Mater - penderfyniadau
Schedule of Remuneration
17/10/2017 - Schedule of Remuneration
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd atodlen ddrafft o gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer 2017/18 yn dilyn penodiadau i ‘swyddi cyflogau uwch’. I alluogi’r Cyngor i gwblhau a chyhoeddi’r Atodlen erbyn y terfyn amser statudol, sef 31 Gorffennaf 2017, ceisiwyd caniatâd i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ychwanegu enwau'r ddau aelod cyfetholedig a oedd ar goll o Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd cyn ei gyhoeddi. Er bod un wedi'i dderbyn yn ddiweddar, byddai'r ail enw yn cael ei ddweud yng nghyfarfod nesaf y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol a gwblhawyd ar gyfer 2017/18, fel yr atodir wrth yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo i’w gyhoeddi; a
(b) Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn cael awdurdod i ychwanegu enwau'r aelodau cyfetholedig terfynol at yr atodlen cyn ei chyhoeddi.