Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig A Chyllideb 2023/24

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar yr  amcangyfrifon cyllideb a’r strategaeth ar gyfer gosod cyllideb 2023/24.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf ag Aelodau ar y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2023/24 cyn i sesiynau briffio Aelodau a phwyllgorau Trosolwg a Chraffu adolygu pwysau costau a chynigion effeithlonrwydd yn ystod yr Hydref.

 

Ers nodi gofyniad cyllidebol ychwanegol o £16.503 miliwn ar gyfer 2023/24 ym mis Gorffennaf, roedd gwaith pellach wedi’i gwblhau i adlewyrchu’r gofynion gwasanaeth newidiol ac asesu effaith y dyfarniadau tâl sydd ar y gweill a’r pwysau chwyddiannol yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf, fel y nodir yn yr adroddiad.   Roedd adroddiad am yr effaith yn ystod y flwyddyn yn yr eitem nesaf.    Roedd y rhagolwg diwygiedig yn dangos isafswm gofyniad cyllidebol o £24.348 miliwn ychwanegol o adnoddau refeniw ar gyfer 2022/23, fel y gwelir yn Nhabl 1.   Eglurwyd pwysau dirprwyedig ysgolion a phwysau eraill a oedd yn parhau i gael eu hadolygu.   Roedd nifer o risgiau parhaus a allai gael effaith pellach ar ofynion cyllidebol ychwanegol a byddai hyn yn parhau i gael ei adolygu, gan gynnwys canlyniadau dyfarniadau cyflog a Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir.

 

Roedd y datrysiadau cyllidebol a oedd ar gael i’r Cyngor yn ategu’r angen am gymorth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (LlC) i fodloni costau pwysau megis chwyddiant a dyfarniadau tâl cynyddol a oedd y tu hwnt i reolaeth cynghorau.   Atgoffodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Aelodau o ffigurau dangosol y setliad a ddarparwyd ar gyfer 2023/24 a 2024/25, a chynghorodd y byddai cynnydd setliad y Cyngor i gyfartaledd Cymru’n cyfateb ag £8 miliwn ychwanegol.   Heb gynnydd atodol i’r setliad, byddai’r Cyngor yn wynebu her ddifrifol a sylweddol o ran bodloni ei ddyletswydd statudol i osod cyllideb gytbwys a chyfreithiol ar gyfer 2023/24 a’r blynyddoedd i ddod.

 

Gan fynegi pryderon am ddifrifoldeb y sefyllfa a chydnabod effaith sylweddol penderfyniadau cenedlaethol megis dyfarniadau tâl a chwyddiant, dywedodd y Cadeirydd na ddylai datrysiadau gynnwys cynnydd mewn costau ac nad oedd graddfa’r arbedion effeithlonrwydd i fodloni’r blwch yn ymarferol, a oedd yn ategu’r angen i gyflwyno sylwadau i LlC.

 

Cytunodd y Cynghorydd Bernie Attridge y dylid cyflwyno sylwadau uniongyrchol i Weinidogion yng Nghaerdydd am gyllid ychwanegol er mwyn osgoi cael effaith ar wasanaethau craidd.   Dywedodd na ddylid disgwyl i gynghorau ariannu penderfyniadau cenedlaethol a chyfeiriwyd at y dull ariannu gwahanol a ddefnyddir mewn adrannau eraill o’r sector cyhoeddus.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Ian Roberts sicrwydd eu bod yn parhau i geisio sicrhau cyllid ar gyfer penderfyniadau cenedlaethol.   Dywedodd, er bod sylwadau’n cael eu cyflwyno i LlC, roedd yn bwysig ystyried effaith penderfyniadau allweddol gan Lywodraeth y DU.   Fel aelod o is-gr?p Cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), roedd yn annog y defnydd o ddata cyfredol i ddylanwadu ar y fformiwla gyllido.   Heb gefnogaeth ariannol ychwanegol, dywedodd y byddai’r Cyngor yn wynebu penderfyniadau heriol er mwyn gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys.

 

O ran costau chwyddiant cynyddol, cyfeiriodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson at y pwysau disgwyliedig a nodwyd o fewn Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor ar gyfer eleni sydd wedi’u categoreiddio fel amrywiadau is, canolig ac uwch.   Gofynnodd am fanylion ynghylch a oedd y pwysau’n uwch na’r categorïau uchaf ar gyfer y cyfnod hwn.   Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol wybod bod yr holl bwysau costau wedi’u hamcangyfrif ar y pen isaf ac y byddent yn darparu cymhariaeth rhwng y ffigurau a ragwelwyd y llynedd yn erbyn eu sefyllfa bresennol.

 

Gan gyfeirio at y diffyg hyblygrwydd i bontio’r bwlch cyllid, anogodd y Cynghorydd Paul Johnson yr Aelodau i fynychu’r gweithdai sydd ar y gweill, a fyddai’n llywio penderfyniadau.

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr ddifrifoldeb y sefyllfa a dywedodd bod bellach angen i ni, ar ôl nodi’r wybodaeth ariannol gyfredol a ddarparwyd gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, gyfeirio at arbedion effeithlonrwydd fel toriadau i adlewyrchu difrifoldeb y broblem.   Ychwanegodd y byddai proffil risg y Cyngor yn cynyddu heb ymyrraeth gan LlC, gan gynnwys ariannu penderfyniadau cenedlaethol a oedd yn rhoi baich annheg ar bob cyngor.

 

Roedd y Cynghorydd Bill Crease yn gefnogol o gyflwyno sylwadau i gynrychiolwyr LlC ynghylch ariannu penderfyniadau cenedlaethol er mwyn osgoi cael effaith ar ddyfodol Sir y Fflint.

 

Yn ogystal ag ymateb y Cabinet, cynigodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor yn ymateb ar wahân yn ysgrifenedig i bwysleisio effaith lawn y penderfyniadau mewn perthynas â chyllid.  Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorwyr Roberts ac Attridge, cytunwyd y dylid anfon llythyr ar ran y Pwyllgor i Brif Weinidog LlC, Canghellor y DU ac Aelodau Cynulliad etholedig lleol.

 

Cafodd yr argymhellion, a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig a’u heilio gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y sylwadau yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2023/24, yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet pan fydd yn ystyried yr adroddiad; a

 

(b)          Bod llythyr yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor i Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, Canghellor y DU ac Aelodau Etholedig Lleol Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ategol: