Mater - penderfyniadau
Integrated Transport Unit/Procurement Project
19/10/2017 - Integrated Transport Unit/Procurement Project
Cyflwynodd y Rheolwr Cludiant a Logisteg ddiweddariad ar Brosiect Caffael yr Uned Cludiant Integredig (UCI) a manylion y prif newidiadau yn y ddarpariaeth gludiant o ganlyniad i’r broses newydd fydd yn cael ei chyflwyno o fis Medi 2017 ymlaen.
Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ym mis Mai 2015, cytunwyd y dylid sefydlu UCI o fewn yr Awdurdod i sicrhau ymagwedd integredig tuag at ddarparu gwasanaethau a rheolaeth weithredol. Dan y newidiadau, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau, rheoli’r gyllideb a rheolaeth weithredol dydd i ddydd ar gyfer cludiant y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r UCI. Trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am reoli’r gyllideb ac asesu cymhwysedd ar gyfer cludiant rhwng y cartref ac ysgolion prif ffrwd hefyd i’r UCI o fewn y portffolio Strydwedd a Chludiant; ond arhosodd y cyfrifoldeb am osod polisi cludiant i'r ysgol o fewn y portffolio Addysg ac Ieuenctid.
Cynhaliwyd adolygiad diagnostig o’r holl weithrediadau cludiant ledled yr Awdurdod er mwyn amlygu unrhyw gyfleoedd am arbedion ariannol ac arbedion effeithlonrwydd o fewn y model gweithredu presennol. Yn benodol, bwriad yr adolygiad diagnostig oedd cynnig argymhellion clir ar ddyfodol pob gwasanaeth cludiant ac ar y model darparu gorau. Amlygodd un o ddeilliannau cynnar yr adolygiad diagnostig nifer o feysydd gyda'r potensial am arbedion, yn enwedig ym maes caffael. Cynhaliodd yr UCI ymarfer optimeiddio trylwyr cyn cychwyn ar y broses dendro. Bwriad yr ymarfer optimeiddio oedd cael y budd mwyaf posibl drwy sicrhau’r defnydd mwyaf effeithlon o gerbydau a darparu’r llwybrau mwyaf cost effeithlon i’r nifer gofynnol o deithwyr cymwys. Fel yr amlinellir yn y polisi cludiant presennol, y defnydd effeithlon o adnoddau fydd yn pennu'r dull cludiant.
Mae pob hebryngwr a chynorthwyydd teithwyr ar gludiant i’r ysgol wedi mynychu sesiynau briffio er mwyn cael gwybod am y newidiadau arfaethedig i’r trefniadau caffael. Bydd plant ag anghenion cymhleth yn parhau i deithio gyda’r un hebryngwyr cludiant i'r ysgol er mwyn sicrhau na therfir arnynt.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Cindy Hinds, eglurodd y Rheolwr Cludiant a Logisteg na fyddai cymhwyster ar gyfer cludiant i’r ysgol yn newid. Gofynnodd y Cynghorydd Chris Bithell am i hysbysiadau am drefniadau cludiant i’r ysgol gael eu hanfon i rieni ymhell cyn dechrau tymor yr ysgol. Roedd hefyd yn gobeithio y byddai'r adolygiad o weithrediadau cludiant yn mynd i’r afael ag anghysondebau o ran rhai plant yn cael eu codi y tu allan i’w cartrefi ac eraill yn gorfod cerdded i fan penodedig.
Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i’r swyddogion am yr adroddiad a’r gwaith a wnaed i adolygu’r holl weithrediadau cludiant a darparu’r arbedion a fwriadwyd ar gyfer y gwasanaeth, fel y manylir arnynt yn y cynigion Cynllunio Busnes ar gyfer 2017-18.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi effaith debygol y broses gaffael Cludiant i'r Ysgol, y manylir arni yn yr adroddiad; ac
(b) Y dylid cyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor yn dilyn cwblhau’r gwaith diagnostig fydd yn rhoi manylion yr opsiynau i newid y Polisi Cludiant i'r Ysgol presennol.