Mater - penderfyniadau
Revenue Budget Monitoring 2016/17 (month 9)
16/03/2017 - Revenue Budget Monitoring 2016/17 (month 9)
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2016/17 (Mis 9) a oedd yn cynnig y sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol. Roedd yr adroddiad yn rhoi amcanestyniad o beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiweddglo'r flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.
Y sefyllfa diwedd blwyddyn a amcanestynnwyd, heb unrhyw gamau pellach i leihau pwysau o ran costau neu i nodi arbedion effeithlonrwydd newydd, oedd:
Cronfa’r Cyngor
· Roedd sefyllfa net yn ystod y flwyddyn yn cynnwys diffyg gweithredol o £0.799m; gostyngiad yn y diffyg o £1.011m o’r sefyllfa a adroddwyd fis diwethaf a oedd yn ganlyniad i nifer o ffactorau, yr un mwyaf arwyddocaol oedd adennill cost pecynnau gofal a ariennir ar y cyd o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol;
· Roedd y sefyllfa gyffredinol a ragwelir yn ystod y flwyddyn yn cynnwys £2.886m oherwydd y newid yn y polisi cyfrifyddu ar gyfer Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) fel y cytunwyd gan y Cyngor Sir. Effaith hyn oedd dileu'r diffyg gweithredol a rhagwelir y byddai gwariant net yn £2.087m yn is; a
· Balans cronfa hapddigwyddiad a amcanestynnwyd o £5.279 miliwn
Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelid y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.037 miliwn yn uwch na’r gyllideb; a
· Y balans cloi a amcanestynnir ar 31 Mawrth 2017 yw £1.061 miliwn
Roedd yr adroddiad yn trafod symudiadau arwyddocaol yn y gyllideb; y rhaglen effeithlonrwydd; chwyddiant, cronfeydd wrth gefn a balansau; trosolwg o’r Cyfrif Refeniw Tai. Roedd ail-alinio cyllideb barhaol o fewn y portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei argymell i’w weithredu cyn cwblhau adroddiad monitro cyllideb Mis 10.
Esboniodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol lle cafwyd trafodaeth ar Isafswm Darpariaeth Refeniw ôl-weithredol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a nodi’r swm hapddigwyddiad a amcanestynnwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2017, a bod gwaith ar weithredoedd ac opsiynau ar gyfer gweithredoedd lliniaru yn cael ei gefnogi;
(b) Dylid nodi'r lefel terfynol o falensau a flaenamcanwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai; a
(c) Bod trosglwyddiad cyllideb o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei gymeradwyo.