Mater - penderfyniadau
Prudential Indicators 2017/18 to 2019/20
16/03/2017 - Prudential Indicators 2017/18 to 2019/20
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Dangosyddion Darbodus 2017/18 i 2019/20 a oedd yn rhoi manylion am y canlynol:
· Dangosyddion Darbodus ar gyfer Gwariant Cyfalaf;
· Dangosyddion Darbodus ar gyfer Fforddiadwyedd;
· Dangosyddion Darbodus ar gyfer Pwyll; a
· Dangosyddion Darbodus ar gyfer Rheoli'r Trysorlys a Dyledion Allanol.
PENDERFYNWYD:
Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir ar 14 Chwefror 2017:
· Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2017/18-2019/20; ac
· Awdurdod dirprwyedig i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i achosi symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol.