Agenda item

Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru

Pwrpas:        Aelodau i gefnogi a chymeradwyo Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru.  

 

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol gydweithio i gynhyrchu Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad ochr yn ochr ag Asesiad o Anghenion Poblogaeth.  Roedd yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad yn darparu asesiad ar ddigonolrwydd gofal a chymorth o ran bodloni’r anghenion a’r galw am ofal cymdeithasol, fel y nodir yn yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau a reoleiddir sy’n darparu gofal a chymorth. 

 

Mae’n rhaid cynhyrchu un Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad ar gyfer Rhanbarth Gogledd Cymru a derbyn cymeradwyaeth gan Fwrdd y Bwrdd Iechyd Lleol a’r Cyngor Llawn ym mhob Awdurdod Lleol yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.  Rhaid cyhoeddi’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad derfynol ar wefan pob Awdurdod Lleol, ar wefannau’r Byrddau Iechyd a gwefan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn Gymraeg a Saesneg a chopi o’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru.   Byddai’r Asesiad ar Anghenion Poblogaeth ac Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad yn cael ei ddefnyddio i hysbysu cynllun cyflawni lleol a rhanbarthol a datblygiad gwasanaeth i symud ymlaen.  Felly, gofynnodd bod y Cyngor yn cymeradwyo Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad yng Ngogledd Cymru 2022.

 

Diolchodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y Rheolwr Contract a Chomisiynu a’i thîm am eu gwaith wrth gwblhau’r adroddiad.   Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu a Throsolwg Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, ac roedd yn falch iawn o’r gwaith a gyflawnwyd yn natblygiad y gwasanaethau, megis Cartrefi Plant yn yr Wyddgrug, ac estyniad i’r cyfleuster yn Marleyfield ym Mwcle.  Bu i’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad ddiweddaraf amlinellu’r gweithio mewn partneriaeth yng Ngogledd Cymru o fewn y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, ac yn cynnwys ôl-troed rhanbarthol ac amlygodd themâu Sir y Fflint.  

 

Darparwyd trosolwg o boblogaeth yr henoed yn y sir, gyda dros 65 rhagfynegiad yn ystod y 20 mlynedd yn uwch yn Sir y Fflint na’r cyfartaledd rhanbarthol.  Roedd rhaid i’r Awdurdod gynllunio i sicrhau bod yr holl wasanaethau yn gadarn i ddarparu’r gwasanaethau o ansawdd orau gyda’r adroddiad yn darparu gwybodaeth ragorol, ddim ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn unig ond i wasanaethau eraill hefyd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ar gau cartrefi gofal gan y Cynghorydd Peers, amlinellodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y berthynas waith agos gyda phartneriaid cartrefi gofal, ond dywedodd oherwydd pwysau roeddynt wedi’i brofi bod rhai wedi stopio gweithredu, ond nid oedd hyn yn digwydd yn aml.  Roedd sensitifrwydd o weithio mewn cartrefi gofal, teuluoedd a phreswylwyr yn cael eu deall i sicrhau bod pawb yn cael eu cefnogi ac yn setlo yn eu cartrefi eraill.   Gan gyfeirio at gapasiti cyffredinol, cadarnhaodd bod hyn wedi lleihau ac amlygodd bod yr Awdurdod angen darparu ei ddarpariaeth gofal o ansawdd dda ei hun, a dyna pam bod Maryfield wedi’i gwblhau a bod cynlluniau’n parhau i ymestyn Croes Atti yn y Fflint ac i ystyried opsiynau ar gyfer Llys Gwenffrwd yn Nhreffynnon.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bateman ar ofal dydd yng Nghroes Atti, eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod Croes Atti yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cymorth gofal i bobl iau gyda dementia cyn y pandemig.  Roedd gofal dydd yn parhau yn rhan o ddarpariaeth y Cyngor a phan roedd yn ddiogel i barhau, byddai’n cael ei ddarparu yng nghyfleuster presennol yng Nghroes Atti ac yn y cyfleuster newydd Croes Atti pan gafodd ei ddatblygu mewn dwy flynedd.  

