Mater - penderfyniadau

Treasury Management Mid-Year Review 2017/18 and Quarter 2 Update

15/02/2018 - Treasury Management Mid-Year Review 2017/18 and Quarter 2 Update

Cyflwynodd Rheolwr Cyllid - Cyfrifeg Dechnegol yr adroddiad drafft Rheoli Trysorlys ganol blwyddyn 2017/18 cyn i’r Cabinet ei ystyried.  Rhannwyd diweddariad Chwarter 2 er gwybodaeth.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid y newidiadau rheoleiddio cymhleth yr ail Farchnadoedd mewn Cyfarwyddeb Offerynnau Ariannol (MiFID II) a ddaeth i rym o Ionawr 2018. Roedd angen i gynghorau gael eu categoreiddio gan wasanaethau ariannol wedi’u rheoleiddio fel cleientiaid manwerthu oni bai eu bod yn dewis bod yn gleientiaid proffesiynol, yn ddibynnol eu bod yn cwrdd â'r meini prawf. Wedi asesu’r ddau opsiwn, argymhelliad y swyddog oedd i’r Cyngor gynnal ei statws proffesiynol presennol oherwydd buddion cyfyngedig ar gael i gleientiaid manwerthu a chostau trafodion uwch o bosib.  Byddai’r statws yn cael ei adolygu yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn cwrdd ag anghenion y Cyngor.

 

 

Diweddariad ar Chwarter 2 wedi’i wneud ar sefyllfa bresennol gweithgareddau rheoli trysorlys ac effaith y cynnydd diweddar mewn cyfraddau llog ar strategaeth benthyca’r Cyngor.  Gofynion benthyca hir dymor yn cael eu monitro'n agos oherwydd y cyfraddau is o fenthyca dros y tymor byr ar hyn o bryd.  Atgoffwyd y Pwyllgor o’r sesiwn hyfforddiant Rheoli Trysorlys ar y gweill oedd ar gael i’r holl Aelodau.  Darparodd yr adroddiad hefyd wybodaeth ar ariannu'r costau o fenthyca gan gynnwys cymharu â chynghorau eraill yn ôl y gofyn yng nghyfarfod mis Gorffennaf.

 

Gofynnodd Sally Ellis am effaith y newidiadau arfaethedig i’r Cod Darbodus ar atodion y Cyngor.  Cynghorodd y Rheolwr Cyllid bod cod diwygiedig heb ei gyhoeddi eto a bod unrhyw newidiadau angen cael effaith o 2019 ond wedi eu hargymell ar gyfer 2018/19 ymlaen.   Bwriadwyd bod y cyfrifiadau yn unol â'r Cod yn cael eu hehangu i gynnwys atodion.  Yn achos Sir y Fflint byddai hynny'n cynnwys y cwmnïau newydd a oedd wedi eu sefydlu ond ddim yn berthnasol i Aura Leisure & Libraries.  Ar y meini prawf o fod yn gleient proffesiynol o dan MiFID II, fe eglurodd bod y cymwysterau proffesiynol a phrofiad y swyddogion yn cael eu hystyried yn ddigonol i gwrdd â’r meini prawf.  Ar ymholiad yngl?n â benthyciad penodol o fewn y proffil aeddfedrwydd dyledion, gwnaethpwyd yr addewid bod yr holl fenthyciadau wedi cael eu ffactora i mewn i ofynion benthyca.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr Adroddiad Rheoli'r Trysorlys Canol Blwyddyn 2017/18 Drafft yn cael ei gymeradwyo i’r Cabinet ar 19/12/17; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet bod y Cyngor yn dewis cael statws cleient proffesiynol gan gwmnïau gwasanaethau ariannol o ganlyniad i’r ail Cyfarwyddeb Offerynnau Ariannol mewn Marchnadoedd (MiFID II) fel yr eglurwyd ym mharagraffau 1.09-1.15.