Mater - penderfyniadau
Buy back of Council Right to Buy (RTB) Properties
16/03/2017 - Buy back of Council Right to Buy (RTB) Properties
Cyflwynodd y Cynghorydd Brown adroddiad Prynu Eiddo Hawl i Brynu'r Cyngor yn Ôl. Cynigiwyd polisi newydd a oedd yn amlinellu ymagwedd y Cyngor at fynd ati’n strategol i brynu eiddo a oedd yn dod ar gael ar y farchnad agored gan gynnwys yr opsiwn i brynu hen eiddo’r Cyngor a oedd wedi eu gwerthu dan y cynllun Hawl i Brynu.
Eglurodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) fod y polisi hefyd yn amlygu’r amgylchiadau posibl lle gallai’r Cyngor ystyried prynu eiddo i fod yn “gaffaeliad strategol”, lle bo achos busnes cadarn dros wneud hynny.
Rhai esiamplau o “gaffael strategol” oedd:
· Eiddo sy’n achosi malltod mewn cymdogaethau lle’r oedd gan y Cyngor gysylltiad neu fuddsoddiad;
· Eiddo lle’r oedd y perchennog yn cael trafferth gyda morgais neu gost cynnal yr eiddo;
· Eiddo a allai ddiwallu galw heb ei fodloni; a
· Eiddo a fyddai’n rhyddhau tir neu fynediad at safle sy’n addas ar gyfer datblygu tai fforddiadwy.
Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a oedd yn garreg filltir arwyddocaol wrth helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai parhaus.
Dywedodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) fod yr adroddiad wedi’i ystyried y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter ac wedi’i groesawu gan Aelodau.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo gweithrediad Polisi Caffael Strategol (yn cynnwys Prynu Eiddo Hawl i Brynu yn ôl).