Mater - penderfyniadau
Welsh Language Standards
16/03/2017 - Welsh Language Standards
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Safonau Iaith Gymraeg a oedd yn manylu ar ganlyniad trafod cyfres newydd o Safonau Iaith Gymraeg ar gyfer y Cyngor gyda'r Comisiynydd y Gymraeg.
Esboniodd y Prif Weithredwr fod y rhan fwyaf o'r Safonau yn gyson â'r ymrwymiadau a nodir yng Nghynllun Iaith Gymraeg y Cyngor ac nid oedd yn peri unrhyw broblemau sylweddol i wasanaethau. Roedd rhai o'r Safonau wedi bod yn fwy heriol ac esboniodd bod trafodaethau adeiladol wedi'u cynnal gyda Chomisiynydd y Gymraeg a oedd wedi arwain at newidiadau, eithriadau a gohirio dyddiadau gweithredu ar gyfer y Safonau y barnwyd eu bod yn broblematig, fel y nodir yn yr adroddiad.
Fe soniodd y Cynghorwyr Bithell a Mullin am lwyddiant gwella’r Gymraeg mewn ysgolion yn Sir y Fflint.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod canlyniad llwyddiannus i Gyngor Sir y Fflint wrth drafod y Safonau o fewn y cyfnod Rhybudd Cydymffurfio terfynol yn cael ei gadarnhau a'i gefnogi;
(b) Bod Safonau’r Gymraeg yn cael eu cefnogi’n llawn; a
(c) Bod adroddiad pellach ar y Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg, sydd yn un o ofynion y Safonau a fydd yn codi proffil ac yn cryfhau'r Gymraeg yn Sir y Fflint yn cael ei wahodd.