Mater - penderfyniadau

Medium Term Financial Strategy Update

10/10/2017 - Medium Term Financial Strategy Update

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad ar y rhagolwg ariannol diwygiedig ar gyfer 2018/19 fel rhan o adnewyddu’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS).

 

Rhoddwyd gyflwyniad a oedd yn trafod y meysydd canlynol:

 

·         Rhagolygon Ariannol 2018/19

·         Prif bwysau

·         Risgiau ac Effeithiau Posibl o 2017/18

·         Sefyllfa Genedlaethol

·         Gwneud Achos Cenedlaethol

·         Camau Nesaf

 

Roedd y rhagolwg diwygiedig yn dangos bwlch a ragwelir o £11.7m ar gyfer 2017/18 cyn unrhyw fodelu ar lefelau Treth Y Cyngor cynyddol.  Roedd y rhagolygon wedi seilio ar ystod o wybodaeth gan gynnwys pwysau cenedlaethol, lleol a gweithlu.  Er y gellir rhagweld rhai materion yn sicr, roedd rhai y tu allan i reolaeth y Cyngor.   Y ddau ffactor mwyaf sylweddol oedd setliad ariannol llywodraeth leol ar gyfer 2017/18 a lefelau Treth Y Cyngor.

 

Amlygodd y Cynghorydd Aaron Shotton y pwysigrwydd o gynghorau yng Nghymru yn parhau i lobio Llywodraeth Cymru ar y cyd i gael cyllid tecach ac i Sir Y Fflint i wneud yr achos ymysg y rheiny gyda safle a ariennir yn isel.  Roedd tybiaethau rhesymol wedi cael eu gwneud ar gyllid grant a gwnaethpwyd gyfeiriad at bosibilrwydd toriadau cyllid ‘cudd’ gan Llywodraeth DU a fyddai’n effeithio Cymru. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Richard Jones, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r gwaith yn parhau ar ddatblygu’r MTFS, fodd bynnag roedd yn anochel na fyddai’r bwlch cyllideb a ragwelwyd yn cael ei ddiwallu heb effeithio ar wasanaethau rheng flaen.   Roedd hyn wedi ei adnabod yn eang yn ystod y broses ymgynghori cyllideb lle'r oedd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi ystyried yr opsiynau ar gyfer eu meysydd penodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gan ystyried yr adroddiad, bod y Pwyllgor yn hysbysu’r Cabinet ei fod yn cefnogi’r fframwaith ar gyfer diwygio’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.