) a oedd yn rhoi crynodeb o’r newidiadau a wnaethpwyd yn y Rhaglen Gyfalaf yn ystod tri mis olaf 2017/18.

 

            Cyfanswm y Rhaglen Gyfalaf ar sail y canlyniad terfynol oedd £59.143 miliwn, gostyngiad net o £0.279 miliwn o gymharu â’r cyfanswm yn y nawfed mis o’r flwyddyn (£59.422 miliwn).  Y rhain oedd y newidiadau yn y Rhaglen:

 

·         Cynnydd o £2.836 miliwn yn y rhaglen (£2.159 miliwn yng Nghronfa’r Cyngor a £0.677 miliwn yn y Cyfrif Refeniw Tai);

·         Gwrthbwyso drwy gario cyllid ymlaen i 2018/19, sef swm o £1.289 miliwn a gymeradwywyd gan y Cabinet yn y nawfed mis; a

·         Gwrthbwyso drwy gario gwariant wedi’i ariannu gan grantiau hwyr Llywodraeth Cymru ymlaen i 2018/19, sef swm o £1.826 miliwn.

 

Y gwir ganlyniad oedd £57.380 miliwn, a oedd yn awgrymu tanwariant o £1.763 miliwn. Y swm dan sylw, fodd bynnag, oedd cyfanswm y cyllid a gariwyd ymlaen i 2018/19.

 

Y canlyniad o ran ariannu oedd gorwariant o £0.068 miliwn ar sail y cyllid oedd wedi’i gadarnhau. Y rheswm am hynny oedd bod y Cyngor wedi derbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru yn hwyr, ac wedi defnyddio rhywfaint o’r arian i lenwi bylchau mewn refeniw, a arweiniodd at danwariant ar y gyllideb refeniw yn 2017/18. Byddai’r Cyngor yn ariannu’r un faint o wariant cyfalaf yn 2018/19 ar sail derbyniadau cyfalaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo'r adroddiad cyffredinol; a

 

 (b)      Chymeradwyo’r addasiadau o ran cario cyllid ymlaen.