 

Rhoddodd y Cynghorydd Thew sylw ar bwysigrwydd gofal dydd i bobl oedd yn parhau yn eu cartrefi eu hunain. Cytunodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod gofal dydd yn bwysig iawn a byddai’n rhoi adborth i’r tîm priodol.  Dywedodd bod problemau o ran recriwtio staff i gyflenwi’r holl wasanaethau, a dyna pam bod gofal preswyl yn cael blaenoriaeth. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ellis ar y galw a’r angen ar gyfer ailddechrau gwasanaethau gofal dydd, amlinellodd y Prif Weithredwr (Gwasanaethau Cymdeithasol) y lleoliadau cymunedol amgen a ddefnyddiwyd, megis caffis cofio neu gaffis dementia a oedd wedi lleihau ar y galw.   Cytunodd bod rhai yn credu bod gofal dydd yn wasanaeth oedd yn cael ei werthfawrogi’n fawr a’i fwriad oedd darparu’r rhain lle bynnag roedd galw a gweithlu i’w hwyluso.   Roedd recriwtio gweithlu yn broblem a gofynnodd am gefnogaeth yr Aelodau i annog etholwyr i ystyried rolau iechyd a gofal cymdeithasol a oedd yn cynnwys gofal dydd, gwasanaethau gofal ychwanegol a gwasanaethau gofal preswyl.  Roedd y pwysau o ran staffio yn cyfyngu gallu’r awdurdod i ddarparu’r holl wasanaethau.   Roedd yn deall yn llawn y sylwadau a wnaethpwyd ynghylch gofal dydd yn dweud ei fod yn rhan bwysig o’r ddogfen hon.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hughes ar ddifrifoldeb Covid a symud ymlaen, cytunodd y Prif Weithredwr (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod Covid wedi cael effaith ar lefelau staffio.

 

            Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Brown, bod pwysau o ran staffio, ac yn debyg iawn ym mhob adran yn y sir.  Nid oedd gofal dydd wedi’i flaenoriaethu oherwydd cyngor iechyd cyhoeddus ond hefyd roedd y galw wedi lleihau.  Roedd ymrwymiad i barhau a gofal dydd, ond roedd staffio yn ffactor allweddol.  Mae’r gwasanaeth wedi ymateb i alw lleol o fewn ei wasanaethau yn Marleyfield ac yng Nghroes Atti yn y dyfodol.

 

Eglurodd y Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a lles bod 8 caffi cof ar draws Sir y Fflint yn cefnogi pobl sydd â dementia yn ogystal â phobl h?n a hoffai ymweld.   Maent wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda phreswylwyr yn treulio boreau neu brynhawn yn y caffi, ac wedi lleihau’r angen am ofal dydd.   Awgrymodd y byddai eitem ar ofal dydd yn cael ei gynnwys yn y rhaglen waith yn y dyfodol ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  Gan gyfeirio at Groes Atti, eglurodd bod y presenoldeb wedi lleihau oherwydd bod pobl yn defnyddio’r lleoliadau eraill hyn. Yn ystod Covid roedd staff wedi gweithio mewn amgylchiadau anodd iawn ac roedd yn anodd i breswylwyr, ond roedd Covid dal yn bodoli, ac roedd angen rheoli’r gwasanaeth yn ofalus. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd McGuill i’r canolfannau cynnes yn dweud bod yr eiddo yn barod ac yn gynnes, ond roedd diffyg staff i’w cynnal a gofynnwyd a allai’r trydydd sector yn gallu cynorthwyo. Cyfeiriodd at ei chanolfan gymunedol leol a oedd yn darparu lle ar gyfer gwahanol grwpiau i gynnal cyfarfodydd a allai gymryd lle’r canolfannau gofal dydd. 

 

  Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Richard Jones, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) dywedodd y byddai’n croesawu trafodaeth ar ofal dydd yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac roedd yn rhan bwysig o ddarpariaeth gwasanaeth i symud ymlaen.  Nid oedd y gwasanaeth ar gyfer pobl h?n yn unig ond pobl gydag anableddau ac anghenion eraill hefyd gyda llawer o gefnogaeth werthfawr.

 

Darparodd y Rheolwr Comisiynu trosolwg o ddarpariaeth comisiynu a sut yr oedd wedi newid ers y Pandemig.  Rhoddwyd gwybodaeth ar y Cynllun Comisiynu Gofalwyr, Cynllun Pontio’r Bwlch, Prosiect Taliadau Uniongyrchol a Meicro-Ofal a oedd yn galluogi pobl gael mynediad at gyfleoedd o symud i ffwrdd o wasanaeth gofal dydd traddodiadol.

 

Ar ôl ei roi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyodd y Cyngor yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad yng Ngogledd Cymru 2022.

Dogfennau ategol: