Mater - penderfyniadau

Communal Heating Charges 2017/18

27/09/2017 - Communal Heating Charges 2017/18

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad oedd yn amlinellu taliadau gwresogi arfaethedig y systemau gwresogi cymunedol yn nhai’r Cyngor ar gyfer 2017/18, 2018/19 a 2019/20.

 

                        Roedd taliadau newydd yn dod i rym yn yr haf bob blwyddyn er mwyn gallu creu darlun cywir o gostau’r flwyddyn cynt.  Pwrpas unrhyw newidiadau arfaethedig i’r taliadau oedd sicrhau bod pob cynllun gwresogi cymunedol yn adennill y costau ynni llawn a godwyd ar bob cynllun gan anelu at falans o nil ar y cyfrif gwresogi.

 

                        Roedd yr adroddiad yn manylu’n llawn ar y taliadau gwresogi oedd yn cael eu hargymell, ar sail y defnydd yn 2016/17 a chan dybio bod y costau a’r defnydd yn aros yr un fath am y tair blynedd nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r newidiadau i daliadau gwresogi’r cynlluniau gwresogi cymunedol yn nhai’r Cyngor fel y nodir hwynt yn nhabl yr adroddiad, gyda’r newidiadau i ddod i rym o’r 1 Medi 2017 ymlaen.