Agenda item

Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023

Pwrpas:        Rhoi diweddariad am Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023 a rhwymedigaethau’r Cyngor sy’n ymwneud â darparu’r safonau newydd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai, adroddiad i roi diweddariad am Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC 2 2023) newydd a rhwymedigaethau’r Cyngor sy’n ymwneud â darparu’r safonau newydd.  

 

Llwyddodd y Cyngor i gwblhau’r rhaglen waith SATC flaenorol fel bod holl stoc y Cyngor yn bodloni’r Safon, ac roedd y rhaglen bellach yn y cam cynnal a chadw o’r rhaglen, gan ddarparu gwaith buddsoddi pellach i’r cydrannau hynny o fewn eiddo lle bod angen.  O ganlyniad i’r safonau newydd, byddai gofyn i’r Cyngor ddiweddaru ei fanylebau, briffiau gwaith a rhaglenni gwaith er mwyn cydymffurfio a’r canllawiau newydd.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth y prif Safonau a nodwyd ar gyfer yr holl dai cymdeithasol fel a ganlyn:-

 

·         Mewn cyflwr da.

·         Bod yn saff a diogel.

·         Yn fforddiadwy i’w gwresogi a chael yr effaith leiaf bosibl ar yr amgylchedd.

·         Yn cynnwys ardal gyfleustodau a chegin fodern.

·         Yn cynnwys ystafell ymolchi fodern.

·         Yn gyfforddus ac yn hybu lles.

·         Yn cynnwys gardd addas ac

·         Yn cynnwys lle deniadol y tu allan.

 

Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth am themâu newydd SATC 2 a’r amserlen ar gyfer cyrraedd y safon, fel a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ted Palmer ei fod yn pryderu nad oedd wedi cael holiadur fel Deiliaid Contract a gofynnodd a fyddai SATC 2 yn welliant ar y gwaith a wnaed fel rhan o SATC.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod yr holiaduron yr oedd yn cyfeirio atynt yn ei gyflwyniad yn cyfeirio at yr holiaduron gwreiddiol a anfonwyd at Ddeiliaid Contract yn 2014.  Byddai holiaduron pellach yn cael eu hanfon fel rhan o’r broses ymgynghori ar gyfer SATC 2.  Dywedodd hefyd y byddai SATC 2 yn welliant ar safon SATC, yn benodol mannau agored cymunedol a mynediad. 

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Geoff Collett am ‘Sero Net’, eglurodd y Rheolwr Gwaith Cyfalaf beth oedd ystyr ‘Sero Net’ fel rhan o SATC 2, gan amlinellu bioamrywiaeth fel sbardun tuag at sero net a lleihau allyriadau carbon.  Eglurodd hefyd fod angen edrych ar bob man gwyrdd a mannau a allai gael eu defnyddio i helpu i hyrwyddo bywyd gwyllt. 

 

Soniodd y Cynghorydd Bernie Attridge am y posibilrwydd i weithredu cynlluniau adfywio ar rai o’r ystadau a gofynnodd a fyddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r buddion i ardaloedd lle’r oedd nifer o eiddo’r Cyngor wedi’u prynu fel rhan o’r cynllun hawl i brynu.  Roedd y Rheolwr Gwasanaeth yn cytuno y byddai’n haws adfywio ardal lle’r oedd yr holl eiddo’r Cyngor yn dal i fod dan berchnogaeth y Cyngor a bod angen i’r Cyngor fod yn ofalus sut yr oedd arian y Cyfrif Refeniw Tai yn cael ei wario.  Dywedodd y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal gydag Aelodau a deiliaid contract wrth i’r Cyngor symud ymlaen â’i gynlluniau buddsoddi.  

 

Gan ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Pam Banks ynghylch difrod a achosir mewn eiddo, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod pob contractwr yn cael eu briffio ac y gofynnir iddynt ddarparu gofal priodol er mwyn diogelu eiddo rhag niwed diangen.  Gofynnodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio i’r Aelodau gysylltu ag ef os byddai unrhyw beth yn codi, er mwyn delio â’r materion mewn modd amserol. 

 

            Gofynnodd y Cadeirydd a oedd ystyriaeth yn cael ei rhoi ar gyfer methiannau derbyniol o hyd.  Dywedodd y Rheolwr Gwaith Cyfalaf fod LlC wedi newid y geiriad o ‘fethiannau derbyniol’ i ‘llwyddo’n amodol’, ond roedd yr ystyr yr un fath, felly pe na bai Deiliad Contract am i unrhyw ran o’r gwaith gael ei wneud, yn amodol ar iechyd a diogelwch, byddai hyn yn cael ei ganiatáu. 

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’i eilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r rhaglen buddsoddi cyfalaf yng ngham nesaf ei chyflwyno wrth symud tuag at gydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru a’r gofynion newydd wedi’u diweddaru.

Dogfennau ategol: