Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
30/04/2018 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol gan atgoffa’r Aelodau am y gweithdy trafnidiaeth ar 11 Ebrill. Roedd y Cynghorydd Hinds yn ymddiheuro na fyddai’n bresennol. O ran yr eitemau ar yr amserlen, esboniodd yr Hwylusydd y byddai’r ymweliad safle â Pharc Adfer yn cael ei aildrefnu ar amser priodol.
Yn unol â chais y Cynghorydd Evans, cytunodd y swyddogion i gyflwyno’r adroddiad ar Orfodaeth a Gofal Amgylcheddol yng nghyfarfod mis Ebrill a fyddai’n cael ei gynnal ym Mharc Treftadaeth Maes-glas. Cytunwyd hefyd y byddai Aelodau yn cael eu gwahodd i fynd ar daith o amgylch y safle am 9.30am cyn i’r cyfarfod ddechrau am 10am.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei newid;
(b) Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, fel y bo’r angen.