Agenda item

Y wybodaeth ddiweddaraf am Economi Sir y Fflint

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am gyflwr yr economi yn Sir y Fflint a rhaglenni gwaith i gynorthwyo gydag adferiad.

Cofnodion:

            Cyflwynodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad sy’n edrych ar yr heriau a wynebir yn dilyn pandemig Covid-19 a Brexit ac sy’n asesiad ar sail tystiolaeth o sefyllfa bresennol yr economi yn Sir y Fflint. Mae’r adroddiad yn nodi sefyllfa’r Cyngor yn genedlaethol ac yn lleol a’r goblygiadau i fusnesau.


           
Eglurodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod yr economi mewn cyflwr o newid yn dilyn Brexit a’r pandemig gyda Sir y Fflint ar hyn o bryd yn parhau’n gryf ac yn nes at gyfartaledd y DU o ran cystadleurwydd. Mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amlinellu'r heriau a wynebir gan fusnesau gyda rhai yn cau ac eraill yn lleihau eu gallu i fasnachu gyda llai o drosiant a hyder. Mae’r heriau wrth fewnforio ac allforio yn dilyn Brexit yn parhau.

 

            Adroddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio ar waith y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ac amlygodd y pwyntiau allweddol. Mae llai wedi colli’u swyddi na’r disgwyl gyda diweithdra yn uwch y llynedd ond yn llai eleni. Ymddengys nad yw dyheadau pobl ifanc a’r farchnad lafur yn cyd-fynd a darparwyd gwybodaeth am gyfleoedd gwaith heb eu llenwi; mae 81% o fusnesau wedi cael trafferth recriwtio gweithwyr ac mae’n rhaid i’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a’r Cyngor wneud gwaith pellach i helpu i fynd i’r afael â hyn. Mae diffyg hyder ymhlith busnesau wedi effeithio ar fuddsoddi ac adfer gyda phob sector yn cael anawsterau recriwtio, yn enwedig y sectorau gofal, adeiladu a thwristiaeth a lletygarwch. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynorthwyo’r busnesau hyn i recriwtio. Mater arall i’w amlygu yw anawsterau busnesau wrth ganfod eiddo addas, ac mae gwaith ar y gweill i fynd i’r afael â hynny hefyd.

 

            Cyfeiriodd y Rheolwr Menter ac Adfywio at drethi busnes a darparodd wybodaeth am lefydd gwag ar draws Sir y Fflint, a oedd yn amlygu bod rhai sectorau mewn mwy o berygl nag eraill. Adroddodd y Rheolwr Menter ac Adfer ar ymateb rhanbarthol Llywodraeth Cymru a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ddarparu cyllid brys i ganol trefi a’r diwydiant croeso. Darparwyd gwybodaeth am waith Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy a Gr?p Adfer Economaidd y Cyngor, ynghyd â’r ffrydiau ariannu sydd ar gael i’r Cyngor. Hefyd, fe roddwyd diweddariad ar gynllun peilot benthyciad entrepreneuriaeth canol trefi.

 

            Teimlodd y Cynghorydd Owen Thomas fod ffermwyr yn gwneud yn dda a dywedodd fod galw mawr am eu cynnyrch, yn enwedig cig oen o Gymru. Mae gormod o sylw wedi’i roi i Brexit ac mae’n bryd symud ymlaen. Dywedodd y byddai eleni yn flwyddyn gadarnhaol, yn enwedig gyda siopau canol y dref yn ddechrau llenwi.

 

            Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd fod y sefyllfa’n gadarnhaol a bod arwyddion cadarnhaol yn ein canol trefi. Mae ffermwyr yn dweud pa mor ofnadwy oedd Brexit gyda physgotwyr yn methu gwerthu i’r cyfandir oherwydd biwrocratiaeth. Roedd y materion mewn perthynas â sgiliau, cyflenwadau a llymder yn bodoli cyn Covid. Roedd yn falch bod Sir y Fflint yn y sefyllfa hon ond dywedodd na fyddai holl effeithiau Brexit i’w gweld am rai blynyddoedd.

 

            Roedd y Cadeirydd wedi drysu efo’r ffigyrau gan ddweud bod diweithdra i fyny ond bod recriwtio i lawr, a gofynnodd am eglurhad. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfer fod y darlun yn wahanol ymhob sector. Mae staff yn gadael rhai sectorau ac yn symud i swyddi eraill, mae rhai gweithwyr yn ymddeol yn gynnar ac mae llai o fusnesau yn defnyddio gweithwyr Ewropeaidd.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Sean Bibby a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod cynnwys a chasgliadau’r adroddiad wedi’i hystyried a’u cefnogi.

 

Dogfennau ategol: