Agenda item

Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 6) a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Mis 6)

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 6), Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Mis 6) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) y sefyllfa derfynol mis 6 2022/23 ar gyfer monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

Ar Gronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa ragweledig ar ddiwedd y flwyddyn yn ddiffyg gweithredol o £0.033 miliwn gan adael balans cronfa hapddigwyddiad o £8.071 miliwn a fyddai’n lleihau i £2.8 miliwn ar ôl bodloni’r costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn o’r dyfarniad cyflog 2022/23.  Rhannwyd diweddariad ar y gostyngiad mewn cronfeydd wrth gefn brys Covid-19 a’r hawliadau parhaus ar gyfer Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru a oedd bellach yn destun cymhwysedd cyfyngedig.  Rhoddwyd crynodeb o amrywiaethau sylweddol ar draws portffolios yn ystod y cyfnod gan gynnwys symudiad cadarnhaol o ran Cyllid Corfforaethol a Chanolog gan arwain at newidiadau i gyfraddau llog banc.  Roedd olrhain y risgiau yn y flwyddyn yn adrodd ar sefyllfa bresennol ar ddyfarniad cyflog gyda chanlyniad dyfarniad athrawon o dan drafodaeth ac effaith y newidiadau i Yswiriant Gwladol i’w adrodd ym Mis 7.  Roedd risgiau eraill yn adlewyrchu galw uchel cynyddol ar gyfer lleoliadau tu allan i’r sir a chymorth ar gyfer digartrefedd a fydd yn cael ei fonitro’n agos.  Disgwyliwyd i bob un o’r arbedion effeithlonrwydd sydd ar y gweill yn ystod y flwyddyn gael eu cyflawni yn 2022/23.

 

Yn y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant arfaethedig o £3.324 miliwn yn fwy na’r gyllideb yn ystod y flwyddyn yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.150 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellir.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cytunodd y swyddogion Cyllid ymateb ar wahân ar yr effaith posibl pe byddai’r ddyled heb ei dalu o £1.14 miliwn gan y Bwrdd Iechyd ar y pecynnau gofal a ariennir ar y cyd, yn cael eu dderbyn.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bernie Attridge sylw ar y gorwariant a thanwariant sylweddol parhaus yn arbennig o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol a gofynnodd be allai gael ei wneud i wella gosod y gyllideb.  Dywedodd bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai wedi cael eu hysbysu fod y pwysau net cynyddol ar gyfer eiddo gwag yn debygol o gael ei ddatrys.

 

Wrth ymateb, cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Strategol at effaith y grantiau hwyr a rhoddodd sicrwydd o gysylltiad rheolaidd gyda rheolwyr gwasanaeth er mwyn cyflawni adolygiadau manwl o gyllidebau.

 

O ran y Gwasanaethau Cymdeithasol, eglurodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) fod problemau recriwtio yn y sector gofal annibynnol wedi effeithio ar bwysau ar gyfer gwasanaethau darparwyr y Cyngor.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2022/23 oedd £91.979 miliwn, gan ystyried bod yr holl symiau a ddygwyd ymlaen ac arbedion yn trosglwyddo’n ôl i’r rhaglen.  Roedd newidiadau yn ystod y cyfnod yn bennaf oherwydd cyflwyno ffrydiau ariannu grant ar draws y portffolios ac ailbroffilio’r gyllideb.  Roedd y sefyllfa alldro a ragwelwyd yn £87.416 miliwn gan adael £4.563 miliwn o danwariant a argymhellwyd y dylid ei gario drosodd er mwyn cwblhau cynlluniau yn 2023/24 fel y nodwyd.   Roedd y diweddariad hefyd yn adlewyrchu dau ddyraniad ychwanegol i gael ei ariannu o fewn y ddarpariaeth ychwanegol gyfredol ac arbedion untro i gael eu dychwelyd yn ôl i’r rhaglen.  Roedd y sefyllfa gyffredinol ar ariannu cynlluniau cymeradwy yn adlewyrchu £3.376 miliwn o arian dros ben cyn ystyried y derbyniadau cyfalaf  ychwanegol a/neu ffynonellau cyllid.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Bernie Attridge ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/23 (mis 6) bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet; ac

 

(b)       Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (mis 6) bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.

Dogfennau ategol: