Agenda item

Diweddariad Cynllun Ynni Ardal Leol

Cael diweddariad ar ddatblygiad ‘Cynllun Ynni Sir y Fflint’ a chyfrannu at yr ymgysylltu â budd-ddeiliaid.

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno diweddariad, rhoddodd y Rheolwr Rhaglen wybodaeth am y gweithdy ymgysylltu cyntaf a gynhaliwyd ym mis Mai 2022 gyda Swyddogion mewnol, a chyfeiriodd at yr ail weithdy gyda ARUP a gynhaliwyd pythefnos yn ôl. Cafodd ARUP eu contractio i ddatblygu Cynllun Ynni Ardal Leol a rhoddodd y Rheolwr Rhaglen ddiweddariad a oedd yn teimlo ei bod yn bwysig i’r pwyllgor ei ystyried a chynnwys unrhyw awgrymiadau.

 

            Roedd y sleidiau ynghlwm i’r rhaglen ond amlygodd y Rheolwr Rhaglen y sleidiau penodol i gael eu hystyried a darparodd wybodaeth fanwl ar y canlynol:-

 

  • Beth yw Cynllunio Ynni Ardal Leol? 
  • Beth yw eich system ynni lleol?
  • Gwaelodlin allyriadau carbon ar gyfer Sir y Fflint
  • Gwaelodlin defnydd o ynni - Diagram Sankey
  • Trafod ar Alw - opsiynau strategol posibl

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Allan Marshall at ddefnydd ynni mewn cartrefi a gofynnodd a oedd unrhyw astudiaethau wedi eu cyflawni i amlygu os oedd yn fwy effeithlon i aelwydydd i gael y gwres ymlaen drwy’r amser ar dymhered cyson, yn hytrach na defnyddio’r thermostat fel switsh i roi ymlaen a’i ddiffodd.

 

            Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen ei fod wedi ei arddangos bod cael gwers ymlaen drwy’r amser gan osod y thermostat ar dymheredd is yn fwy darbodus na defnyddio hwb mwy o ynni i wresogi ardal ar adegau penodol o’r dydd. Dyma oedd yr egwyddor a fabwysiadwyd gyda’r system pwmp gwres a oedd yn gwresogi ardal at dymheredd penodol i gynnal cydbwysedd yn hytrach na gostwng a chodi ynni. Roedd hwn yn dechneg brofedig a ddefnyddiwyd gyda thechnolegau mwy newydd.

 

            Rhoddodd y Cynghorydd Marshall sylw ei fod yn hanfodol bod hwn yn cael ei gyhoeddi i breswylwyr, a bod yr astudiaethau profedig yn cael eu cynnwys fel tystiolaeth.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Roz Mansell os oedd hyn yn berthnasol i swyddfeydd ac adeiladau mawr Cyngor Sir y Fflint.  Soniodd am gyfarfodydd yr oedd wedi eu mynychu yn yr Wyddgrug ac Ewloe lle’r oedd yr ystafelloedd yn boeth iawn. A fyddai modd gwneud arbediad os yw’r gwres yn cael ei droi i lawr neu ei ddiffodd yn ystod yr haf, ac a oedd newid y system wresogi wedi cael ei ystyried. Roedd yn teimlo bod hyn yn broblem mewn fflatiau’r cyngor hefyd. Cytunodd y Rheolwr Rhaglen i archwilio i mewn i hyn.

 

            Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bos y systemau gwresogi yn Neuadd y Sir ac Ewloe wedi cael eu diffodd ers nifer o fisoedd. Roedd rheoli tymheredd mewn gwahanol ardaloedd yn Neuadd y Sir yn anodd gan fod pob un o’r ystafelloedd gyfarfod wedi eu lleoli ar flaen yr adeilad, ac yn boeth oherwydd y gwydr a’r ffaith eu bod yn wynebu tua’r de. Roedd system awyru yn yr ystafelloedd ond nid oedd modd troi hwn ymlaen pan roedd pobl yn dod i mewn i’r ystafell, nid oedd yn caniatáu amser i’r ystafell oeri yn arbennig os oedd y ffenestri yn cael eu hagor. Nid oedd yn meddwl ei fod gwerth ail osod unrhyw beth yn Neuadd y Sir. Gan gyfeirio at Ewloe, cadarnhaodd bod mwy o opsiynau o ran diffodd y gwres yno a chytunwyd i ddod â hyn yn ôl i drafod yn y pwyllgor.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd os oedd modd anfon ymateb e-bost i aelodau’r pwyllgor, a chytunodd y Prif Swyddog.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Steve Copple at atgyfnerthu rhwydwaith trydan a gofynnodd beth oedd hyn yn ei gynnwys. Yna soniodd am ffermydd gwynt a gofynnodd a oedd yr adroddiad wedi ystyried ansawdd y cyflenwad p?er a fyddai’n cael eu gorlifo gan harmonig. Tyfodd hyn at bwynt lle roeddynt wedi difrodi cyfarpar sensitif, a cheisio sicrwydd y byddai p?er gwynt mas yn ystyried yr effaith o switshis trydan, cyfraddau nam a rhedeg y system heb ddifrodi gliniaduron na chyfrifiaduron.

 

            Cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen y byddai lefel o fanylder hynny yn cael ei gynnwys yn y cynllun terfynol a bod rhanddeiliaid a oedd yn cyfrannu at y cynllun yn cynnwys swyddog rhwydwaith dosbarthu a oedd yn gallu cynghori ar gapasiti grid ar draws y sir. Byddai hyn yn galluogi dealltwriaeth o beth sydd ei angen yn y sir, sut y gallai hyn gael ei hwyluso o fewn y seilwaith presennol a lle byddai angen ffocws buddsoddi i fodloni’r galw o’r tymor canolig i hir. Byddai’r rhanddeiliaid o fewn datblygiad y cynllun yn gallu cyfrannu at y manylion.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Copple at y term manylion gan nad yw rhai o’r dechnoleg yn bodoli eto, a gofynnodd a ellir ei amlygu nad oedd yn allu ffisegol ond hefyd y broses o ansawdd harmonig.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Alan Marshall at yr uwchraddio rhwydwaith sydd ei angen i ymdrin â ph?er ychwanegol a gynhyrchir gan baneli solar ar dai, a rhoddodd enghreifftiau o sut mae capasiti kw yn cael ei gynhyrchu. Os byddai’r ceblau yn rhy denau yna byddai’r foltedd yn lleihau os yw’n rhy uchel, yna byddai’n mynd â’r cynhyrchiant i’r tai eraill y tu allan i’r fanyleb. Byddai’n rhaid cynnwys y ceblau neu eu newid i leihau’r gostyngiad folt ar draws y cynhyrchiant hwnnw rhag mynd i’r rhwydwaith. 

 

            Roedd y Cadeirydd yn teimlo ei fod yn bwysig nodi’r cyfyngiadau o gyfrifoldeb y cyngor yn y maes hwn. Roedd hyn y tu hwnt i bwerau’r Cyngor. 

 

            Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi ei fod wedi mynychu’r gweithdy ac yn ymwybodol bod y Cynghorydd Marshall wedi sôn am ynni geothermal a’i botensial yn arbennig ar feysydd glo Gogledd Cymru. Amlygwyd hyn ac ychwanegwyd at y posibilrwydd i gyflenwad ynni.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y llinell amser a’r camau nesaf, a gofynnodd a ellir anfon cwestiynau gan Aelodau’r pwyllgor at yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi. Cytunodd yr Aelod Cabinet gyda’r dull hwn a dywedodd y byddai’n cyfeirio unrhyw gwestiynau technegol i’r Rheolwr Rhaglen.

Dogfennau ategol: