Agenda item

Cais am Drwydded yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (Ar Y Cyd)

Gofynnir i’r Aeoldau ystyried a phenderfynu ar gails am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

Cofnodion:

YMDDYGIAD GYRRWR CERBYD HURIO PREIFAT / CERBYD HACNI (AR Y CYD)

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr adroddiad i ystyried cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd). Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor Trwyddedu ystyried a oedd yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas o fewn Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd) gyda’r Awdurdod hwn. 

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd bod Cyfieithydd yn cefnogi’r Ymgeisydd, a fyddai’n cyfieithu trwy gydol y gwrandawiad.

 

            Dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod yr Ymgeisydd wedi gwneud cais am Drwydded Yrru ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd), sydd i’w gweld yn Atodiad A.

 

            Darllenodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu adrannau 1.02 i 1.20 yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:-

 

            Datgelodd yr Ymgeisydd fod ganddo 6 phwynt ar ei drwydded yrru DVLA.

 

            Roedd yr Ymgeisydd wedi ateb ‘na’ i’r cwestiwn ynghylch a oedd yr ymgeisydd erioed wedi’i ganfod yn euog, wedi derbyn hysbysiad neu rybudd cosb benodedig am unrhyw drosedd ac eithrio troseddau moduro.

 

            Cafodd y datganiad ar y ffurflen gais ei lofnodi gan yr Ymgeisydd yn adran 9.  Roedd y datganiad yn gofyn i’r Ymgeisydd ddarllen yr adran yn ofalus ac i lofnodi os oeddent yn ei deall ac yn derbyn pob un o’r datganiadau.

 

            Ar ôl derbyn ymholiad talu ffi DVLA yr Ymgeisydd, daeth i’r amlwg bod ganddo 6 phwynt am droseddau MS90 (methu â rhoi gwybodaeth ynghylch pwy oedd y gyrrwr).  Mae’r ddogfen DVLA i’w gweld yn Atodiad B.

 

          Gofynnwyd am eglurhad ysgrifenedig ynghylch trosedd MS90 a’r pwyntiau dilynol. Fe’i derbyniwyd ar ffurf neges e-bost gan berthynas i’r Ymgeisydd, ac mae i’w gweld yn Atodiad C.

 

          Ar ôl derbyn Gwiriad Cofnodion Troseddol Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr Ymgeisydd, a wnaed fel rhan o’i gais am Drwydded Yrru ar y Cyd, daeth un euogfarn gyda dwy drosedd ar wahân i’r amlwg ers 2022. Roedd rhagor o fanylion i’w gweld yn Atodiad D.

 

          Darparwyd eglurhad ysgrifenedig pellach ynghyd â gwiriad y GDG, ond nid oedd yn cyfeirio at y rheswm pam na fu iddo ddatgelu’r euogfarn hon ar ei ffurflen gais.  Roedd yr ail eglurhad i’w weld yn Atodiad E.

 

                                                  Roedd Cyngor Sir y Fflint wedi mabwysiadu canllawiau ar ymdrin ag euogfarnau, rhybuddion a chosbau eraill a gofnodwyd. Roedd y rhain i’w gweld yn Atodiad F.

 

                                                  Cyfeiriwyd hefyd at Baragraff 2.2 yn y canllawiau uchod, a oedd yn nodi ‘o dan ddarpariaethau Adrannau 51 a 59, Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, ei bod yn ofynnol i’r Awdurdod Trwyddedu sicrhau bod y sawl sy’n ymgeisio am neu’n dymuno adnewyddu trwydded yrru ar gyfer Cerbyd Hacni / Cerbyd Hurio Preifat, yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar drwydded o’r fath. 

 

                                                  Roedd paragraff 4.1 yn cyfeirio at sut yr ymdrinnir ag euogfarnau, achosion o dorri amodau a throseddau honedig, ac mae paragraff 4.3 yn cyfeirio at droseddau gyrru difrifol. 

 

                                                  Cyfeiriwyd hefyd at baragraff 4.21 a oedd yn tynnu sylw at anonestrwydd ac er bod yr awdurdod trwyddedu yn derbyn na fu unrhyw euogfarnau am anonestrwydd, gellid ystyried y datganiad anwir ar y ffurflen gais fel cam anonest. Roedd paragraff 4.18 yn cyfeirio at drais. 

 

                                                  Roedd rhaid rhoi ystyriaeth hefyd i Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat yr Adran Drafnidiaeth ac mae paragraffau 5.12 a 5.14 yn y Safonau hyn yn cyfeirio at y prawf unigolion cymwys ac addas. 

 

                                                  Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor Trwyddedu ystyried a oeddent yn credu bod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas o fewn Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i feddu ar Drwydded Yrru ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd) gyda’r Awdurdod hwn.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Panel i ofyn cwestiynau.

 

                                                  Gofynnwyd i’r Ymgeisydd a oedd yn deall y gwaith papur yn llawn, ac yn benodol y cwestiynau ar y ffurflen gais. Atebodd yr Ymgeisydd nad oedd yn eu deall yn llawn, a dywedodd fod ganddo rywun i’w helpu, ond nad oedd yr unigolyn hwnnw’n deall popeth yn llawn.

 

                                                  Cyfeiriodd y Cadeirydd at drosedd MS90 (methu â rhoi gwybodaeth ynghylch pwy oedd y gyrrwr) a gofynnodd a oedd yr Ymgeisydd yn deall yr hyn a oedd yn gysylltiedig â’r drosedd sylfaenol. Dywedodd yr Ymgeisydd ei bod yn gysylltiedig â dirwy am oryrru. Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr euogfarnau am Ymosod Cyffredin a Churo a gofynnodd am eglurhad pam na chafodd hyn ei ddatgelu yn y gwaith papur.

 

                                                  Eglurodd y Cyfreithiwr mai ef oedd ymgynghorydd cyfreithiol aelodau’r Is-bwyllgor ac y byddai’n gofyn rhai cwestiynau er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth ar gael i’r Pwyllgor wneud penderfyniad a chaniatáu i’r Ymgeisydd ymhelaethu ar ei esboniadau. 

 

          Mewn perthynas â’r euogfarnau Ymosod a Churo a’r eglurhad a anfonwyd dros e-bost, gofynnodd pwy oedd yr unigolyn a ddarparodd yr eglurhad ac a oedd wedi cael gwybod y manylion llawn ynghylch yr hyn a ddigwyddodd. Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod wedi cael ei ysgrifennu gan ei Nai, ei fod wedi egluro popeth a ddigwyddodd wrtho a’i fod wedi gofyn iddo ei gofnodi.

 

          Cadarnhaodd yr Ymgeisydd mai yng Nghaer fu’r digwyddiad a’i fod yn gweithio fel Gyrrwr Uber Eats yn casglu ei archeb. Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod wedi parcio ar linellau melyn dwbl, ond dywedodd ei fod ar ddeall ei fod yn cael gwneud hynny am 5 munud. Dywedodd fod gyrwyr Uber Eats eraill yn parcio yno, felly nid oedd yn credu bod hynny’n broblem, a’i bod yn amhosibl parcio’r tu allan i’r rhan fwyaf o fwytai heb fentro cael dirwy. Gofynnodd y Cyfreithiwr a oedd Uber Eats wedi darparu canllawiau i yrwyr ynghylch lle dylent barcio. Dywedodd yr Ymgeisydd eu bod nhw wedi, ond nad oedd yn ymarferol cydymffurfio â’r canllawiau hynny, gan y byddai’r cwsmer yn cwyno am ansawdd y gwasanaeth. Gofynnodd y Cyfreithiwr a oedd yr Ymgeisydd mewn gwirionedd wedi derbyn nad oedd lle y bu iddo barcio yn cadw at y rheolau. Roedd yr Ymgeisydd yn derbyn hyn, ond dywedodd nad oedd ganddynt ddewis weithiau oherwydd gofynion y swydd.   

 

          Cadarnhaodd yr Ymgeisydd fod y digwyddiad yn ymwneud â Warden Traffig.    Holodd y Cyfreithiwr yr Ymgeisydd ynghylch ei eglurhad mai ymddygiad y Warden Traffig arweiniodd at y digwyddiad a gofynnodd i’r Ymgeisydd a oedd wedi cwyno am ymddygiad honedig y Warden Traffig. Cadarnhaodd yr ymgeisydd nad oedd wedi cwyno a dywedodd fod hyn oherwydd anawsterau ieithyddol, ac y byddai angen iddo logi gwasanaethau cyfieithu ar gyfer gwneud cwyn. Dywedodd ei fod yn ymwybodol hefyd iddo barcio ar linellau melyn dwbl, felly nad oedd wedi ystyried a oedd modd herio’r tocyn parcio. 

                                                 

          Gan gyfeirio at yr eglurhad ysgrifenedig, dywedodd y Cyfreithiwr nad oedd yn manylu ar yr hyn a berodd i’r Ymgeisydd gael ei gyhuddo am Ymosod a Churo.    Dywedodd yr Ymgeisydd ei fod y tu mewn i’r siop yn aros am ei archeb. Roedd yn cadw llygad bob hyn a hyn trwy’r ffenest, ond gofynnodd y ddynes iddo fynd i gefn y siop i gasglu’r archeb, a dyna pryd y sylwodd ei fod wedi cael tocyn gan y Warden Traffig. Ar ôl gweld faint y byddai’n rhaid iddo’i dalu, roedd yn flin, oherwydd ni fu yno fwy na 30 eiliad ac nid oedd y tâl o £2.80 a dderbyniodd werth y tocyn cosb. Ceisiodd egluro hyn wrth y Warden Traffig, a dyna pryd y cafodd ei gyhuddo o regi. Nid oedd yr Heddlu’n bresennol, ond bu iddynt ei arestio awr ynghynt wrth iddo wneud gwaith danfon.


            Gofynnodd y Cyfreithiwr i’r Ymgeisydd a fu’n bresennol yn y llys ac a wnaeth bledio’n euog i’r cyhuddiadau. Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod wedi mynychu, ei fod wedi ymddiheuro i’r Barnwr am barcio ar linellau melyn dwbl a’i fod wedi talu’r gosb.   Dywedodd nad oedd wedi pledio’n euog i’r cyhuddiadau am ymosod a churo, ond y bu i’r Barnwr ei ganfod yn euog. Roedd yn honni nad oedd wedi cyffwrdd yn y Warden Traffig ac nad oedd wedi gwneud unrhyw beth o’i le, pan ofynnodd y Cadeirydd iddo am y digwyddiad.  

 

                                                  Ceisiodd y Cyfreithiwr eglurhad gan yr Ymgeisydd, a oedd wedi methu â datgelu’r euogfarn gan nad oedd o’r farn ei fod wedi gwneud unrhyw beth o’i le neu gan nad oedd yn deall y cwestiwn ar y ffurflen gais. Dywedodd yr Ymgeisydd nad oedd yn deall y cwestiwn yn iawn ac nad oedd ychwaith yn credu y byddai’r digwyddiad gyda’r warden traffig ar ei gofnod gan y GDG, gan nad oedd wedi cyffwrdd ynddo. 

 

                                                  Gofynnodd y Cyfreithiwr a oedd yr Ymgeisydd wedi gofyn am eglurhad gan y Tîm Trwyddedu ynghylch diben y cwestiwn. Cadarnhaodd yr ymgeisydd nad oedd wedi ceisio eglurhad.

 

                                                  Gofynnodd y Cyfreithiwr i’r Ymgeisydd a oedd, ar ôl ystyried yr hyn a ddigwyddodd, yn dal i honni nad oedd wedi gwneud dim o’i le ac yn edifar. Dywedodd yr Ymgeisydd mai dim ond cyfaddef i barcio ar linellau melyn dwbl a wnaeth, a bod y fideo TCC a ddangoswyd yn y llys yn dangos yn amlwg nad oedd wedi cyffwrdd yn y dyn. Dywedodd y Cyfreithiwr wrth yr Ymgeisydd y gallai’r panel ystyried ei eglurhad, ond na fyddai modd iddynt ddiystyru’r euogfarn a nodwyd ar y ffurflenni.  

 

Rhoddwyd cyfle i’r Ymgeisydd ofyn cwestiynau. 

 

                                                  Ymddiheurodd yr Ymgeisydd os oedd rhywfaint o’r wybodaeth ar goll ar ei ffurflen gais, a dywedodd bod perygl iddo golli ei drwydded wrth weithio i Uber Eats, oherwydd natur y gwaith. Byddai gwneud cais am drwydded tacsi yn caniatáu swydd well a mwy diogel iddo i helpu cefnogi ei deulu. Dywedodd fod pob dogfen arall sy’n ymwneud â’r cais yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, ac mai’r unig beth sydd ei angen arno yw’r drwydded tacsi.

 

                                                  Gofynnodd y Cyfreithiwr a oedd yn dal i weithio i Uber Eats. Cadarnhaodd yr Ymgeisydd nad oedd, gan ei fod yn aros am y drwydded tacsi. Gofynnodd y Cadeirydd a oedd wedi rhoi’r gorau i weithio i Uber Eats oherwydd y Ffioedd. Cadarnhaodd yr Ymgeisydd nad oedd yn gysylltiedig â hynny, ond nad oedd am fentro cael mwy o bwyntiau ar ei drwydded.

 

                                                  Gofynnwyd cwestiwn ynghylch yr Euogfarnau am Ymosod a Churo, a gofynnwyd i’r Ymgeisydd a gafodd y ffilm o gamera corff y Swyddog ei dangos yn y Llys. Nododd yr aelod bod rhaid i Guro ymwneud â pheth elfen o gyswllt corfforol.   Cadarnhaodd yr Ymgeisydd bod y ffilm wedi cael ei chwarae yn y Llys, gan ddangos nad oedd wedi cyffwrdd ynddo, ac mai dyma pam mai dim ond hysbysiad cosb a gafodd.  

 

                                                  Gofynnwyd cwestiwn er eglurder ynghylch pam y cafodd drosedd gyrru MS90.  Cadarnhaodd y Cyfreithiwr fod cod MS90 yn ymwneud â throsedd lle bo ceidwad cofrestredig cerbyd yn methu â darparu enw’r unigolyn a oedd yn gyrru’r cerbyd ar ddyddiad penodol, a gofynnodd y Cadeirydd i’r Cyfreithiwr holi mwy ar yr Ymgeisydd am y drosedd hon.

 

          Dywedodd yr Ymgeisydd fod ei gar wedi cael ei werthu ac yna’i ddychwelyd iddo rai diwrnodau yn ddiweddarach gan yr unigolyn. Cyflawnwyd y drosedd goryrru yn ystod y cyfnod hwn, ond nid oedd yn gwybod pwy oedd yn gyrru’r car. Methodd â darparu enw’r unigolyn a oedd yn gyrru’r car i’r DVLA ac ni wnaeth roi gwybod iddynt ei fod wedi newid cyfeiriad, a dyma pam y bu iddo golli 6 phwynt. Dywedodd mai ef oedd yn gyrru’r car wedi’r cyfan, a phe bai wedi ymateb i’r llythyrau mewn pryd, dim ond 3 phwynt y byddai wedi’u derbyn. 

 

          Gofynnwyd cwestiwn ynghylch man geni’r Ymgeisydd. Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod wedi cael ei eni yn yr Almaen, ond i’w fam symud gartref a chofrestru ei enedigaeth yn Rwmania.  

 

                                                  Gofynnwyd cwestiwn ynghylch y ddau Eirda. Dywedodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu mai geirdaon cymeriad oedd y rhain ac o bosibl y byddai geirdaon gan gyflogwyr yn well, er nad oedd hynny’n ofynnol. Roedd un gan fecanig (cydweithiwr a ffrind) a’r llall gan ffrind, ond nid oedd yr un ohonynt yn perthyn i’r Ymgeisydd. Roedd y ddau o’r farn ei fod yn unigolyn addas, gonest a dibynadwy. Nodwyd bod hawl yr Ymgeisydd i weithio yn y wlad hon wedi dod i ben ym mis Rhagfyr 2025. Gofynnwyd i’r Ymgeisydd a oedd yn bwriadu ei adnewyddu, ac atebodd y byddai’n sicr o wneud hynny.

 

Cafodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu, yr Ymgeisydd a’r Cyfieithydd eu symud i’r cyntedd, er mwyn caniatáu i’r Panel wneud penderfyniad yngl?n â’r cais.

 

 

Penderfyniad ar y Cais

 

Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu, yr Ymgeisydd a’r Cyfieithydd yn ôl, er mwyn ailgynnull y cyfarfod.

 

          Dywedodd y Cadeirydd fod aelodau’r Is-bwyllgor wedi ystyried yr holl wybodaeth, gan gynnwys y manylion am yr euogfarnau, polisi’r Cyngor ar euogfarnau a’r canllawiau statudol, yn ogystal â’r eglurhad a dderbyniwyd gan yr Ymgeisydd.

 

          Roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried yr euogfarn am ymosod cyffredin a churo ym mis Ebrill 2022 ac roeddent yn fodlon ei fod yn berthnasol ac yn cyd-fynd yn amlwg o fewn cwmpas canllawiau'r Cyngor ar euogfarnau. Penderfynodd yr Is-bwyllgor nad oedd ganddynt unrhyw reswm da dros beidio â dilyn y canllawiau a oedd yn nodi nad oedd y Cyngor yn debygol o roi trwydded i ymgeisydd oni bai eu bod yn rhydd rhag euogfarnau o’r fath am 5 mlynedd o leiaf. 

 

          Bu i’r Is-bwyllgor ystyried yr eglurhad a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd, ond nid oedd o’r farn bod yr Ymgeisydd yn edifeiriol am yr euogfarn ac nad oedd yn ystyried bod anghytuno â’r hyn a ddigwyddodd go iawn yn esbonio pam ei fod wedi methu â datgelu’r euogfarn hwn. Dywedodd yr Is-bwyllgor, os oedd yr Ymgeisydd yn ansicr yngl?n â’r hyn roedd rhaid iddo’i ddatgelu, ni wnaeth unrhyw ymholiadau, felly nid oeddent wedi’u bodloni â’i eglurhad. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth hefyd i’r drosedd gyrru ym mis Rhagfyr 2022, a oedd yn ymwneud â methu â darparu manylion y gyrrwr. 

 

            Nid oedd yr Is-bwyllgor yn fodlon, o ystyried pob posibilrwydd, fod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat.   Cafwyd penderfyniad unfrydol i wrthod y cais.

 

 

Penderfyniad

 

Darllenodd y Cadeirydd benderfyniad yr Is-bwyllgor (fel yr uchod) a chyn cloi’r cyfarfod, dywedodd wrth yr Ymgeisydd fod ganddo’r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, ac y byddai copi ysgrifenedig o’r penderfyniad yn cael ei anfon ato.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cais yn cael ei wrthod, gan nad oedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat o fewn Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

 

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 12.04pm)

 

 

 

 

……………………………………..

Y Cadeirydd