Agenda item

Diweddariad Economi Sir y Fflint

Pwrpas:        I ddarparu crynodeb o'r amodau economaidd cyfredol yn y rhanbarth a'r Sir gan dynnu o nifer o ffynonellau. Ac i ddarparu crynodeb o'r strwythurau llywodraethu sydd ar waith i ymateb i adferiad economaidd a'r rhaglenni gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad am amodau economaidd presennol yn Sir y Fflint ac ar draws y rhanbarth, yng nghyd-destun sefyllfa’r DU.  Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r strwythurau llywodraethu a oedd ar waith i ymateb i adferiad economaidd a rhaglenni gwaith hefyd.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio fod yr adroddiad yn adlewyrchu’r cam trawsnewid presennol gan atgyfnerthu sefyllfa Sir y Fflint fel un o’r economïau cryfaf yng Nghymru.  Er bod llai o achosion o ddileu swyddi ar raddfa fawr nag a ragwelwyd, roedd yr heriau o ran recriwtio a chadw staff wedi cynyddu trwy gydol y pandemig.  Dau fater sylweddol oedd diffyg safleoedd ac eiddo addas ar gyfer buddsoddi a recriwtio i sectorau allweddol.  Nodwyd y gwaith rhanbarthol i gefnogi adferiad economaidd gan gynnwys y pecynnau o fesurau cefnogi a ddatblygwyd ac a oedd yn aros am benderfyniadau cyllid.  Byddai’r gr?p lleol yn sicrhau bod ffrydiau gwaith yn cael eu cydlynu’n effeithiol er mwyn darparu’r effaith orau i Sir y Fflint.  Yn ystod trosolwg o’r cynlluniau allweddol, nodwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i wella data ar ganol trefi ac roeddent yn aros am ganlyniad cynllun peilot Llywodraeth Cymru (LlC) ar Fenthyciadau Entrepreneuriaeth Canol Trefi.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am yr adroddiad manwl. Galwodd y Cynghorydd David Healey ar y Llywodraeth i ddarparu mwy o gymhelliant i fusnesau gymryd prentisiaid.  Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth am waith lleol a rhanbarthol i wella llif gwybodaeth i annog dysgwyr, ac o ganlyniad i’r pandemig, roedd llawer o fusnesau yn croesawu cyfleoedd am brentisiaethau.

 

Gan ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Clive Carver am raddau’r gwelliannau digidol ar draws y Sir gan gynnwys ei ward ef, cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at ffrydiau gwaith dan y Strategaeth Ddigidol a Bargen Dwf Gogledd Cymru, a byddai’n trafod pryderon y Cynghorydd Carver ymhellach y tu allan i’r cyfarfod.

 

Croesawodd y Cynghorydd Derek Butler yr adroddiad a oedd yn amlygu’r economi gadarn yn Sir y Fflint a nodi materion ar gyfer gwelliant pellach.  Dywedodd fod prinder sgiliau a heriau recriwtio yn amlwg cyn y pandemig a Brexit, a dylai’r Cyngor barhau i gyflwyno sylwadau i LlC i gynyddu cyfleoedd am brentisiaethau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hilary McGuill a’r Cynghorydd Marion Bateman nad oedd y diffyg unedau masnachol oedd ar gael yn annog busnesau i ehangu.  Gan ymateb i gwestiwn, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth eglurder ar ddyrannu’r rownd ddiweddaraf o gyllid grant i fusnesau a byddai’n gwirio a oedd cymhellion cyllid newydd i annog cyflogwyr i dderbyn prentisiaid.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Derek Butler deyrnged i waith y Rheolwr Gwasanaeth a’r Rheolwr Refeniw a’u timau wrth reoli cyllid grant i fusnesau.  Cytunodd â phryderon am ddiffyg unedau diwydiannol ac awgrymodd efallai byddai’r Cyngor am roi ystyriaeth i lunio rhaglen i fodloni’r galw.

 

O ran unedau diwydiannol, eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) rôl y Cyngor o ran argaeledd tir a rhoddodd enghreifftiau o geisiadau ar amryw o safleoedd.  Cyfeiriodd Aelodau at adroddiad Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi a oedd ar y gweill am y dull arfaethedig i wneud cais i Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU i gynyddu buddsoddiad yn yr ystâd eiddo masnachol.

 

Wrth groesawu’r adroddiad, dywedodd y Cadeirydd nad oedd yn mynd i’r afael yn llawn â chanol trefi a dylai gwybodaeth am ffrydiau gwaith gynnwys amserlen i fonitro cynnydd.  Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai penodi swyddog canol tref yn cefnogi’r gwaith hwn.

 

Gan ymateb i awgrym gan y Cadeirydd am ymgysylltu ag ysgolion i fynd i’r afael â’r diffyg o ran sgiliau, cadarnhaodd swyddogion fod y mater wedi’i nodi fel risg strategol ac roedd yn flaenoriaeth i’r Bwrdd Uchelgais Economaidd, yn ogystal â ffrydiau gwaith lleol.

 

Yn dilyn trafodaeth am y dull gorau, awgrymodd yr Hwylusydd fod llythyr yn cael ei anfon at y Bwrdd Uchelgais Economaidd i ganfod eu cynlluniau i ymgysylltu â’r sector addysg ac i fynegi barn y Pwyllgor, a chroesawodd y Cadeirydd hyn.

 

Gwnaeth y Prif Weithredwr awgrym pellach, sef fod cynrychiolydd o’r Bwrdd Uchelgais Economaidd yn cael eu gwahodd i ddarparu gwybodaeth i’r Pwyllgor am hyrwyddo sgiliau yn y sector addysg.  Byddai’n cysylltu â’r Prif Swyddog a’r Hwylusydd am hyn.  Cynigiodd y Cadeirydd yr argymhelliad ychwanegol, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod cynnwys a chasgliadau’r adroddiad yn cael eu cefnogi; a

 

(b)       Bod llythyr yn cael ei anfon at y Bwrdd Uchelgais Economaidd i wahodd cynrychiolydd i gyfarfod y Pwyllgor ar 3 Mawrth i amlinellu cynlluniau/ffrydiau gwaith yn y dyfodol gyda’r sector addysg i hyrwyddo’r cyfleoedd addysgol/gwaith ar draws Gogledd Cymru.

Dogfennau ategol: