Agenda item

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: mae un wedi cael ei dderbyn ac wedi ei atodi.

Cofnodion:

            Cyflwynwyd y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Gr?p Democratiaid Rhyddfrydol.

 

            “Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod y caledi eithafol y mae preswylwyr yn ddioddef yn ystod yr Argyfwng Costau Byw.  Mae nifer cynyddol o breswylwyr, yn arbennig y rheiny sydd yn defnyddio olew cynhesu domestig (heb eu diogelu gan y cap pris ynni domestig) yn mynd i mewn i gyfnod o dlodi tanwydd ac ni fyddant yn gallu fforddio i wresogi eu cartrefi y gaeaf hwn.  Hyd yn oed yn awr, cyn y gaeaf, mae nifer o breswylwyr mewn tlodi tanwydd yn barod.

 

            Mae “Canolfannau Cynnes” yn amgylchedd cynnes a chyfeillgar i gael mwynhau lluniaeth, gweithgaredd cymdeithasol, gwybodaeth a chyngor a seibiant o arwahanrwydd cymdeithasol.  Gellir lleoli canolfannau cynnes mewn adeiladau dinesig neu gyhoeddus, sydd yn cael eu cynhesu eisoes ac yn agored i’r cyhoedd megis llyfrgelloedd, mewn adeiladau asedau cymunedol, eglwys a neuadd bentref, a busnesau eraill megis caffis a all fod yn fodlon cofrestru ar gyfer y cynllun.

Mae’r Cyngor yn cydnabod nad yw’r Canolfannau Cynnes yn debygol o gynhyrchu refeniw ac ni ddisgwylir i ymwelwyr brynu te, coffi, na gwario arian i dreulio amser mewn cynhesrwydd.  Mae Canolfannau Cynnes yn adnodd cymunedol, yn cydnabod os yw rhywun mewn tlodi tanwydd, yna dylid eu helpu i gadw eu hadnoddau ariannol ac i beidio â theimlo pwysau i wario arian er mwyn aros mewn amgylchedd cyhoeddus a chynnes.

 

Felly mae’r Cyngor hwn yn penderfynu:

 

  1. Cysylltu â sefydliadau partner a darparu Canolfannau Cynnes ar draws Sir y Fflint.
  2. Gweithio gydag Aelodau a Chynghorau Tref a Chymuned i adnabod eiddo addas ym mhob ward; a
  3. Darparu deunyddiau hysbysebu ar gyfer Aelodau a Chynghorau Tref a Chymuned i godi ymwybyddiaeth o Ganolfannau Cynnes o fewn eu cymunedau.”

 

Wrth drafod y Rhybudd o Gynnig, dywedodd y Cynghorydd Coggins Cogan ei fod yn ddychrynllyd ein bod yn un o’r gwledydd cyfoethocaf yn y byd, a bod y Cyngor yn gorfod ystyried gwneud “Canolfannau Cynnes”.  

 

Roedd yn teimlo na fyddai’r cymorth gan Lywodraeth y DU yn gwneud gwahaniaeth gan fod cynyddiadau ychwanegol mewn biliau ynni yn cael eu rhagweld.  Mynegodd ei anghrediniaeth ar y toriadau treth i rai sydd ar gyflogau uchel, ond bod y rhai diamddiffyn yn gorfod gofalu amdanynt eu hunain.  Oherwydd hyn roedd ei gr?p ef yn cynnig sefydlu Canolfannau Cynnes gan ddefnyddio eiddo sydd ar gael yn y sir sydd yn cefnogi sefydliadau’r trydydd sector.

 

            Derbyniodd yr Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden y Rhybudd o Gynnig ar ran y Cabinet.  Mewn cyfarfod a gynhaliwyd y diwrnod blaenorol, roedd y Cabinet wedi gweithredu’r mwyafrif oedd wedi’i gynnwys yn y Rhybudd o Gynnig, ac ailadroddodd teimladau’r Cynghorydd Coggins Cogan bod rhaid i’r chweched economi fwyaf yn y byd ddarparu Canolfannau Cynnes i’w ddinasyddion.  Hefyd roedd yn dymuno bod yn gysylltiedig â sylwadau a wnaethpwyd ynghylch toriadau treth i rai sy’n ennill cyflogau uchel.

 

            Roedd y Cynghorydd Richard Jones yn teimlo’n hyderus y byddai’r holl Aelodau yn cefnogi egwyddor a bwriad y Rhybudd o Gynnig.  Gofynnodd o ran yr eirfa “Canolfannau Cynnes” a gofynnodd a fyddai modd defnyddio enw arall.

 

            Mynegodd y Cynghorydd Ibbotson ei bryder o ran beth oedd preswylwyr yn ei wynebu’r gaeaf hwn.  Cadarnhaodd yn ystod y misoedd blaenorol bod llawer iawn o waith wedi’i gyflawni gan y gr?p Democratiaid Rhyddfrydol, y Cabinet, Swyddogion a’i gydweithiwr y Cynghorydd Simon Jones.  Dywedodd bod effeithiau chwyddiant uchel, cynnydd mewn biliau ynni, cynnydd mewn prisiau bwyd a chostau tanwydd yn effeithio ar breswylwyr.  Cydnabu na ellir darparu’r canolfannau ym mhobman, a bod pwysau economaidd ar gyllidebau’r Cyngor, ond gofynnodd bod pawb yn sicrhau bod gan bob unigolyn yn y sir fynediad at gymorth y maent eu hangen y gaeaf hwn.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Ellis ei bod wedi ysgrifennu at yr Arweinwyr Gr?p a’r Uwch Swyddogion ym mis Medi yn gofyn pa gymorth oedd yn cael ei ddarparu i breswylwyr fwyaf diamddiffyn yn Sir y Fflint.  Cytunodd gyda’r sylwadau a wnaethpwyd ar enw arall, ac i ddefnyddio llyfrgelloedd neu ganolfannau cymunedol gan eu bod ar gael yn y mwyafrif o drefi ac ar agor i holl breswylwyr.   Gofynnodd a ellir darparu gwybodaeth ysgrifenedig i gynorthwyo ag ymateb i gwestiynau gan breswylwyr.

 

            Roedd yr Is-Gadeirydd y Cyngor yn cefnogi’r Rhybudd o Gynnig yn llawn, a diolchodd i’r Cynghorydd Ibbotson am ei sylwadau ac roedd yn cytuno gyda’r awgrym o ailenwi’r canolfannau. 

 

            Roedd y Cynghorydd Peers yn cefnogi’r Rhybudd o Gynnig mewn egwyddor, ond hefyd roedd ganddo bryder ynghylch yr enw a sut y gellir ei ddarparu a’i hysbysebu. 

 

            Roedd y Cynghorydd Owen hefyd yn cefnogi’r Rhybudd o Gynnig, ond gofynnodd sut y byddai staffio’r canolfannau hyn a byddai costau’r lluniaeth yn cael ei ddarparu gan y Cyngor.

 

            Cytunodd y Cynghorydd Chris Dolphin gyda’r sylwadau ac nid oedd ganddo broblem gyda’r enw.  Roedd digartrefedd bob amser yn broblem ac yn anffodus yn debygol o waethygu.  Gofynnodd pwy a fyddai’n gweinyddu’r canolfannau a theimlai na fyddai’n hyfyw i gael un ym mhob cymuned, gan fyddai disgwyl i eglwysi a neuaddau bentref roi eu gwres ymlaen a fyddai’n broblem fawr.  Gofynnodd a fyddai’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yn gallu darparu ymateb.

 

            Cadarnhaodd y Cynghorydd Simon Jones ei fod wedi bod yn gweithio gyda gwahanol grwpiau ar draws y sir a dywedodd bod yr enw “Canolfannau Cynnes” yn enw safonol yn y DU am y math hwn o wasanaeth.  Ni ddylai’r ffocws fod ar yr enw ond darparu’r gwasanaeth mor gyflym â phosib gyda’r gaeaf yn nesâu.

 

            Talodd y Cynghorydd Bibby deyrnged i’r gwaith a gyflawnwyd, a diolchodd i’r Uwch Reolwr (Budd-daliadau) am ei gwaith a chytunodd gyda’r sylwadau a wnaethpwyd heddiw.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr bod hwn yn cael ei gydlynu drwy’r Uwch Reolwr (Budd-daliadau) a’i thîm.  Roedd gan y grwpiau cymunedol y trydydd sector rôl sylweddol i chwarae gyda’r Cyngor i sicrhau ei lwyddiant.  Diolchodd yr Aelodau am eu cefnogaeth ar y Rhybudd o Gynnig a rhoddodd sicrwydd bod gwaith yn cael ei wneud eisoes gan yr Uwch Reolwr (Budd-daliadau) a’r tîm a fydd yn parhau.

 

            Rhoddodd y Cynghorydd Wakelam wybodaeth am y ffordd yr oedd grwpiau gwirfoddoli yn cael eu cynnal ym Mhenyffordd a dywedodd ei fod yn bwysig i ymgysylltu â phob gr?p yn y gymuned.

 

Hefyd cefnogodd y Cynghorydd Crease y Rhybudd o Gynnig a oedd yn rhywbeth ystyriol ar gyfer y sir gyfan yn Sir y Fflint. 

 

            Mynegodd y Cynghorydd Coggins Cogan ei ddiolch i’r Aelodau am eu sylwadau cefnogol.  Roedd yn deall pam bod yr enw yn achosi pryder a dywedodd yn ei ward ef y byddai’n cael ei alw’n “Caffi Cymunedol Gwernaffield”.  Ailadroddodd y pwysigrwydd o weithio gyda’r trydydd sector i ddarparu cymorth yr oedd ei angen.

 

            Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Ian Roberts ac ar ôl y bleidlais roedd yn unfrydol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei dderbyn a’i gefnogi.

Dogfennau ategol: