Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme (Corporate Resources)
27/07/2018 - Forward Work Programme (Corporate Resources)
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried gan egluro y byddai’r eitem hon yn cael ei thrafod ar ddechrau pob cyfarfod fel y cytunwyd yn y sesiwn gynllunio a gynhaliwyd cyn y cyfarfod blaenorol.
Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom, gan y byddai hyn yn cael ei thrafod ar ddechrau pob cyfarfod, a geid cyfle iddi gael ei diwygio yn dilyn unrhyw drafodaethau a geid yn ystod y cyfarfod. Ymatebodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd gan ddweud bod.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at y Dadansoddiad o Wariant Teg ar Drefi’r Sir a wnaed rai blynyddoedd yn ôl. Cytunodd y byddai’n darparu’r wybodaeth i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol mewn da bryd cyn y cyfarfod nesaf. Ar yr un mater, cytunodd y Prif Weithredwr y byddai’r model adrodd yn cynnwys Trefi’r Sir a’u dalgylchoedd.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, a
(b) Bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, ar y cyd â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn cael eu hawdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, pe byddai angen gwneud hyn.