Agenda item

Adolygiad Strategaeth Gwastraff

Pwrpas:        AdroddiadPrif Swyddog (Stryd a Chludiant) - Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r strategaeth cludiant rhanbarthol

 

Atodir y dogfennau canlynol i gynorthwyo Aelodau:

 

·         Copi o adroddiad Adolygiad Strategaeth Gwastraff

·         Copi o’r Cofnod o Benderfyniad

·         Copy o’r Hysbysiad Galw i Mewn

 

Cofnodion:

Sylwadau gan y rhai a lofnododd y cais galw i mewn

 

Amlinellodd y Cynghorydd Richard Jones y rhesymau dros y galw i mewn fel y manylwyd yn y Rhaglen.  Wrth roi sylwadau ar y rhesymau’n ymwneud â’r cynllun peilot arfaethedig, fe amlinellodd y sylwadau a wnaed gan Aelodau’r Cabinet wrth ystyried yr adroddiad ar yr Adolygiad Strategaeth Gwastraff, a oedd yn ymwneud â’r angen am well addysg a’r ffaith fod preswylwyr wedi gweithio gyda’r Cyngor yn y gorffennol i sicrhau cyfraddau ailgylchu uchel ac y gallai hyn ddigwydd eto.  Nid oedd llofnodwyr yr alwad i mewn o blaid cyflwyno cynllun peilot heb wybod y costau, yn enwedig o ystyried sylwadau’r Prif Swyddog, sef y gallai hyn fod yn anodd, yn heriol yn logistaidd, byddai’n gost ychwanegol ac y gallai addysg ac ymwybyddiaeth i breswylwyr weithio eto.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at y data a ddarparwyd i’r Aelodau yn ystod y Gweithdy ar y Strategaeth Wastraff a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2022 a oedd yn dangos fod amlder casgliadau’r Cyngor yr un fath â dau Gyngor arall gyda’r cyfraddau ailgylchu uchaf ar draws Cymru.  Soniodd am y cyfraddau casglu gwastraff ailgylchu yng Nghyngor Wrecsam a oedd yn 68% ar hyn o bryd a bod ganddynt finiau 240lr a chasgliad bob pythefnos.  Teimlai fod hyn yn dangos nad oedd gan gyfradd ailgylchu well unrhyw beth i’w wneud ag amlder y casgliadau na maint y bin du a phopeth i’w wneud ag addysg yngl?n ag ailgylchu. 

 

Cydnabu’r Cynghorydd Glyn Banks fod y cyfraddau casgliadau ailgylchu yn siomedig ar hyn o bryd ond teimlai fod y targed o 70% nid yn unig yn gyraeddadwy ond y gellir rhagori arno drwy weithredu’r cynigion a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet yn ôl ym mis Medi 2021 a heb orfod newid amlder y casgliadau.  Wrth amlinellu’r holl gynigion a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ym mis Medi 2021, nid oedd yn credu eu bod wedi cael eu gweithredu’n llawn, yn enwedig mewn perthynas ag addysg a gorfodaeth uwch.  Dywedodd fod y Cyngor yn dilyn Strategaeth LlC yn union ond nid oedd yn ei gweithredu ac nid oedd yn teimlo y gallai LlC roi dirwy i’r Cyngor am beidio â chyrraedd y targed, yn enwedig o ystyried y cynnydd mewn gweithio gartref o ganlyniad i’r pandemig.

 

O ran Cynnyrch Hylendid Amsugnol, croesawodd y Cynghorydd Banks y casgliad o’r cynnyrch hyn ond mynegodd bryder eu bod yn cael eu hanfon i’r Parc Adfer ac nad oeddent yn cael eu hailgylchu.  Dywedodd y gallai pwysau’r casgliad hwn gael cynnydd cadarnhaol ar y cyfraddau ailgylchu gan nodi Cyngor Gwynedd fel enghraifft o Gyngor a oedd yn anfon eu cynnyrch i Dde Cymru i’w ailgylchu.  Teimlodd fod hwn yn faes y gallai’r Cyngor wella arno.  Soniodd hefyd am y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ac er iddo ganmol y staff yn y canolfannau, roedd angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod yr holl wastraff cyffredinol yn cael ei wirio am wastraff ailgylchu.  Dywedodd, cyn y gellid rhoi unrhyw ystyriaeth i symud i gasgliad gwastraff bob 3 neu 4 wythnos, fod eisiau gweld bod yr holl gynigion o adroddiad mis Medi 2021 wedi cael eu rhoi ar waith a bod adroddiad pellach wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor.  Pe bai’r cynigion hyn yn cael eu rhoi ar waith ac yn cael dim effaith ar y targedau ailgylchu, yna roedd yn gwerthfawrogi efallai bod angen ystyried amlder y casgliadau ymhellach.  

 

Gwnaeth y Cynghorydd Helen Brown sylw ar y Cynnyrch Hylendid Amsugnol a theimlai pe bai hwn yn cael ei ailgylchu, fe allai’r Cyngor gyrraedd ei darged ailgylchu  Dywedodd fod llawer o breswylwyr yn cwyno am yr amser yr oedd yn ei gymryd i gael cadis ac nad oeddent bob amser ar gael. Hefyd, nid oedd preswylwyr yn ymwybodol nad oedd y gwastraff hwn yn cael ei ailgylchu. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Richardson pam fod newid amlder y casgliadau’n cael ei ystyried fel rhan o’r cynllun peilot, pan y gellid gwella meysydd eraill, megis addysg a gorfodi.  Dywedodd, ers iddo ddod yn Gynghorydd nad oedd wedi gweld unrhyw gamau gorfodi o fewn ei ward a soniodd am orfodi yn y sector preifat a oedd, meddai ef, yn rhagweithiol yn hytrach nac ymatebol.  Roedd yn teimlo y dylai’r Cyngor wneud ailgylchu’n haws i breswylwyr, gwnaeth sylw ar y bagiau ailgylchu yr oedd llawer o breswylwyr wedi cwyno amdanynt ac oriau agor Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref gan nad oeddent yn hygyrch i breswylwyr a oedd yn gweithio’n llawn amser.   

 

Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge o’r farn bod diffyg cysondeb o ran casgliadau gwastraff, a nododd fod gwastraff ar y palmant a chardbord yn cael eu casglu o rai eiddo ac nid eraill.  Soniodd am y gwaith partneriaeth rhwng y Cyngor a Chymdeithasau Tai a’r diffyg ailgylchu mewn fflatiau Cymdeithas Tai gan nad oedd biniau cymunedol yn cael eu darparu.  Awgrymodd y dylai’r Cyngor atal y Grant Tai Cymdeithasol i’r Cymdeithasau Tai tan eu bod yn darparu biniau digonol ar gyfer ailgylchu oherwydd y credai y byddai hyn yn cynorthwyo’r Cyngor â’i darged ailgylchu.  Dywedodd ei fod wedi bod yn falch iawn yn ystod ei amser fel Dirprwy Arweinydd bod y Cyngor wedi bod un o’r Cynghorau a oedd yn perfformio orau ar draws Gymru o ran targedau ailgylchu a dywedodd ei fod yn hyderus y gallai’r Cyngor gyrraedd y targedau eto heb orfod newid amlder casgliadau a oedd, yn ei farn ef, yn cosbi preswylwyr. 

 

Ymatebion gan y penderfynwyr

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) gyflwyniad manwl mewn ymateb i’r pryderon a’r sylwadau a wnaed gan y llofnodwyr a alwodd y penderfyniad i mewn, a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol:-

 

  • Rhesymau a ddarparwyd dros alw i mewn
  • Ymateb i’r Galw i mewn
  • Addysg
  • Gorfodi
  • Perfformiad awdurdod lleol arall

 

Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio i’r sylwadau yngl?n â swm y Cynnyrch Hylendid Amsugnol a gasglwyd a dywedodd fod y swm yn 470 tunnell y flwyddyn ac nad oedd hynny’n ddigon sylweddol i gyrraedd y targed ailgylchu o 64% heb sôn am y targed o 70% yn y dyfodol.  Dywedodd, er i’r gwasanaeth gael ei groesawu gan y cyhoedd a’u bod wedi parhau i weithio gyda LlC i chwilio am ddatrysiadau ailgylchu cynaliadwy hirdymor, ni fyddai’r gwastraff hwn ar ei ben ei hun yn ddigon i gyrraedd y targedau ailgylchu.  Dywedodd y dylid targedu gwastraff ailgylchu sy’n cael ei roi mewn biniau du a dywedodd fod 27% o wastraff bwyd yn cael ei roi mewn biniau du.  Roedd hyn yn gyfanswm o 6,620 tunnell o wastraff bwyd y llynedd ond dim ond 4,470 tunnell o wastraff bwyd a gasglwyd drwy’r gwasanaeth casglu wythnosol a ddarparwyd i breswylwyr.  Byddai sicrhau bod y math yma o wastraff yn cael ei roi yn y bin ailgylchu yn cael effaith sylweddol ar gyfraddau casgliadau ailgylchu.  

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio, yn dilyn ymrwymiad i gynyddu nifer y Swyddogion Gorfodi, bod 3 Swyddog ychwanegol wedi’u penodi i gynorthwyo â mynd i’r afael â phroblemau tipio anghyfreithlon. 

 

            Gwnaeth y Prif Swyddog sylw ar yr awgrym i anfon gwastraff Cynnyrch Hylendid Amsugnol i Dde Cymru fel yr oedd yn cael ei wneud gan Gyngor Gwynedd a dywedodd fod y dadansoddiad cost a budd cynnar a gynhaliwyd wedi awgrymu nad oedd yn gost effeithiol i’r Cyngor anfon y gwastraff hwn i Dde Cymru.  Dywedodd fod y gwastraff a oedd yn cael ei anfon i’r Parc Adfer yn cyfri tuag at y ffigyrau casgliadau ailgylchu.  Byddai pob dewis o ran sut oedd y gwastraff hwn yn cael ei waredu yn parhau i gael eu harchwilio.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog hefyd y byddai cardbord, ar yr amod ei fod yn cael ei wasgu’n fflat ac nad yw wedi’i halogi, yn cael ei gasglu i’w ailgylchu gan y gweithwyr. 

           

Gwahoddodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau i’r penderfynwyr.    

     

Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers ei fod yn ymddangos bod y Cabinet wedi pleidleisio o blaid y cynnig i dreialu gostyngiad o ran amlder casgliadau heb ystyried adroddiad manwl ar y cynllun peilot.  Dywedodd, wrth ystyried yr adroddiad yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar 10 Ionawr, fod yr Aelodau wedi cael eu hysbysu y byddai lleihau capasiti wythnosol y bin du yn gorfodi preswylwyr i ailgylchu.  Dywedodd nad oedd wedi cytuno â’r datganiad hwn ar y pryd ac nid oedd yn cytuno â’r datganiad r?an ar ôl wneud gwaith ymchwil pellach ac fe nododd y cyfraddau ailgylchu yng Nghyngor Wrecsam fel enghraifft o pam yr oedd yn teimlo bod y datganiad yn ddiffygiol.  Soniodd am y camau gorfodi mewn perthynas â gwastraff ymyl palmant a dywedodd fod 6 o rybuddion cosb benodedig wedi cael eu cyflwyno ers mis Medi 2021, a oedd, yn ei farn ef, yn rhoi’r argraff nad oedd gwastraff ymyl palmant yn broblem sylweddol.

 

Gan gyfeirio at yr adroddiad ar yr Adolygiad Strategaeth Gwastraff a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet ym mis Ionawr, soniodd y Cynghorydd Peers am y glasbrint, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, a oedd yn nodi, pe bai’n cael ei fabwysiadu, y byddai’n arwain at gyfraddau uwch o ailgylchu a chwestiynodd a oedd y glasbrint yn gweithio ac yn cael ei ddilyn, oherwydd nid oedd y cyfraddau ailgylchu uchel yn cael eu cyflawni.  Yn dilyn dadansoddiad cyfansawdd, roedd y teimlo bod y broblem yn ymwneud â’r aelwyd ddim yn ailgylchu’n iawn ac nid â lleihau capasiti biniau ac nid newid amlder casgliadau oedd yr ateb.  Dywedodd oes oedd preswylwyr yn rhoi eu gwastraff bwyd mewn bin du 180lr gyda chasgliadau bob pythefnos, byddant yn parhau i wneud yr un peth gyda chasgliadau bob 3 wythnos.

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod y Cynghorydd Peers yn gywir ac ni fyddai’r Cabinet wedi cefnogi cynllun peilot heb fanylion a bod y Cabinet wedi argymell y dylai adroddiad pellach gael ei gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol i amlinellu manylion penodol y cynllun peilot arfaethedig cyn gwneud penderfyniad yngl?n â symud ymlaen.  Dywedodd nad oedd yn gallu gwneud sylw ar y cyfraddau casglu yng Nghyngor Wrecsam gan nad oeddent yn gweithredu eu gwasanaeth yn fewnol ond dywedodd y gallai eu holi i ofyn beth yr oeddent yn ei wneud yn wahanol gan mai nhw oedd yr unig Gyngor oedd yn gweithredu’n wahanol i holl Awdurdodau Lleol Cymru.  O’r data a gasglwyd roedd y 4 Cyngor a oedd yn perfformio orau wedi lleihau maint y bin du i 60lr gydag un Cyngor yn cynyddu ei gyfraddau ailgylchu o 11%.   

 

Cytunodd y Prif Swyddog hefyd gyda’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Peers, mai’r rheswm nad oedd y Cyngor yn cyrraedd ei darged ailgylchu oedd oherwydd nad oedd rhai aelodau o’r cyhoedd yn ailgylchu’n gywir a bod gwastraff gweddilliol wedi cynyddu o 9% ac felly roedd yn angenrheidiol i’r Cyngor edrych ar gyfyngiadau i annog ailgylchu.

 

Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio i sylwadau y gallai’r cyhoedd a oedd yn ailgylchu’n rheolaidd deimlo fel eu bod yn cael eu cosbi’n ddiangen drwy’r newidiadau i amlder y casgliadau.  Nid oedd yn teimlo fod hon yn ddadl ddilys gan na fyddent angen y capasiti yn eu bin du.  Dywedodd y dylai’r cyhoedd gael eu hannog i ddefnyddio’r gwasanaeth ailgylchu cynhwysfawr, a ddarperir yn wythnosol, yn llawn.  

 

Gwnaeth y Cynghorydd Richard Jones sylw gan ddweud mai’r gwastraff bwyd oedd y gwastraff dwysaf a bod pryder yngl?n â phwysau’r gwastraff oes oedd preswylwyr yn parhau i roi’r gwastraff yma yn eu bin du.  Gwnaeth sylw ar yr argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Craffu ym mis Ionawr yngl?n â’r cynllun peilot ond dywedodd nad oedd yr Aelodau’n ymwybodol y byddai newid i amlder casgliadau heb wybodaeth bellach yn cael ei chyflwyno. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Glyn Banks sylw ar nifer y preswylwyr a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth Cynnyrch Hylendid Amsugnol a oedd yn cyfateb i lai na 0.1kg y person yr wythnos.  Dywedodd, hyd yn oed wrth ganiatáu ar gyfer y pwysau hwnnw o 470 tunnell, roedd ffi glwyd o £61,000 ym Mharc Adfer ac roedd yn teimlo y dylid ystyried anfon y gwastraff hwn i Dde Cymru ar y cyd â Chyngor Gwynedd. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Richardson a oedd swyddogion yn gweithredu camau gorfodi mewn perthynas â gwastraff ymyl palmant yn unig neu a oeddent hefyd yn gwirio’r gwastraff yn y biniau du.  Dywedodd fod gan rai teuluoedd 6 aelod ar un aelwyd a bod eraill yn byw ar eu pen eu hunain ac fe allai’r rhai hynny a oedd yn byw ar eu pen eu hunain barhau i roi eu gwastraff i gyd yn y bin du hyd yn oed gyda’r biniau llai. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Roy Wakleman, pan eiliodd y cynnig am gynllun peilot yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu ym mis Ionawr, roedd y drafodaeth ynghylch addysgu preswylwyr ac fe gwestiynodd sut yr oedd y newid i amlder casgliadau i 3 yr wythnos wedi cael ei gynnwys yn y cynllun peilot pan gafodd ei ystyried gan y Cabinet.  Wrth sôn am y cyfarfod Pwyllgor hwnnw, dywedodd y Cadeirydd nad oedd un datrysiad addas i bawb ond awgrymwyd hefyd y dylid ystyried cynllun peilot.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Chris Dolphin y sylwadau a wnaed gan swyddogion am wastraff bwyd a dywedodd bod angen mwy o addysg a chamau gorfodi.  Siaradodd am ei brofiad personol o allu ailgylchu’n gyfan gwbl gyda 4 oedolyn a 2 fabi ar un aelwyd a’r angen am addysg a allai gael ei ddarparu drwy daflenni i breswylwyr yn amlinellu’r dirwyon a allai gael eu gosod ar y Cyngor os nad yw’n cyrraedd y targedau ailgylchu.  Siaradodd o blaid Dewis 3 fel argymhelliad gan y Pwyllgor, ac y dylai’r penderfyniad gael ei ailystyried gan y Cabinet gan nad oedd o blaid cynllun peilot a theimlai y dylai’r Cyngor fwrw ymlaen â chyflwyno casgliad bob 3 wythnos gan na fyddai’r preswylwyr hynny sy’n ailgylchu ar hyn o bryd yn cael eu heffeithio.   

 

Siaradodd y Cynghorydd Ian Hope am yr angen am addysg, gan gyfeirio at sefyllfa ddiweddar lle’r oedd wedi ymweld ag ysgolion ac roedd wedi’i siomi â’r diffyg addysg yn yr ysgol a gartref, wrth gwestiynu plant ar eu gwybodaeth am ailgylchu.       

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai addysg yn beth da iawn ond byddai’r targed ailgylchu o 70% yma cyn y gellid cyflawni’r holl addysg.

 

Soniodd y Cynghorydd Mared Eastwood am leihau’r biniau du i rai 60lr a gofynnodd lle’r oedd hyn o fewn y glasbrint yr oedd LlC yn disgwyl i’r Cyngor ei gyflawni.  Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd maint y biniau yn y glasbrint gan nad oedd LlC wedi nodi litrau yr wythnos.  Roedd y Cyngor wedi casglu llawer iawn o ddata a thystiolaeth fod gan y Cynghorau hynny a oedd wedi lleihau eu biniau du i rai 60lr gyfraddau ailgylchu uwch.  Roedd LlC yn adolygu’r glasbrint, ond roedd cyfrifoldebau ychwanegol, megis y casgliadau gwastraff Cynnyrch Hylendid Amsugnol, wedi cael eu rhoi ar Awdurdodau Lleol fel rhan o’r glasbrint cyfredol.       

 

Dywedodd y Cynghorydd Dan Rose, wrth gynnig y cynllun peilot yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu ym mis Ionawr, fod y Pwyllgor wedi trafod addysg a bod y fethodoleg a fyddai’n cael ei defnyddio ar gyfer y cynllun peilot yn fanylyn pwysig i’r Aelodau ei wybod.  Dywedodd fod angen i’r Cyngor edrych ar yr holl ddewisiadau ar gael er mwyn rhoi hyder i Swyddogion wrth gyfarfod â Gweinidogion LlC i ddangos pa gamau gweithredu oedd yn cael eu hystyried / cymryd.  Teimlai mai pwrpas y cynllun peilot oedd i gael dealltwriaeth fanylach yngl?n â pham nad oedd preswylwyr yn ailgylchu ac y byddai’r ardal ddewisol yn bwysig o ystyried bod 47% o wastraff ailgylchu yn cael ei roi yn y bin du ar hyn o bryd.  Gofynnodd a oedd y 47% o wastraff ailgylchu yn seiliedig ar bwysau neu gyfaint.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio  fod y data’n seiliedig ar bwysau.  Ychwanegodd y Prif Swyddog hefyd, yn ystod yr ystyriaeth o’r Strategaeth Wastraff yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Craffu a’r Cabinet, ni fanylwyd ar amlder casgliadau yn ystod y cynllun peilot.  Y bwriad o gyflwyno adroddiad pellach i’r Cabinet ar y cynllun peilot fyddai i ystyried dewisiadau amrywiol yngl?n ag amlder a maint y bin. 

 

Amlinellodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol y goblygiadau ariannol i’r Cyngor o beidio â chyrraedd y targedau ailgylchu a oedd yn cyfateb i 0.7% o Dreth y Cyngor.  Dywedodd nad oedd unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud i dreialu gwasanaeth casglu gwastraff bob tair wythnos ond dywedodd y byddai cynllun peilot, ar ôl ei gytuno gan y Cabinet, yn darparu data a thystiolaeth ar yr effeithiau y byddai unrhyw newidiadau yn eu cael. 

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y rhai a alwodd y penderfyniad i mewn i grynhoi.

 

Wrth grynhoi, dywedodd y Cynghorydd Richard Jones ei bod yn annheg i swyddogion ddweud bod dewisiadau eraill, ochr yn ochr â newid amlder casgliadau, yn cael eu hystyried gan y Cabinet, oherwydd dim ond treialu casgliadau bob tair wythnos a drafodwyd yng nghyfarfod y Cabinet.  Yn ystod cyfarfod y Cabinet, roedd y Prif Swyddog wedi cynnig cyflwyno adroddiad eto ar y cynllun peilot ond byddai hwn yn cynnwys gwybodaeth ar yr ardal a ddewiswyd a data arall yn ymwneud â chasgliadau bob 3 wythnos ac nid gwahanol fathau o gynlluniau peilot.  Nid oedd y credu y byddai newid amlder y casgliadau yn cael effaith gadarnhaol oherwydd y galli hyn ddifreinio preswylwyr i wneud y peth iawn.  Teimlai hefyd bod llofnodwyr yr alwad i mewn wedi darparu digon o dystiolaeth bod amheuaeth gyda phenderfyniad y Cabinet yngl?n â’r cynllun peilot a bod angen newid ymddygiad preswylwyr a fyddai’n ffordd well o gynyddu cyfraddau ailgylchu. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Glyn Banks i’r Pwyllgor ystyried Dewis 3 neu 4 fel argymhelliad a dywedodd os oedd y Cabinet o blaid bwrw ymlaen â’r cynllun peilot, dylai pob dewis o ran amlder casgliadau a maint biniau gael eu hystyried er mwyn darparu data cywir i’r Cyngor. 

 

Wrth grynhoi, dywedodd y Prif Swyddog, ni waeth pa gamau yr oedd y Cyngor yn eu cymryd roedd yn dal i wynebu dirwy o £663,000 am beidio â chyrraedd y targedau ailgylchu a osodwyd gan LlC y llynedd ac roedd yn debygol o gael dirwy bellach yn y flwyddyn ariannol hon.  Dywedodd fod y Cyngor yn addysgu pobl ac yn cymryd camau gorfodi ond nid oedd aelodau o’r cyhoedd a oedd yn gwrthod ailgylchu yn newid eu hymddygiad ac roedd hyn yn peri risg ariannol sylweddol i’r Cyngor. 

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd atgoffa’r Aelodau o’r dewisiadau ar gyfer gwneud penderfyniad fel y manylwyd yn eitem 3 ar y rhaglen.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mared Eastwood a oedd yr Aelodau eisiau gweld cynigion manwl yngl?n â sut y byddai’r cynllun peilot yn gweithio, pa Ddewis fyddai hyn ar gyfer yr argymhelliad.  Dywedodd y Cadeirydd mai Dewis 3 fyddai hyn, i ofyn i’r Cabinet edrych ar y penderfyniad eto.

 

Cynigodd y Cynghorydd Mike Peers Ddewis 3 ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ian Hodge.  Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd y cynnig.

     

Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers am gael nodi pryderon yr Aelodau’n ysgrifenedig i’r Cabinet. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried y penderfyniad, bod y Pwyllgor yn parhau i fod yn bryderus amdano ac ei fod yn cyfeirio’r penderfyniad hwn yn ôl i’r Cabinet er mwyn ei ailystyried yn y cyfarfod cynharaf posib.

Dogfennau ategol: