Mater - penderfyniadau
Growth Vision and Strategy for the Economy of North Wales
16/03/2017 - Growth Vision and Strategy for the Economy of North Wales
Cyflwynodd y Cynghorydd Butler adroddiad Gweledigaeth a Strategaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru.
Gwahoddwyd Gogledd Cymru i ddatblygu'r strategaeth mewn i ‘Gais Twf' ar gyfer buddsoddi cenedlaethol. Roedd y gwaith rhanbarthol yn rhedeg yn gyfochrog â datblygu a chytuno ar gynigion twf mewn rhanbarthau penodol yn Ne Cymru a Lloegr.
Roedd gwaith yn parhau i flaenoriaethu cynnwys y strategaeth i’w gynnwys mewn cais ffurfiol, ac roedd y chwe Chyngor wedi dod i gytundeb amlinellol ar fodel llywodraethu ar gyfer y strategaeth economaidd ranbarthol. Cafodd y model llywodraethu rhanbarthol dewisol o gydbwyllgor statudol ei nodi yn yr adroddiad.
Esboniodd y Prif Weithredwr bod adroddiadau tebyg yn cael eu cyflwyno i gyfarfodydd y Cabinet yn y pum awdurdod lleol arall. Ychwanegodd fod gwaith cyfreithiol technegol yn mynd rhagddo i baratoi ar gyfer y cynllun i symud ymlaen yn dilyn y Cyfarfodydd Blynyddol.
Cytunwyd y gellid cynnal trafodaeth yng nghyfarfod y Cyngor ar 1 Mawrth pan fyddai’r eitem 'Gwaith Rhanbarthol a'r Papur Gwyn - Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad’ yn cael ei ystyried.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y model llywodraethu rhanbarthol dewisol o gydbwyllgor statudol ar gyfer datblygu pellach yn cael eu cymeradwyo; a
(b) Y dylid gwahodd y Cyngor newydd ei ethol fynd i mewn i fodel Cyd-bwyllgor statudol gyda'r pum Cyngor partner, o fewn tri mis cyntaf tymor newydd y Cyngor, unwaith y bydd cyfansoddiad manwl a chytundeb rhwng awdurdodau ar gael.