Agenda item

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: daeth dau i law erbyn y dyddiad cau.

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd bod dau gwestiwn wedi dod i law a gwahoddwyd Mr Colin Randerson i gyflwyno ei gwestiwn i’r Cyngor.    Diolchodd Mr Randerson i’r Cadeirydd a’r Cyngor am y cyfle hwn i fynychu’r cyfarfod a darllenodd ei gwestiwn.

 

“Gan ystyried bod y Cyngor wedi cynnig newidiadau i bolisiau sy’n berthnasol i niferoedd o dai fforddiadwy ar sail pwysau gan nifer bychan o ddatblygwyr preifat, ond nid oes unrhyw newidiadau ystyriol wedi ei wneud i’r CDLl o ganlyniad i’r ymgynghoriad cyhoeddus, lle’r oedd rhai safleoedd wedi cael 200 o wrthwynebiadau unigol, ydych chi’n credu bod hyn yn dangos proses sydd yn gwerthfawrogi pryderon ei breswylwyr ac yn eu cynrychioli yn unol â hynny?

            Ymatebodd y Cynghorydd Bithell drwy ddweud ar y dechrau, roedd yn bwysig i bwysleisio bod y newidiadau a wnaethpwyd i’r Cynllun yn dilyn sesiynau gwrandawiad Archwiliad a adnabyddir fel Newidiadau’r Materion sy’n Codi heb gael eu gwneud gan y Cyngor, ond eu cynnig gan Arolygydd, a bod y Cyngor wedi cytuno ym mis Gorffennaf eleni, er mwyn hwyluso ymgynghoriad cyhoeddus arnynt. Nid oedd dim newidiadau wedi’u cynnig i’r canrannau o ddarpariaeth o dai fforddiadwy, a’r unig newid i eiriad polisi tai fforddiadwy oedd adlewyrchu ar newid a geisiwyd gan yr Arolygydd i gadarnhau bod y canrannau a cheisiwyd yn darged, yn hytrach na phwynt dechrau.

 

            Pwrpas canolog yr Archwiliad oedd i’r Arolygydd ystyried cadernid y Cynllun fel y cyflwynwyd, ac ni oedd yng nghylch gorchwyl yr Arolygydd i wella’r Cynllun, nag i’w newid ar sail nifer o wrthwynebiadau iddo neu safle neu bolisi penodol.  Byddai rhan o asesiad yr Arolygydd yn cyfeirio at sail tystiolaeth y Cyngor i gefnogi’r polisiau a chynigion y Cynllun. Roedd hyn yn berthnasol yn gyfartal i sylwadau a wnaethpwyd gan wrthwynebwyr, lle’r oedd cyfrifoldebau ar wrthwynebu oedd cyflwyno gwrthwynebiadau a gefnogir gan dystiolaeth a oedd yn cwestiynu’r cynllun neu gadernid y safle. Yr Arolygydd oedd beirniadu a’r sail resymegol ar sut yr oedd wedi ystyried cadernid y materion o fewn ei hadroddiad, a oedd dal heb ddod i law.

            Roedd gofyn i’r Cyngor a’r Arolygydd ystyried beth oedd y gwrthwynebwyr wedi dweud pan wnaethpwyd y sylwadau, ond nid oedd gofyn iddynt dderbyn yn syml beth ddywedwyd. Roedd hyn yn ymwneud â chynllunio beirniadaeth a oedd wedi’i ddefnyddio gan y Cyngor ac ar wahân ac yn annibynnol gan yr Arolygwyr. Dyma oedd y broses Cynllun Datblygu cyfredol fel y rhagnodwyd gan Ganllaw Cynlluniau Datblygu Llywodraeth Cymru. Yn rhannol roedd y cwestiwn yn gwahodd y Cyngor i roi sylw ar agweddau o’r broses hwn nad oedd o fewn ei reolaeth, ac felly nid oedd yn briodol i ddisgwyl i’r Cyngor roi sylw ar sut yr oedd yr Arolygydd wedi cyflawni’r archwiliad.

 

            Cyflwynodd yr holwr sylwadau wedi’u hysgrifennu ar y cam ymgynghori Dogfen i’w harchwilio, a oedd wedi’i ystyried gan swyddogion a lle’r oedd y Cyngor wedi cytuno i argymell ymatebion nad oedd yn diwygio na newid y cynllun. Fel yr ymateb i gwestiwn 2 a ddilynodd, cyflwynodd yr holwr hwn dystiolaeth ysgrifenedig i’r Archwiliad CDLl ac ymddangosodd yn bersonol a mynegi ei bwyntiau i’r Arolygwr. Dylai’r dystiolaeth hwn fod wedi’i ffocysu ar fynd i’r afael â chadernid y safle perthnasol, gan mai dyna oedd y mater perthnasol ar gyfer yr Arolygydd i’w ystyried. Os nad oedd unrhyw newid i’r dyraniad safle wedi dod o’r Archwiliad drwy fodd Newidiadau’r Materion yn Codi sy’n berthnasol i’r safle, yna byddai casgliad amlwg o beth oedd yr Arolygydd yn ystyried nad oedd y materion a godwyd yn herio’r cynllun na chadernid y safle. I’r gwrthwyneb lle’r oedd gan yr Arolygydd bryderon ynghylch yr elfen dai yn safle Warren Hall, mi wnaeth newid.

 

            Yn olaf, cafodd y safle hefyd ei ystyried yn ddyraniad cynaliadwy yn yr ymchwiliad cyhoeddus UDP lle wnaeth yr arolygydd argymell ei ddyraniad. Mae’r safle wedi cael ei ailystyried drwy’r broses CDLl ac Archwiliad, ac nid oes unrhyw dystiolaeth wedi cael ei gyflwyno i atal hyn, naill ai ar gyfer y safle hwn, neu eraill a ddyrannwyd yn y CDLl.

            Dywedodd Mr Randerson bod ei gwestiwn wedi codi pryderon ac wedi gofyn cwestiwn atodol o ran pam nad oedd unrhyw newidiadau wedi cael eu gwneud, waeth faint o wrthwynebiadau a ddaeth i law, yn dilyn yr ymgynghoriad. Beth oedd pwrpas cael ymgynghoriad cyhoeddus, sydd yn costio llawer o arian, os nad oedd unrhyw sylw na newidiadau yn cael eu gwneud i unrhyw un o’r ymatebion gan y preswylwyr?  Gofynnodd a oedd dim newidiadau oherwydd pwysau gan y datblygwyr.

 

            Teimlodd y Cynghorydd Bithell bod hyn wedi’i gyflenwi o fewn yr ymateb ond byddai’n ymateb i Mr Randerson yn ysgrifenedig.

 

Darllenodd Mr David Rowlinson y cwestiwn canlynol:-

 

“Mae’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) bellach yn saith mlynedd yn hwyr. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn cynnwys yr adran gynllunio yn ystyried ac yn gwrthod nifer uchel o wrthwynebiadau cyhoeddus gyda dros 200 i rai safleoedd). Ni wnaethpwyd unrhyw newidiadau ystyriol i’r cynllun.  Mae archwiliad manwl wedi’i wneud a wnaeth arwain at wrandawiadau cyffrous ond yn arwain at newidiadau bach technegol i’r cynllun, wedi’u gyrru’n rhannol gan Arolygwyr heb ddim p?er i awgrymu gwelliannau i’r cynllun. Ers cyflwyno’r CDLl nifer o flynyddoedd yn ôl, does dim cyfle wedi codi i aelodau etholedig y cyngor i ddylanwadu ar ganlyniad y cynllun er bod pryderon parhaus wedi’u codi gan eu hetholaeth.  Faint mae’r CDLl wedi costio ers rhannu’r cynllun i ddechrau fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus; ac a yw’r cyngor yn teimlo bod hyn yn cynrychioli defnydd da a gwell o arian cyhoeddus, gan ystyried amharodrwydd yr adran gynllunio i wneud newidiadau neu welliannau i’r CDLl?

 

            Ymatebodd y Cynghorydd Bithell yn dweud ei fod yn bwysig ar y dechrau, i atgoffa’r Cyngor ar rai o’r prif resymau dros baratoi Cynllun Datblygu Lleol yn y dechrau:

 

·         Roedd y Cynllun Datblygu Lleol yn gynllun statudol. Roedd rhaid i’r Cyngor gynhyrchu un:

·         Byddai’r CDLl yn darparu fframwaith polisi diweddar er mwyn gwneud penderfyniad ar sail y wybodaeth ar geisiadau cynllunio;

·         Byddai’r CDLl yn cefnogi Uchelgais Economaidd a thwf a darparu swyddi yn unol â statws Ardal Twf Cenedlaethol Sir y Fflint;

·         Byddai’r CDLl yn darparu tai mewn lleoliadau cynaliadwy i fodloni anghenion y twf hwn, gan gynnwys nifer sylweddol o dai fforddiadwy;

·         Byddai mabwysiadu’r CDLl yn atal ffrwd barhaus o geisiadau cynllunio ar gyfer datblygiad tai lle’r oedd unrhyw ward Aelodau yn ddiamddiffyn oherwydd nad oedd cynllun datblygu diweddar wedi’i fabwysiadu nac mewn lle.

 

            Roedd y CDLl yn ei gamau terfynol ar gyfer ei fabwysiadu. Roedd yn arferiad cyffredin i CDLl gael eu mabwysiadu i’w cyfnod cynllunio, a byddai’r cynllun ond yn dod yn weithredol ar ôl ei fabwysiadu.

 

            Mae’r CDLl wedi bod drwy ei holl gamau statudol gan gynnwys y rheiny a oedd yn gyfrifoldeb y Cyngor cyn ei gyflwyno i’r Archwiliad, ac yna’r rhai oedd dan reolaeth gyflawn Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) a’r Arolygwyr a benodwyd. Y Cyngor, ar y cyfan, oedd yn gwneud penderfyniadau ar y cynnydd o’r cynllun datblygu hyd at ei gyflwyno, ei hysbysu a’i gynghori gan argymhellion y swyddogion.

 

            Roedd y Cyngor wedi ystyried a chytuno i barhau â’r Cynllun ar ddau achlysur gwahanol - yn gyntaf pan gytunwyd yn gyntaf i gyhoeddi CDLl i’w Archwilio drwy ymgynghoriad ar 23 Gorffennaf 2019 - bu i’r un Aelod bleidleisio yn erbyn; a phan gytunwyd i’r ymatebion a argymhellwyd i sylwadau’r cyhoedd ac i gyflwyno’r cynllun ar gyfer Archwiliad cyhoeddus, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi 2020 - ni phleidleisiodd yr un Aelod yn ei erbyn.

 

Dywedodd Llywodraeth Cymru na ddylai’r Cyngor beidio â chyflwyno ei gynllun ar gyfer Archwiliad oni bai y mae’n ystyried y cynllun i fod yn un cadarn ac yn gallu ei fabwysiadu oherwydd ar ôl ei gyflwyno, mae’r rheolaeth yn cael ei basio o’r Cyngor i’r Arolygwyr a bennwyd.

 

Rôl yr Arolygwyr a bennwyd oedd ystyried a oedd y cynllun a gyflwynwyd yn gadarn ac yn addas i’w fabwysiadu - nid oedd eu rôl yn ymwneud â cheisio gwella’r cynllun. Cafodd hyn ei wneud yn glir yn y Cyfarfod Cyn y Gwrandawiad ac adlewyrchwyd yn nodyn yr Arolygydd o’r cyfarfod. Mynychodd 120 o gyfranogwyr y cyfarfod hwn gan gynnwys yr holwr.

 

Yn syml oherwydd y nifer y bobl a wrthwynebodd i safle, nid oedd hyn yn golygu bod y Cyngor yn gorfod derbyn yn awtomatig y gwrthwynebiadau hynny neu wneud newidiadau i’r Cynllun. Y prif ofyniad i wrthwynebu oedd dangos, gyda thystiolaeth, sut nad oedd y cynllun na safle penodol yn gynaliadwy na chadarn.  Cafodd sylwadau a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad CDLl wedi’i archwilio eu hystyried gan swyddogion a’r ymatebion a argymhellwyd a gytunwyd gan y Cyngor - yn ôl safbwynt y Cyngor nid oedd y rhain yn codi unrhyw faterion a oedd yn herio cadernid y cynllun.

 

Cyflwynwyd sylwadau pellach fel tystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar i’r Archwiliad CDLl mewn perthynas â’r safle hwn (ac eraill). Dylai’r dystiolaeth hwn fod wedi’i ffocysu ar fynd i’r afael â chadernid y safle perthnasol, gan mai dyna oedd y mater perthnasol ar gyfer yr Arolygydd i’w ystyried. Hefyd, nid oedd y sesiynau gwrandawiad yn bennaf i wrando ar wrthwynebwyr, gan fod yr Arolygydd wedi clywed gan bob parti â diddordeb gan gynnwys y rheiny a oedd yn hyrwyddo safleoedd wedi’u dyrannu yn y Cynllun. Os nad oedd unrhyw newid i’r dyraniad safle wedi dod o’r Archwiliad drwy fodd Newidiadau’r Materion yn Codi sy’n berthnasol i’r safle, yna byddai casgliad amlwg o beth oedd yr Arolygydd yn ystyried oedd y materion a godwyd ddim yn herio’r cynllun na chadernid y safle.

 

            Er y byddai’r gost lawn o’r cynhyrchiad y CDLl yn cael ei gyfrifo ar ôl mabwysiadu’r Cynllun, y prif elfennau cost hyd yma fel a ganlyn:

 

·                Costau staffio blynyddol Tîm Polisi (o gyllideb 2022/23)              £318,698.00

·                Paratoadau ar sail tystiolaeth (y broses gyfan hyd yma)             £374,000.00

·                Ffioedd Arolygwyr Archwiliad hyd yma                                             £53,122.87

·                Costau Swyddog Rhaglen Archwiliad hyd yma                                £29,812.50

           

            Y prif bwynt i Aelodau ei gydnabod oedd nad oedd gan y Cyngor opsiwn ond i gynhyrchu cynllun datblygu, gan ei fod yn ofyniad statudol, a oedd yn golygu ei fod yn gorfod gwario cyllid cyhoeddus ar adnoddau i’r broses. Roedd y Cyngor wedi cyllidebu am hyn, ond wedi arbed swm sylweddol drwy gynnal yr Archwiliad mewn modd rhithiol, a oedd hefyd yn fanteisiol i alluogi’r cyhoedd ehangach fod ynghlwm a chymryd rhan.  Mae’r arbedion wedi bod mor dda nes bod cronfeydd wrth gefn i gefnogi mabwysiadu CDLl yn cael ei ddychwelyd i’r ganolfan gorfforaethol, ac felly’n helpu i gynorthwyo sefyllfa gyllidebol cyffredinol y Cyngor.

 

            Roedd y cynllun ar gam uwch yn awr, yr unig beth oedd ar ôl oedd adroddiad yr Arolygydd, a oedd gydag argymhellion mewn perthynas â chynllunio cadernid a mabwysiadu yn rhwym cyfreithiol i’r Cyngor. Doedd dim opsiwn i drafod unrhyw agwedd benodol o’r cynllun ar y cam hwn - mabwysiadu oedd y cynllun cyfan.

 

            Roedd Mr Rowlinson yn gwerthfawrogi’r ymateb ac yn cytuno ar y nifer o bwyntiau a wnaethpwyd ar bwrpas y CDLl, a’r ffordd fanwl yr oedd wedi’i gyflawni, yn arbennig yn caniatau pobl i ymuno i gyfrannu o bell.   Gofynnodd gwestiwn ychwanegol ar gadarnhad, roedd yn ceisio dadansoddiad o’r niferoedd rhwng paratoi ar gyfer y cynllun, cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, a’r gost yn eithrio costau archwilio gwirioneddol ers y pwynt hynny.  Roedd yn ymddangos y byddai costau sylweddol wrth fynd drwy’r cynigion ar y cynllun lle nad oedd unrhyw newidiadau gwirioneddol i’r cynllun a fyddai’n nodi nad oedd gwerth ei arian.  Teimlai bod yr ymateb yn ffocysu ar gadernid yn hytrach na’r gallu i wella’r cynllun neu ei wneud yn gynllun gorau ar gyfer y cyhoedd.   Roedd y ffaith na wnaethpwyd unrhyw newidiadau ystyriol i’r cynllun yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn awgrymu nad oedd yn cynrychioli gwerth da am arian ar y broses briodol.  Beth oedd pwrpas cyflawni ymgynghoriad cyhoeddus os nad oedd y safbwyntiau yn rhan o ffurfio’r cynllun?  I gadarnhau gofynnodd pa gostau a godwyd ers y cyhoeddiad ar gyfer yr archwiliad cyhoeddus heb y costau archwiliad gwirioneddol yr oedd yn derbyn yn rhan o’r broses.

 

            Cytunodd y Cynghorydd Chris Bithell i ymateb i’r cwestiwn atodol yn ysgrifenedig. 

 

Dogfennau ategol: