Agenda item

Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2022-23

Pwrpas:        Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) Adroddiad Perfformiad Canol Blwyddyn ar gyfer Cynllun y Cyngor ac eglurodd fod yr adroddiad yn rhoi dadansoddiad ar gyfer Cynllun y Cyngor cyfan ac nid portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yn unig, gan nodi cynnydd o fewn y sefydliad ar gamau gweithredu a mesurau.  Roedd yr adroddiad yn nodi’r mesurau nad oeddynt ar y trywydd iawn ac wedi’u categoreiddio yn goch. Doedd dim yn y portffolio hwn. Fe dynnodd sylw at y prif bwyntiau o fewn yr adroddiad oedd yn dod o dan y pum maes roedd y portffolio hwn yn cyfrannu atynt:-

 

·         Byw’n Annibynnol

·         Diogelu

·         Cymorth i Bobl Fyw Gartref

·         Strategaeth Dementia Lleol

·         Amgylchedd lleol glân, diogel gyda chysylltiadau da 2022/23

 

Gan ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cadeirydd, dywedodd yr Uwch Reolwr Oedolion y dylai pobl oedd yn credu eu bod angen cyfarpar yn y cartref gysylltu â’r tîm un pwynt mynediad ac ar ôl yr asesiad hwnnw, byddai rhywfaint o gyfarpar yn cael eu darparu’n gyflym gan Storfa Cyfarpar Cymunedol. Byddai unrhyw beth oedd yn ymwneud ag addasu cartrefi yn cymryd hirach i’w gyflawni.

 

Gan ymateb i faterion a godwyd gan y Cynghorydd Ellis yngl?n â chyfarpar a gofal, dywedodd yr Uwch Reolwr ar gyfer  Oedolion fod y rhestr aros am becynnau gofal wedi gostwng yn sylweddol yn yr wythnosau diwethaf. Roedd pobl mewn ardaloedd mwy gwledig yn aros am sawl wythnos yn ogystal â phobl sydd angen gofalwyr sawl gwaith y dydd.  Gyda chefnogaeth gan y Tîm Brocera a’u perthynas gyda darparwyr Gofal Cartref, maent wedi bod yn edrych ar ffyrdd o recriwtio gofalwyr i’r asiantaethau hynny oedd yn gallu ei ddarparu'n uniongyrchol. Roedd y nifer o oriau roedd pobl yn aros am ofal wedi lleihau 400 awr dros yr wythnosau diwethaf, gyda 150 awr arall o bosibl allai gael eu cynnig i bobl yn y gymuned.   Ar hyn o bryd, nid oedd unrhyw un yn aros Ysbyty Iarlles Caer yn aros am becyn gofal oherwydd y cynnydd mewn oriau.

 

Fe ychwanegodd nad oedd yr amser ymateb ac asesiad gan Therapi Galwedigaethol yn flynyddoedd fel roedd rhywun wedi ei awgrymu: yr arhosiad hiraf oedd wedi’i gategoreiddio’n flaenoriaeth isel oedd chwe mis. Roedd hyn yn amser hir i unigolyn oedd yn aros ond roedd y bobl oedd wedi’u categoreiddio’n ‘uchel’ yn cael eu gweld yn gyflym.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey faint o bobl oedd yn aros am becyn gofal o Ysbyty Maelor Wrecsam oedd yn gorfod dod i Ysbytai Cymunedol.   Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Oedolion eu bod yn defnyddio Ysbytai Cymunedol i ryddhau pobl o Ysbyty Maelor a chadarnhaodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu fod tri unigolyn yn aros am becyn gofal ar hyn o bryd.

 

Rhoddodd yr Uwch Reolwr Oedolion sicrwydd i Aelodau na fyddai pobl yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty yng Nghymru os nad oedd hi’n ddiogel. Roedd hi’n ymwybodol bod pobl yn cael eu symud i westai cyn bod pecynnau gofal yn cael eu trefnu yn Lloegr.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

          PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod y Pwyllgor yn nodi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni'r blaenoriaethau canol blwyddyn yng Nghynllun y Cyngor 2022/23;

 

(b)      Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo ac yn cefnogi’r perfformiad cyffredinol yn ôl dangosyddion perfformiad canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022/23;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn fodlon â’r esboniadau a roddwyd ar gyfer y meysydd lle bu tanberfformiad; a

 

(d)      Bod y Pwyllgor yn fodlon â’r meysydd lle’r ydym yn perfformio’n well.

Dogfennau ategol: