Mater - penderfyniadau

Corporate Safeguarding Policy

16/03/2017 - Corporate Safeguarding Policy

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Polisi Diogelu Corfforaethol a oedd yn nodi’r gwaith sy’n cael ei wneud i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau diogelu.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr fod Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi cyhoeddi adroddiad ym mis Gorffennaf 2015 ‘Adolygu Trefniadau Diogelu Corfforaethol yng Nghynghorau Cymru’.  Fe wnaethant adrodd nad yw cyfrifoldebau diogelu corfforaethol gydag awdurdodau lleol ar draws Cymru yn cael eu deall yn dda bob amser, ac fe wnaethant nodi bod angen i gyfrifoldebau diogelu corfforaethol gael eu hintegreiddio'n llawn â gwaith gwasanaethau eraill.

 

            Roedd diogelu’n gysyniad ehangach na diogelu plant ac oedolion ac roedd yn delio â hyrwyddo:

 

·         Iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol;

·         Diogelu rhag niwed ac esgeulustod;

·         Addysg, hyfforddiant a hamdden; a

·         Chyfrannu at gymdeithas.

             

Roedd diogelu yn gyfrifoldeb ar y cyd.  Er mai'r Gwasanaethau Cymdeithasol oedd y gwasanaeth arweiniol o fewn y Cyngor, mae gan bawb, beth bynnag yw eu rôl, gyfrifoldeb i ddiogelu lles plant, pobl ifanc ac oedolion.  Mae diogelu wastad wedi bod yn gryf yn Sir y Fflint a byddai Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet a byddai'n tynnu sylw at berfformiad y Cyngor wrth gydymffurfio â Pholisi a Chanllawiau Corfforaethol.

 

Croesawodd y Cynghorydd Christine Jones yr adroddiad ac fe soniodd am faint  oedd wedi cael ei wneud hyd yn hyn i gryfhau trefniadau diogelu.

                                                 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cabinet yn cael sicrwydd bod y gwaith yn cael ei wneud i wella trefniadau corfforaethol ar gyfer diogelu plant ac oedolion;

 

 (b)      Bod y Polisi Diogelu Corfforaethol drafft yn cael ei gymeradwyo ar gyfer ymgynghori ehangach; a

 

 (c)       Bod y Cabinet yn derbyn adroddiadau blynyddol ar waith a wnaed i wella trefniadau diogelu corfforaethol ac effeithiolrwydd y polisïau perthnasol.