Agenda item

Ail Gylch Ymgeisio Cronfa Codi'r Gwastad

Derbyn barn a chefnogaeth y Pwyllgor i’r cynigion i gyflwyno ceisiadau i Ail Gylch Ymgeisio Cronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU.

Cofnodion:

            Cyflwynodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad sy’n amlygu ail gylch cyllido Cronfa Codi’r Gwastad ar gyfer prosiectau cyfalaf a’r gwaith sydd ar y gweill cyn cyflwyno’r ceisiadau yn y gwanwyn. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos nesaf a bydd sylwadau’r Pwyllgor hwn yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

            Darparodd y Rheolwr Menter ac Adfywio gefndir i’r Rhaglen Gyfalaf a gyhoeddwyd yn 2021 ac sy’n dod i ben yn 2024 ac yn rhan o raglen Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU. Roedd y Cyngor yn gallu gwneud tri chais ar gyfer prosiectau cludiant strategol a rhaglenni adfywio yn etholaethau Alun a Glannau Dyfrdwy a Delyn. Mae pob Cyngor yn gallu cyflwyno ceisiadau, gyda’r cynghorau llwyddiannus yn gorfod darparu o leiaf 10% o arian cyfatebol. Soniodd y Rheolwr Menter ac Adfywio am y cais aflwyddiannus y llynedd, y blaenoriaethau a’r pryderon ynghylch yr amserlen i gwblhau ceisiadau, sydd ar hyn o bryd yn aneglur. Darparodd wybodaeth am strategaethau’r cynnig, sy’n canolbwyntio ar gymunedau arfordirol Sir y Fflint ac yn cynnwys etifeddiaeth yr hen ddiwydiannau trwm, gwella safleoedd cyflogaeth, lleihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelu safleoedd treftadaeth pwysig. Y gobaith yw gweld y cynigion hyn yn helpu i gadw cyflogwyr, defnyddio asedau treftadaeth unwaith eto ac annog pobl leol ac ymwelwyr i ymweld â’r ardal arfordirol.

 

Yna fe ddarparodd wybodaeth am y 4 diffyg yn y farchnad sy’n derbyn sylw yn y cynigion:-

 

·         Diffyg buddsoddi mewn adeiladau gyda llawer yn dod i ddiwedd eu hoes

·         Treftadaeth - mae llawer o safleoedd yn dirywio

·         Dociau Cei Connah

·         Yr arfordir - angen sicrhau ei fod yn cael ei werthfawrogi a datrys problemau o ran cysylltiad

 

            Cadarnhaodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod y cynigion yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a bod angen gwneud mwy o waith arnynt. Darparwyd gwybodaeth am y cynigion ar gyfer Delyn, Parc Castell y Fflint a Pharc Busnes Maes Glas, sy’n defnyddio hen adeiladau’r diwydiant trwm. Mae’r rhain yn eiddo i’r Cyngor a gall y cynigion ddiogelu swyddi ar y safleoedd hyn.

 

            Gan symud i Alun a Glannau Dyfrdwy, amlinellodd y Rheolwr Menter ac Adfywio’r cynigion ar gyfer dociau Cei Connah, y parc busnes ac i fynd i’r afael â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Eglurwyd y cynigion ar gyfer y T?r Cloc yn Shotton a moderneiddio’r unedau busnes yn defnyddio cynllun grant eiddo busnes. Byddai mynediad gwell i’r ardal gyfan yn cael ei ystyried i annog ymwelwyr. Hefyd, eglurwyd yr amserlen ar gyfer y cynigion a sut y byddant yn cael eu hasesu a’u rhoi ar restr fer gan sicrhau eu bod yn gadarn ac yn bosibl. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yr wythnos nesaf gyda’r Prif Swyddog a’r Aelod Cabinet yn symud hyn yn ei flaen gydag awdurdod dirprwyedig i ddiwygio'r cais i fodloni gofynion Llywodraeth y DU.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton fod y Gronfa Codi’r Gwastad yn gyfle i wella treftadaeth dociau Cei Connah ac ailddefnyddio’r ardal. Byddai argaeledd grantiau gwella busnes ar gyfer yr hen waith dur ac adeiladau John Summers yn fuddiol i’r ardal gyfan. Roedd ei bryderon yn ymwneud â’r cyfnod byr o amser tan 2024.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Joe Johnson at Faes Glas a gofynnodd a oedd y cynnig yn darparu unedau newydd neu’n ailwampio’r hen unedau. Gofynnodd hefyd a oes rhestr aros ar gyfer yr unedau hyn. Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod gwaith asesu yn cael ei wneud ond fod rhai unedau wedi dirywio cymaint nad oes modd eu hatgyweirio. Mae’n fuan iawn yn y broses ac mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda’r tenantiaid i drafod y dewisiadau ac i gefnogi’r busnesau. Petai’r cyllid ar gael byddai rhai unedau yn cael eu dymchwel a’u codi o’r newydd. Mae yna alw go iawn ac ni fyddai unrhyw anawsterau wrth eu gosod.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Sean Bibby fod yna botensial gwych ar gyfer yr ardal arfordirol gyfan sy’n cael ei thanddefnyddio. Gan gyfeirio at ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau delio cyffuriau, talodd deyrnged i waith caled yr asiantaethau a’r Heddlu wrth geisio lleihau’r problemau. Roedd yn llwyr gefnogi’r holl feysydd yn y cynigion.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom i bwy y dylid cyflwyno sylwadau manylach. Mewn ymateb, gofynnodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i’r Aelodau anfon pob sylw yn ysgrifenedig at y Rheolwr Menter ac Adfywio cyn cyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth nesaf.

 

            Roedd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd yn pryderu ynghylch yr amserlenni a’r cyfraddau llwyddo gan ddweud bod yn rhaid i bob cais fod yn gadarn. Roedd yn optimistaidd a dywedodd y byddai cysylltu etholaethau gyda chyfleoedd i hyrwyddo'r dreftadaeth arfordirol yn darparu cyfeiriad tua 2024.

 

            Dywedodd y Cadeirydd fod angen buddsoddi yn y parc busnes ym Maes Glas gan ei fod yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Sir y Fflint. Ychwanegodd fod Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas (MF2) yn yr adroddiad yn rhan o'r cynllun ar gyfer Cyngor Tref Treffynnon.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Sean Bibby.

 

PENDERFYNWYD:

 

Adolygodd a thrafododd yr Aelodau’r dull arfaethedig i ddatblygu'r cynigion i’w cyflwyno ar gyfer ail gylch cyllido Cronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU.

Dogfennau ategol: