Agenda item
Parcio y Tu Allan i Ysgolion a Gorfodaeth
- Cyfarfod Cabinet, Dydd Mawrth, 25ain Ebrill, 2023 10.00 am (Eitem 160.)
- View the declarations of interest for item 160.
- Cefndir eitem 160.
Pwrpas: Adolygu parcio y tu allan i ysgolion a chynghori aelodau am y sefyllfa bresennol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o’r problemau sy’n bodoli ar hyn o bryd yng nghyffiniau ysgolion y sir, ac amlinellodd rolau a chyfrifoldebau’r holl bartïon dan sylw hefyd er mwyn ceisio dull cydweithredol a datrysiad effeithiol.
Ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ar 23 Mawrth 2023, penderfynwyd sefydlu Gr?p Tasg a Gorffen ar y cyd, a fyddai’n cynnwys Aelodau etholedig o’r ddau Bwyllgor Trosolwg a Chraffu, swyddogion o’r portffolios Addysg ac Ieuenctid a Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth, yr Heddlu a Phenaethiaid i archwilio'r materion yn fanylach a datblygu dull gweithredu cydweithredol ac ataliol gyda budd-ddeiliaid allweddol. Byddai'r Gr?p Tasg a Gorffen yn adrodd i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ei dro. Felly gofynnwyd am gymeradwyaeth y Cabinet i gefnogi creu'r gr?p.
Diolchodd i Aelodau'r ddau Bwyllgor am y drafodaeth lefel uchel a oedd wedi digwydd ac am beidio â chyfeirio at ysgolion unigol o fewn wardiau. O ran cynrychiolaeth ar y Gr?p Tasg a Gorffen, dywedodd fod angen Aelodau i gynrychioli cymunedau trefol a gwledig fel ei gilydd, yn ogystal â bod yn wleidyddol gytbwys.
Dywedodd fod angen cadw at Reolau’r Ffordd Fawr gan mai'r peth pwysicaf oedd diogelwch plant sy'n mynychu ysgolion.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod hon yn broblem fawr i benaethiaid ar draws y sir a fu’n gwneud gwaith gyda disgyblion ar gadw'n ddiogel ac anfonir nodiadau atgoffa rheolaidd at rieni fel rhan o gyfathrebu rheolaidd. Roedd yn bwysig cael cynrychiolaeth pennaeth ar y Gr?p Tasg a Gorffen ac apeliodd ar bob rhiant i yrru a pharcio'n gyfrifol.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) nad oedd un ateb unigol i fynd i'r afael â'r problemau a oedd yn gymhleth ac y byddai angen dull cydweithredol. Roedd Cylch Gorchwyl y Gr?p Tasg a Gorffen yn cael ei ddrafftio ar hyn o bryd a byddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Roberts, dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod Cymdeithas Llywodraethwyr yn Sir y Fflint sy’n darparu cynrychiolwyr ar gyfer cyrff eraill, felly byddai'n gwneud ymholiadau.
Roedd y Cynghorydd Bibby yn cefnogi sefydlu Gr?p Tasg a Gorffen ar y Cyd gan gynnwys cyfranogiad yr holl fudd-ddeiliaid y cyfeiriwyd atynt uchod.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi'r materion hanesyddol sy'n gysylltiedig â pharcio o fewn cyffiniau ysgolion, a chydnabod cyfrifoldeb defnyddwyr y priffyrdd yn unol â gofynion Rheolau'r Ffordd Fawr;
(b) Nodi'r hierarchaeth cyfrifoldeb mewn perthynas â rheoli traffig o fewn cyffiniau ysgolion a chydnabod rôl gorfodi fel mesur adweithiol yn hytrach na dull o atal digwyddiad yn y lle cyntaf;
(c) Bod creu Gr?p Tasg a Gorffen ar y cyd, a fydd yn cynnwys Aelodau etholedig o’r ddau Bwyllgor Trosolwg a Chraffu, swyddogion o’r portffolios Addysg ac Ieuenctid a Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth, yr Heddlu a Phenaethiaid i archwilio’r materion yn fanylach a datblygu dull cydweithredol ac ataliol gyda budd-ddeiliaid allweddol, yn cael ei gefnogi.
Dogfennau ategol: