Agenda item

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 9) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 9)

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 9) ac adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 9).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Strategol sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2023/24 ym mis 9 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn i’r Cabinet ei hystyried.

 

Monitro’r Gyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, yr oedd y sefyllfa ddisgwyliedig ar ddiwedd y flwyddyn yn golygu bod yna ddiffyg gweithredol o £2.502 miliwn a oedd yn newid ffafriol o £0.440 miliwn ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym mis 8.  Byddai hyn yn gadael balans o £5.108 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn yn y gronfa wrth gefn at raid ar ôl union effaith y dyfarniadau cyflog a’r dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol.  O ganlyniad i’r moratoriwm parhaus ar wariant ymrwymedig heb fod dan gontract a phroses rheoli swyddi gweigion, yr oedd £1.548 miliwn o wariant gohiriedig a / neu hwyr wedi ei nodi ym mis 9.  Crynhowyd y newidiadau i gyllidebau a gymeradwywyd a wnaed ers mis 8 ynghyd ag amrywiannau sylweddol, risgiau yn ystod y flwyddyn / materion sy’n dod i’r amlwg a risgiau eraill sydd wedi eu holrhain fel y nodir yn yr adroddiad.  Yr oedd sefyllfa cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi yn cynnwys addasiad i falans disgwyliedig Treth y Cyngor a oedd wedi ei orddatgan ym mis 8.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gwariant a ragwelir o £0.049 miliwn yn fwy na’r gyllideb yn ystod y flwyddyn yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.148 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellwyd.

 

Parthed cais i ddwyn arian ymlaen ar gyfer Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi, gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson a allai’r Cyngor gadw ei allu i gyhoeddi is-ddeddfau lleol neu orfodi rhai blaenorol y tu hwnt i’r safonau ar gyfer Gweithdrefnau Arbennig.  Cytunodd swyddogion i geisio cael ymateb gan y portffolio.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i gwestiwn yngl?n â’r cais i ddwyn arian ymlaen yn ei bortffolio, ac awgrymodd y dylid rhoi eglurhad pellach mewn mwy o fanylder mewn sesiwn gaeedig cyn yr eitem nesaf ar y rhaglen.  Cadarnhaodd swyddogion cyllid fod tybiaethau yng nghyfrifiadau’r gyllideb yn seiliedig ar gymeradwyo’r ddau gais am ddwyn arian ymlaen.[1]

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at risgiau yn ystod y flwyddyn a chwestiynodd ba mor effeithiol yw lobïo Llywodraeth Cymru (LlC) yn barhaus yngl?n ag ariannu tecach.

 

Yngl?n â Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, dywedodd y Cynghorydd Christine Jones fod gwaith a oedd yn cael ei gyflawni i fynd i’r afael â phwysau galw ac amodau’r farchnad yn dechrau cael effaith gadarnhaol dros y tymor hirach.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Paul Johnson sicrwydd bod Prif Swyddogion ac Aelodau Cabinet yn parhau i wneud sylwadau cadarn, a bod Gweithgor Cyllid Tecach yn gwneud cynnydd.

 

Parthed cyllidebau portffolios, dywedodd y Cynghorydd Bill Crease y dylid adolygu’r dull o ragfynegi ar gyfer meysydd gwasanaeth â gorwariant o flwyddyn i flwyddyn.

 

Monitro’r Rhaglen Gyfalaf

 

Y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2023/24 oedd £92.859 miliwn, gan ystyried yr holl symiau a ddygwyd ymlaen ac arbedion a drosglwyddwyd yn ôl i’r rhaglen.  Yr oedd newidiadau yn ystod y cyfnod wedi digwydd yn bennaf oherwydd cyflwyno ffrydiau cyllid grant ac ailbroffilio’r gyllideb.  Yr oedd y sefyllfa derfynol a ragwelwyd yn £91.049 miliwn, a oedd yn gadael £1.810 miliwn o danwariant, yr argymhellwyd y dylid ei ddwyn ymlaen er mwyn cwblhau cynlluniau yn 2024/25 fel y nodwyd.  Yr oedd yr adroddiad yn manylu ar arbedion a nodwyd yn ystod y cyfnod a dim dyraniadau ychwanegol.  Yr oedd y sefyllfa gyffredinol o ran ariannu cynlluniau a gymeradwywyd yn dangos £2.312 miliwn o arian dros ben, cyn realeiddio derbyniadau cyfalaf ychwanegol a / neu ffynonellau cyllid eraill.

 

Cafodd yr ail argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (mis 9), y byddai’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.



[1]Mewn perthynas â’r ymateb gan Swyddogion Cyllid yngl?n â chyfrifiadau’r gyllideb ar gyfer y ceisiadau i ddwyn arian ymlaen, yr oedd y cyngor yngl?n â’r cais i ddwyn £0.050 miliwn ymlaen ar gyfer Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi yn gywir. Fodd bynnag, y sefyllfa wirioneddol parthed y cais £0.210 miliwn ar gyfer Llywodraethu oedd nad oedd y sefyllfa derfynol ddisgwyliedig yn cynnwys bod y cais i ddwyn arian ymlaen yn cael ei gymeradwyo ym mis 9. Felly, yn seiliedig ar gymeradwyo hyn, byddai gostyngiad o £0.210 miliwn yn nhanwariant Llywodraethu ym mis 10.  Bydd y sefyllfa’n ymwneud â thybiaethau ariannol ar gyfer ceisiadau pellach i ddwyn arian ymlaen yn cael ei hegluro ochr yn ochr â phob cais mewn adroddiadau misol yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: