Agenda item
Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2022/23 - Y cam cau olaf
- Cyfarfod Cyngor Sir y Fflint, Dydd Mawrth, 15fed Chwefror, 2022 2.00 pm (Eitem 90.)
- View the declarations of interest for item 90.
- Cefndir eitem 90.
Pwrpas: I gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2022/23 ar argymhelliad y Cabinet.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i dderbyn yr argymhellion gan y Cabinet i'r Cyngor osod Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2022/23.
Rhoddodd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol, Rheolwr Cyllid Strategol a Rheolwr Refeniw gyflwyniad ar y canlynol:
· Gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys
· Y Daith hyd yn hyn...
· Newidiadau i'r Gofyniad Cyllidebol Ychwanegol 2022/23
· Datrysiadau Cyllideb 2022/23
· Treth y Cyngor 2022/23
· Cyllidebau Ysgolion a Gofal Cymdeithasol
· Risgiau agored
· Cronfeydd wrth gefn
· Barn broffesiynol a sylwadau cloi
· Edrych ymlaen a'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS)
Roedd y Cyngor wedi derbyn adroddiadau llawn ar gamau blaenorol y broses o osod y gyllideb ar gyfer 2022/23 ac roedd adroddiadau ac atodiadau blaenorol wedi'u darparu fel gwybodaeth gefndirol. Roedd y Cabinet wedi anfon isafswm gofyniad cyllidebol diwygiedig ar gyfer 2022/23 sef £20.696 miliwn yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr a chafodd y wybodaeth ddiweddaraf am benawdau allweddol ac effeithiau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2022.
Yn y blynyddoedd blaenorol, roedd y Cyngor wedi gosod cyfeiriad clir y dylai unrhyw gynnydd blynyddol fod yn 5% neu lai. Roedd y Cyngor wedi gorfod cynnwys nifer o bwysau ychwanegol i ddarparu ar gyfer y cyfrifoldebau newydd a nodwyd yn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a oedd wedi cynyddu'r gofyniad cyllidebol. Yn seiliedig ar ofyniad ychwanegol terfynol y gyllideb o £30.562m mae angen cynnydd blynyddol cyffredinol o 3.3% ar y Dreth Cyngor ar gyfer Gwasanaethau Cyngor a 0.65% ar gyfer cyfraniadau ychwanegol i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Crwneriaid Rhanbarthol a Chonsortiwm Addysg Ranbarthol GwE. Roedd hyn yn cyfateb i godiad cyffredinol o 3.95%.
Cafodd yr argymhellion ar gyfer y Cyngor eu cynnig gan Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Ian Roberts, a ddiolchodd i'r Prif Weithredwr a'r swyddogion am eu gwaith drwy gydol y broses o bennu'r gyllideb. Diolchodd hefyd i Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru am y setliad a ddarparwyd ond dywedodd fod angen cydnabod bod y Cyngor wedi bod yn arbennig o ddibynnol ar Gronfa COVID a bod nifer o hawliadau wedi eu gwneud i LlC. Rhoddodd sicrwydd i'r Aelodau fod cynigion cyllidebol wedi cael eu herio'n gadarn gan bob Aelod o'r Cabinet, gyda phwyslais penodol ynghylch Cronfeydd Wrth Gefn Wedi'u Clustnodi, a dywedodd fod yr Aelodau'n parhau i gyflwyno sylwadau am yr angen i adolygu'r fformiwla ariannu ar gyfer Llywodraeth Leol drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Dywedodd ei fod yn gwbl ymwybodol o'r cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ar adeg pan fo costau ynni a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn codi. Cymeradwyodd uchelgais LlC i symud tuag at gyflog byw go iawn, ond amlinellodd yr heriau a fyddai'n wynebu gweinyddiaeth y Cyngor yn y dyfodol pe bai lefel Treth y Cyngor yn cael ei leihau neu pe bai cynnig yn cael ei wneud i ddefnyddio arian wrth gefn. Felly cynigiodd yr argymhellion canlynol: -
(a) Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r gofyniad cyllidebol ychwanegol diwygiedig ar gyfer 2022/23;
(b) Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r cynigion terfynol ar gyfer yr effeithlonrwydd corfforaethol a fyddai'n cyfrannu at y gyllideb;
(c) Bod y Cyngor yn gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys yn seiliedig ar y cyfrifiadau fel y nodir o fewn adroddiad y Cabinet;
(d) Bod y Cyngor yn nodi'r risgiau agored sy'n parhau i gael eu rheoli ym mlwyddyn ariannol 2022/23;
(e) Bod y Cyngor yn cymeradwyo cynnydd blynyddol cyffredinol yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2022/23 o 3.3% ar gyfer Gwasanaethau Cyngor, a 0.65% ar gyfer cyfraniadau at Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Crwneriaid Rhanbarthol a Chonsortiwm Addysg Ranbarthol GwE - codiad cyffredinol o 3.95%;
(f) Bod y Cyngor yn cymeradwyo trosglwyddo £3.250 miliwn yn ychwanegol o'r Gronfa Wrth Gefn i'r Gronfa Frys i ddiogelu yn erbyn risgiau ariannol parhaus y pandemig yn 2022/23;
(g) Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r penderfyniad ffurfiol ynghylch y Dreth Gyngor yn dilyn hysbysu ynghylch praeseptau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a'r holl Gynghorau tref a chymuned o fewn Sir y Fflint; a
(h) Bod y Cyngor yn nodi'r rhagolygon tymor canolig fel sail wrth addasu'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) y tro nesaf.
Fel Aelod Cabinet Cyllid a Gwerth Cymdeithasol, eiliodd y Cynghorydd Paul Johnson y cynnig a chefnogodd y sylwadau a wnaed gan Arweinydd y Cyngor. Gwnaeth sylwadau ar y setliad 3 blynedd gan LlC a'r cyllid sydd ar gael yn y blynyddoedd nesaf a'r codiad sylweddol sydd ei angen ar gyfer cyllidebau'r dyfodol. Cyfeiriodd at y broses o gynllunio’r gyllideb a oedd wedi bod yn hynod o anodd o ystyried yr argyfwng costau byw, bod cefnogaeth ariannol COVID yn dod i ben, y cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol, y cynnydd yng nghostau tanwydd ac ynni a'r cynnydd a ragwelir mewn chwyddiant. Dywedodd fod swm y cronfeydd wrth gefn wedi bod yn destun craffu gofalus ac eglurodd fod Archwilio Cymru wedi argymell bod y lefelau presennol yn ddarbodus i reoli cronfeydd wrth gefn wrth symud ymlaen.
Diolchodd y Cynghorydd Tudor Jones i swyddogion am y cyflwyniad a'r adroddiad a ddarparwyd. Cyfeiriodd at y ffaith bod Cronfa Galedi LlC wedi dod i ben a chroesawodd gynnig y Cyngor i barhau i ddarparu cymorth ariannol i Wasanaethau o dan Drosglwyddiadau Asedau Cymunedol a oedd, meddai, yn hanfodol i'r Sir.
Dywedodd y Cynghorydd Tony Sharps ei fod o blaid y cynnig a diolchodd i’r swyddogion am eu gwaith, yn enwedig y gwaith a wnaed yn ystod y pandemig. Dywedodd ei fod yn erbyn bandio’r Dreth Gyngor gan fod y system, yn ei farn ef, yn annheg a dylai gael ei hadolygu gan Awdurdodau Lleol er mwyn sicrhau bod system wahanol o gasglu trethi mewn ffordd deg a chyfartal gan bobl leol yn cael ei gweithredu. Gwnaeth sylwadau hefyd am lefel y cronfeydd wrth gefn, a dywedodd y byddai angen i'r Weinyddiaeth sy’n weithredol yn dilyn Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai ystyried yn ofalus lefel y cronfeydd wrth gefn o gofio bod Archwilio Cymru wedi adrodd bod gan y Cyngor un o'r lefelau wrth gefn isaf yng Nghymru.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard Jones welliant i gamau cau terfynol y gyllideb refeniw gan ddiolch i'r swyddogion am y cyflwyniad ynghyd â'r Cadeirydd a siaradwyr blaenorol. Dywedodd mai £326.678m oedd gofyniad y gyllideb eleni, oedd yn cynnwys Cyllid Allanol Cyfun (AEF) a balans gwerth y Dreth Gyngor oedd yn golygu y byddai £94.5m neu 29% o gyfanswm y gyllideb yn cael ei gasglu gan dalwyr treth Sir y Fflint. O gymharu â 2014/15 roedd Treth y Cyngor yn £60 miliwn h.y. 24% o gyfanswm y gyllideb ac ar lefel 2017/18 roedd treth y cyngor yn £70m h.y. 26% o gyfanswm y gyllideb. Roedd hyn yn gynnydd o £25m dros y cyfnod gweinyddu o 5 mlynedd. Roedd o'r farn na allai'r lefel yma barhau a bod yn rhaid i LlC ddechrau darparu eu cyfran deg a rhoi'r gorau i roi pwysau ariannol ar drigolion lleol. Dywedodd y byddai ei welliant yn arwain at gynnig cynnydd o £1.95% yn Nhreth y Cyngor fel a ganlyn: -
(a) Bod £910,000 yn cael ei drosglwyddo o'r Cronfeydd Wrth Gefn Sydd wedi'u Clustnodi i'r cyfrif refeniw yn y ffordd ganlynol –
- Cynnig trosglwyddo £757,000 o'r Gronfa Gyffredinol – cyllideb Buddsoddi mewn Newid Sefydliadol a £153,000 o'r gyllideb Statws / Gweithlu Sengl. Byddai hyn yn darparu 1% tuag at y Dreth Cyngor felly gan leihau'r swm i 2.95%. Byddai angen ystyried unrhyw gynigion Newid Sefydliadol a wneir yn ystod 2023/24 yn ystod y flwyddyn er mwyn asesu fforddiadwyedd;
(b) Yn ogystal â hyn, bod £910,000 yn cael ei drosglwyddo o Gronfeydd Wrth Gefn i'r cyfrif refeniw yn y ffordd ganlynol –
- Cynnig bod y trosglwyddiad hwn i'r Gronfa Argyfwng yn cael ei ostwng i £2.34m, gan ddarparu arian y mae mawr ei angen i'r cyfrif refeniw.
Byddai'r ddau gynnig gyda'i gilydd yn trosglwyddo £1.82m i'r cyfrif refeniw, gan ostwng y cynnydd yn y Dreth Gyngor i 1.95%. Roedd y Cynghorydd Richard Jones yn teimlo mai ychydig iawn o effaith fyddai hyn yn ei gael ar redeg y Cyngor ac y byddai'n cael effaith fach iawn ar risg i gyllid a bod lleihau’r baich ar dalwr treth Sir y Fflint yn drech na chynnydd tybiedig mewn risgiau.
Eiliodd y Cynghorydd Mike Peers y gwelliant a amlinellwyd gan y Cynghorydd Jones. Cyfeiriodd at y cynnydd uchel blaenorol yn y Dreth Gyngor yn dilyn setliadau isel gan LlC, a dywedodd ei bod yn amlwg bod y diffyg cyllid gan LlC yn cael ei dalu gan drethdalwyr Sir y Fflint. Dywedodd fod costau byw yn cael ei wynebu gan bawb sy'n talu treth y Cyngor, waeth beth fo’r cynigion sy'n cael eu cyflwyno gan LlC i geisio lleddfu costau byw gan ddweud y byddai'r cynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Jones o fudd i'r holl dalwyr treth yn Sir y Fflint.
Ymatebodd y Prif Weithredwr a'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i'r gwelliant a amlinellwyd gan y Cynghorydd Jones. Dywedodd y Prif Weithredwr fod angen gwydnwch ariannol yn y Cyngor, ac na fyddai hynny'n bosibl drwy ostwng y Dreth Gyngor i lefelau a awgrymir yn y gwelliant. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai'r egwyddor sylfaenol oedd nad oedd yn gynaliadwy defnyddio cronfeydd wrth gefn i dalu costau gwariant cyson. Dim ond am flwyddyn y gellid defnyddio cronfeydd wrth gefn ac felly byddai'n creu bwlch ariannol y flwyddyn ganlynol. Am nifer o flynyddoedd roedd cylch o ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i bontio'r bwlch yn y gyllideb ac roedd cronfeydd wrth gefn yn gorfod cael eu hailosod y flwyddyn ganlynol er mwyn sicrhau cyllidebau cynaliadwy. Hefyd roedd angen i'r aelodau ystyried bod y setliad a gynigiwyd ar gyfer 2023/24 wedi gadael bwlch yn y gyllideb oedd yn debygol o godi ac y byddai'n cynyddu'r risg ariannol yn sylweddol i'r Cyngor. O ran y cynnig i leihau'r gronfa caledi o £4.7m, roedd ystyriaeth fanwl wedi'i rhoi ac asesiad risg wedi’i gynnal ar bob hawliad presennol er mwyn sicrhau bod y lefelau'n ddarbodus. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol na fyddai'n gefnogol i'r gwelliant.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin ei fod yn erbyn y gwelliant. Er ei fod yn cytuno bod angen gwell setliadau gan LlC, a thalodd deyrnged i'r diweddar Gynghorydd Kevin Hughes ar arwain y gwaith o lobïo LlC am well setliadau, roedd yn teimlo y dylid diogelu cronfeydd wrth gefn a diolchodd i swyddogion am eu cyngor proffesiynol a chadarn.
Dywedodd y Cynghorydd Dave Healey ei fod yn erbyn y gwelliant, gan dynnu sylw at newid hinsawdd a'r angen i ddefnyddio arian wrth gefn i ddelio ag unrhyw dywydd garw. Siaradodd y Cynghorydd Carolyn Thomas hefyd yn erbyn y gwelliant gan gefnogi'r sylwadau gan y Cynghorydd Healey. Dywedodd ei bod wedi gwneud cais i'r fformiwla gyllido gael ei hadolygu yn ei rôl fel Aelod o'r Senedd, ac wedi gofyn am ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd. Dywedodd y byddai cymorth o £150 tuag at gostau byw yn cael ei ddarparu i bob aelwyd o fewn band treth Cyngor ad a'r aelwydydd hynny sy'n rhan o'r cynllun gostyngiad treth Cyngor. Ar hyn o bryd roedd LlC yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol ar sut y byddai'r cynllun yn gweithredu gyda thaliadau ar gael cyn gynted â phosibl.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor mai gwendid y ddadl a gyflwynwyd i'r gwelliant gan y Cynghorydd Jones oedd bod defnyddio arian wrth gefn yn arian untro ac felly nad oedd modd ei ddefnyddio eto'r flwyddyn nesaf. Yn dilyn etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai, byddai gweinyddiaeth nesaf y Cyngor yn wynebu bwlch ariannu o £2m yn syth ac roedd yn teimlo bod hyn yn anghyfrifol. Ailadroddodd y sylwadau a wnaed gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gan obeithio na fyddai'r Cyngor yn pleidleisio i gefnogi'r gwelliant.
Siaradodd y Cynghorydd Carol Ellis o blaid y gwelliant. Cododd bryderon nad oedd llawer o Aelodau wedi bod yn rhan o'r broses o osod y gyllideb ac nad oedd unrhyw ymgynghori wedi bod ar gynigion. Cyfeiriodd at y setliad cyllido gan LlC a gwnaeth sylwadau ar y setliad isel a ddarparwyd. Croesawodd y cymorth ar gyfer costau byw gan LlC, ond dywedodd nad oedd llawer o bobl sy'n byw mewn tlodi yn derbyn budd-daliadau a’u bod yn dibynnu ar fanciau bwyd. Doedd hi ddim yn teimlo ei bod hi'n deg i drigolion Sir y Fflint wneud yn iawn am y bwlch ariannol Gan LlC flwyddyn ar ôl blwyddyn. Siaradodd y Cynghorydd Helen Brown hefyd o blaid y gwelliant a'r sylwadau gan y Cynghorydd Ellis. Soniodd am y gwaith yr oedd wedi ei wneud fel gwirfoddolwr dros y 2 flynedd ddiwethaf a'r gefnogaeth sylweddol oedd ei angen ar bobl ledled Sir y Fflint oedd yn cael trafferth gyda chostau byw. Gofynnodd am gefnogaeth aelodau i dderbyn y gwelliant i helpu i leihau'r baich ar bob un o'r trigolion.
Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i holl Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet am eu gwaith ar y gyllideb a'r cyflwyniad. Siaradodd yn erbyn y gwelliant gan ddweud bod neges glir o fewn yr adroddiad, yn enwedig ynghylch dyfarniadau cyflog oedd yn risg sylweddol, yn enwedig gan fod y tâl arfaethedig presennol yn y sector cyhoeddus yn sylweddol is na chwyddiant ac y gellid disgwyl iddo godi yn y trafodaethau terfynol. Cyfeiriodd at y sylwadau a wnaed gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ynghylch dod â'r cylch o ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i ben a dywedodd fod cronfeydd wrth gefn wedi cael eu defnyddio o'r blaen yn ystod cyfnodau o lymder i ddiogelu gwasanaethau a oedd wedi'u dileu mewn awdurdodau cyfagos ac nad oeddent wedi cael eu hail-drefnu. Roedd o'r farn y byddai'r gwelliant yn cynyddu cost y Cyngor ac y byddai'n peryglu gwasanaethau'r Cyngor.
Wrth grynhoi, dywedodd y Cynghorydd Richard Jones ei fod wedi cael ei gyhuddo o ddefnyddio cronfeydd wrth gefn ond eglurodd y byddai'r gwelliant yn golygu bod y cronfeydd wrth gefn yn aros ar yr un lefel gydag arian yn cael ei dynnu allan o gronfeydd wrth gefn sydd wedi'u clustnodi. Dywedodd fod ei welliannau yn defnyddio symiau bach o gyllid ac nad oedd yn anghyfrifol lleihau baich treth y Cyngor. Amlinellodd y penderfyniadau a wnaed gan LlC oedd â goblygiadau cyllidol ar y Cyngor, fel y cynnydd yng nghyflog Athrawon a gweithredu'r cyflog byw go iawn, lle dylai cyllid ychwanegol gan LlC fod wedi'i ddarparu. Dywedodd y byddai trigolion eleni yn wynebu un o'r blynyddoedd ariannol anoddaf ac felly dylai'r Cyngor osod y Dreth Gyngor ar y lefel mwyaf fforddiadwy posibl.
Gofynnwyd am bleidlais wedi'i chofnodi, ac roedd y nifer gofynnol o Aelodau’n cefnogi hyn. Yn y bleidlais, ni chafwyd mwyafrif dros y gwelliant.
Dros y gwelliant: -
Cynghorwyr: Bernie Attridge, Haydn Bateman, Sian Braun, Helen Brown, Clive Carver, Bob Connah, Rob Davies, Adele Davies-Cooke, Rosetta Dolphin, Carol Ellis, Veronica Gay, George Hardcastle, Richard Jones, Brian Lloyd, Dave Mackie, Mike Peers, Ralph Small, Owen Thomas ac Arnold Woolley.
Yn erbyn y gwelliant: -
Cynghorwyr: Janet Axworthy, Glyn Banks, Sean Bibby, Chris Bithell, Derek Butler, Geoff Collett, Paul Cunningham, Ron Davies, Chris Dolphin, Ian Dunbar, Andy Dunbobbin, Mared Eastwood, David Evans, David Healey, Gladys Healey, Cindy Hinds, Andy Hughes, Dave Hughes, Ray Hughes, Alistair Ibbertson, Joe Johnson, Paul Johnson, Christine Jones, Tudor Jones, Richard Lloyd, Mike Lowe, Hilary McGuill, Ted Palmer, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Neville Philips, Ian Roberts, Kevin Rush, Tony Sharps, Aaron Shotton, Paul Shotton, Ian Smith, Carolyn Thomas, Martin White a David Wisinger.
Ymatal: -
Cynghorwyr: Marion Bateman, Colin Legg a Tim Roberts.
Ni chafodd y gwelliant ei basio ac felly daeth y cynnig fel y'i cynigiwyd a'i heiliwyd gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts a'r Aelod Cabinet Cyllid a Gwerth Cymdeithasol, y Cynghorydd Paul Johnson yn gynnig gwreiddiol.
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wrth Aelodau y gallent gadw eu pleidlais, ac felly pe bai Aelod yn pleidleisio dros y gwelliant y byddent yn pleidleisio yn erbyn y cynnig gwreiddiol.
Nododd y Cynghorydd Haydn Bateman ei fod eisiau newid ei bleidlais ac felly y byddai nawr yn pleidleisio dros y cynnig.
Ar ôl cael ei gynnig a’i eilio, pleidleisiwyd dros yr argymhellion canlynol, a chawsant eu pasio.
(1) Bod y Cyngor yn nodi ac yn cymeradwyo'r gofyniad cyllidebol diwygiedig ar gyfer 2021/22;
(2) Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r cynigion terfynol ar gyfer yr effeithlonrwydd corfforaethol a fydd yn cyfrannu at y gyllideb;
(3) Bod y Cyngor yn cymeradwyo cyllideb gyfreithiol a chytbwys yn seiliedig ar y cyfrifiadau fel y nodir yn yr adroddiad;
(4) Bod y Cyngor yn nodi'r risgiau agored sy'n parhau i gael eu rheoli yn ystod 2021/22;
(5) Bod y Cyngor yn cymeradwyo cynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2021/22 o 3.95%; a
(6) Bod y Cyngor yn nodi'r rhagolygon tymor canolig fel sail wrth addasu'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) y tro nesaf.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod argymhellion y Cabinet, fel y manylir uchod, ar gyfer cydbwyso'r gyllideb ar gyfer 2022/23 yn cael eu cymeradwyo; a
(b) Bod lefel Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23 yn ôl argymhellion y Cabinet yn cael ei chymeradwyo.
Dogfennau ategol:
- Council Fund Revenue Budget 2022/23 - Final Closing Stage, eitem 90. PDF 78 KB
- Appendix A – Cabinet Report 15 February 2022, eitem 90. PDF 939 KB