Agenda item
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r
Gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru.
Cofnodion:
Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:-
Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth
- Cynnig i Adeiladu Croesfan Pâl i Gerddwyr ar yr A548 Ffordd Caer, Y Fflint
Nodi bod gwrthwynebiadau ffurfiol wedi cael eu derbyn fel rhan o’r weithdrefn ymgynghori statudol sydd wedi cael eu hadolygu a’u hystyried yn deg. Mae’r adroddiad dirprwyedig hwn yn cadarnhau cynnydd y cynigion i adeiladu Croesfan Pâl ar yr A548 Ffordd Caer, Y Fflint, yn cynnwys mân ddiwygiadau i’r dyluniad a hysbysebwyd.
- Cynnig i Adeiladu Cyfleuster Croesfan Pâl ar y B5444 Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug
Nodi bod gwrthwynebiadau ffurfiol wedi cael eu derbyn fel rhan o’r weithdrefn ymgynghori statudol sydd wedi cael eu hadolygu a’u hystyried yn deg. Mae’r adroddiad dirprwyedig hwn yn cadarnhau cynnydd y cynigion i adeiladu Croesfan Pâl ar y B5444 Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug.
- Cynnig i Adeiladu Croesfan Sebra ar Ffordd Llewelyn, Y Fflint
Nodi bod gwrthwynebiadau ffurfiol wedi cael eu derbyn fel rhan o’r weithdrefn ymgynghori statudol sydd wedi cael eu hadolygu a’u hystyried yn deg. Mae’r adroddiad dirprwyedig hwn yn cadarnhau cynnydd y cynigion i adeiladu Croesfan Sebra ar Ffordd Llywelyn, Y Fflint, yn cynnwys mân ddiwygiadau i’r dyluniad a hysbysebwyd.
- Cynnig i Adeiladu Croesfan Pâl i Gerddwyr ar yr A5119 Ffordd Fawr, Sychdyn
Nodi bod gwrthwynebiadau ffurfiol wedi cael eu derbyn fel rhan o’r weithdrefn ymgynghori statudol sydd wedi cael eu hadolygu a’u hystyried yn deg. Mae’r adroddiad dirprwyedig hwn yn cadarnhau cynnydd y cynigion i adeiladu Croesfan Pâl ar yr A5119 Ffordd Fawr, Sychdyn.
- Cynnig i Adeiladu Croesfan Pâl i Gerddwyr ar yr A5119 Ffordd Rhuthun, Yr Wyddgrug
Nodi bod gwrthwynebiadau ffurfiol wedi cael eu derbyn fel rhan o’r weithdrefn ymgynghori statudol sydd wedi cael eu hadolygu a’u hystyried yn deg. Mae’r adroddiad dirprwyedig hwn yn cadarnhau cynnydd y cynigion i adeiladu Croesfan Pâl ar yr A5119 Ffordd Rhuthun, Yr Wyddgrug.
- Cynnig i Weithredu Cyfyngiadau Aros (llinellau melyn dwbl), ar y B5444 Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug
Nodi bod gwrthwynebiadau ffurfiol wedi cael eu derbyn fel rhan o’r weithdrefn ymgynghori statudol sydd wedi cael eu hadolygu a’u hystyried yn deg. Mae’r adroddiad dirprwyedig hwn yn cadarnhau cynnydd y cynigion i weithredu cyfyngiadau aros (llinellau melyn dwbl), ar y B5444 Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug.
- Cynnig i Ostwng y Terfyn Cyflymder Presennol o 40mya ar yr A5026 Ffordd Holway, Treffynnon a Chyflwyno Ffordd Gyfyngedig (20mya) ar Adran o’r A5026 Ffordd Holway, Treffynnon a’r A5026 Whitford Street
Nodi bod gwrthwynebiad ffurfiol wedi cael ei dderbyn fel rhan o’r weithdrefn ymgynghori statudol sydd wedi cael ei adolygu a’i ystyried yn deg. Mae’r adroddiad dirprwyedig hwn yn cadarnhau cynnydd y cynigion i ostwng y terfyn cyflymder presennol o 40mya ar yr A5026 Ffordd Holway, Treffynnon a chyflwyno Ffordd Gyfyngedig (20mya) ar Adran o’r A5026 Ffordd Holway a’r A5026 Whitford Street, Treffynnon.
Tai a Chymunedau
- Gordaliadau Budd-dal Tai
Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 9.6) - Incwm a Gwariant, yn amodi y dylid rhoi gwybod i’r Pennaeth Cyllid am unrhyw ddyled unigol sydd werth rhwng £10,000 a £25,000, er mwyn ystyried ei dileu, ar y cyd â'r Aelod Cabinet Cyllid. Mae’r atodlen sydd ynghlwm wrth yr adroddiad pwerau dirprwyedig yn nodi Gordaliad Budd-dal Tai lle bo’r ddyled gyffredinol yn fwy na £10,000.
Dogfennau ategol: