Agenda item

Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth am egwyddorion craidd Ailgartrefu Cyflym a’r broses o ddatblygu Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym Sir y Fflint, sy’n cefnogi uchelgais y Cyngor a Llywodraeth Cymru i ddod â digartrefedd i ben.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal adroddiad yn rhoi diweddariad ar gynnydd gyda datblygu’r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym.  Nododd yr adroddiad fod blaenoriaethau lefel uchel wedi eu cynnwys o fewn y Cynllun Pontio, ac roedd cynllun gweithredu drafft y byddai angen i Gyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid ei ddarparu i gyflawni trawsnewid mewn atal digartrefedd a gwasanaeth digartrefedd statudol, a dechrau pontio i Ailgartrefu Cyflym. 

 

Dywedodd fod rhaglen TrACE yn cael ei datblygu o ran trawma ac anghenion cymhleth.  Ychwanegodd hefyd fod cefnogi’r gweithlu trwy ddatblygiad a hyfforddiant er mwyn meithrin cadernid yn y gwasanaeth, er mwyn osgoi rhoi gormod o bwysau ar staff, a fyddai yn ei dro yn helpu i gynnal a chadw staff hefyd, yn rhan hanfodol o hyn. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth wrth y Pwyllgor eu bod yn ceisio sicrhau darpariaeth ar gyfer ail ganolbwynt digartrefedd ar gyfer gogledd a de Sir y Fflint, a soniodd am yr angen i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy.  Rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor fod ymrwymiad i barhau i helpu pobl i gynnal tenantiaethau.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio i’r Rheolwr Gwasanaeth am yr adroddiad manwl.  Soniodd am astudiaeth achos lwyddiannus o ran Ailgartrefu Cyflym yr oedd wedi clywed amdani ar gyfer Perth & Kinross, a dywedodd y byddai’n hapus i rannu’r wybodaeth gyda’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.  Ychwanegodd y byddai’n hoffi gweld rhagor o straeon llwyddiant yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfodydd yn y dyfodol ar y gwaith sy’n cael ei wneud gan y Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin mai’r her fwyaf oedd caffael mwy o stoc tai a gofynnodd beth ellid ei wneud i hwyluso mwy o asedau ar gyfer fflatiau dwy ac un ystafell wely.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod yn gweithio’n agos gydag asedau i archwilio rhagor o gyfleoedd o ran stoc.

 

Soniodd y Cynghorydd Glyn Banks am eiddo gwag a dywedodd ei fod yn teimlo bod angen rhoi ystyriaeth i hyn ym mhob cyfarfod, er bod y Pwyllgor wedi cytuno o’r blaen i gael adroddiad diweddaru am eiddo gwag ymhen chwe mis.  Cefnogwyd ei sylwadau gan y Cynghorydd Kevin Rush.  Dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) fod y Pwyllgor wedi argymell adroddiad diweddaru ymhen chwe mis yn ei gyfarfod diwethaf, i ganiatáu i’r camau yn y cynllun gweithredu gael eu gweithredu.  Yn y cyfamser, byddai’r Pwyllgor yn cael gwahoddiad i ymweliad safle, i gymryd rhan mewn eglurhad fesul cam o’r broses eiddo gwag o’i dechrau i’w diwedd. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd iddi fynychu cyfarfodydd y Gweithgor Eiddo Gwag, fel Cadeirydd y Pwyllgor, fel arsylwr.  Eglurodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio y byddai’n rhan o’r Gweithgor Eiddo Gwag bellach a byddai’n croesawu presenoldeb Aelodau’r Pwyllgor pan fo hynny’n briodol. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fu unrhyw gynnydd wrth nodi lleoliadau addas newydd i’r canolbwynt Digartrefedd presennol.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod safle posibl wedi’i nodi yn ardal Glannau Dyfrdwy.  Byddai angen cynnal astudiaeth ddichonoldeb a byddai ymgysylltu ag Aelodau lleol, cyn i adroddiad diweddaru gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet.

 

Cafodd yr argymhellion, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin a’r Cynghorydd Dale Selvester. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y cynnydd hyd yma, fel a ddangosir yn yr adroddiad, yn cael ei nodi; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r blaenoriaethau lefel uchel a’r cynllun gweithredu cyn mabwysiadu’r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym Llawn yn ffurfiol erbyn diwedd Chwarter 3 2022-23.

Dogfennau ategol: