Agenda item

Adolygiad Perfformiad Torri Gwair

Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ar berfformiad torri gwair ar draws y sir yn ystod 2021 ac ail-gymeradwyo’r polisi torri gwair presennol.

Cofnodion:

            Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth). Cyflwynodd Neil Cox, y Rheolwr Gwasanaeth Stryd newydd i’r Pwyllgor.

 

            Mae’n arfer da adolygu ein trefniadau ac mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar ddarpariaeth y gwasanaeth hwn. Mae’r polisi wedi’i adolygu’n rheolaidd ers 2012 gyda’r fersiwn ddiweddaraf wedi’i chymeradwyo fis Ionawr 2020 Mae’r adroddiad yn darparu trosolwg o’r perfformiad yn ystod tymor 2021. Cyfeiriwyd at adrannau 1.02 ac 1.07 sy’n darparu gwybodaeth am y gweithgareddau a’r gwaith torri blynyddol. Yna fe gyfeiriodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) at adrannau 1.10 ac 1.11 ac Atodiad 2 sy’n darparu crynodeb ar gyfer pob tîm a’r gwaith torri yn ystod y tymor. Amlygwyd effeithiau’r tywydd gwlyb hefyd. Darparwyd eglurhad hefyd o’r newidiadau i’r broses dendro ar gyfer y contract chwistrellu chwyn er mwyn ei wneud yn fwy cadarn. Gorffennodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) drwy ddweud nad oes unrhyw argymhelliad i newid y polisi.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd a yw’r rhaglen plannu blodau wedi helpu efo torri gwair. Mewn ymateb, dywedodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod prosesau i’w dilyn fel casglu ac ailblannu ar ddechrau a diwedd y tymor, sydd dal angen adnoddau. Cadarnhaodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd fod mwy na 50 o safleoedd bach ar draws y sir sydd angen ymateb gwahanol, gyda pheiriannau a dulliau rheoli pwrpasol. Mae’r Cyngor yn cefnogi ac yn hyrwyddo creu ardaloedd blodau gwyllt, gyda rhai ardaloedd wedyn ddim angen eu torri.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd George Hardcastle at effaith newid hinsawdd gyda’r gwair yn tyfu’n gynharach yn y tymor a gofynnodd a oes angen torri gwair yn amlach. Mewn ymateb soniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) am gynlluniau i ddechrau gwaith torri gwair y gaeaf yn gynt a’i ymestyn, ond mae’r tymor yn dechrau’n gynt bob blwyddyn. Eglurodd fod yr un adnoddau’n cael eu defnyddio i raeanu’r ffyrdd a bod y gwaith torri gwair a graeanu’r ffyrdd yn gorgyffwrdd ym mis Mawrth. Mae’n anodd rheoli hyn ond mae gwaith torri ychwanegol yn cael eu cynllunio ar gyfer diwedd mis Ionawr/dechrau mis Chwefror er mwyn bod ar ben hyn cyn i’r tymor ddechrau. Ym mis Ionawr 2020 adroddodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd fod gwaith torri llwyddiannus wedi’i wneud ond bod y fantais hon wedi’i cholli wrth i’r wlad fynd i mewn i gyfnod clo yn sgil y pandemig fis Mawrth 2020. Gyda’r tymor torri gwair yn cael ei estyn i’r gaeaf, gall y tir fod yn wlyb a mwdlyd iawn, a’r peiriannau wedyn yn troi ac yn difrodi’r tir sydd wedyn yn cymryd mwy o amser i adfer.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Owen Thomas y cwestiynau canlynol:-

 

·           Cyfeiriodd at y frawddeg olaf ar dudalen 73 a oedd yn dweud mai pwrpas torri gwair yw cynnal diogelwch a gwelededd ar y briffordd. Dywedodd fod y gwair ar rai lonydd gwledig a ddefnyddir yn helaeth yn hir iawn a bod 50% o’r gwelededd yn cael ei golli. Mae angen torri’r gwair yn y llefydd yma fwy nag unwaith y flwyddyn. Mae’r adroddiad yn dweud bod gwair yn cael ei dorri 4 gwaith mewn ardaloedd trefol ac unwaith mewn ardaloedd gwledig.

·           Cyfeiriodd at erddi tenantiaid a gofynnodd pam nad yw’r gwair yn cael ei godi ar ôl ei dorri neu a oes modd defnyddio peiriant sy’n torri’r gwair yn fân iawn.

·           Cyfeiriodd hefyd at fannau amwynder gan ddweud ei fod wedi mynd i wylio gemau pêl-droed lle’r oedd y gwair yn 4 modfedd o hyd. A oes modd edrych ar hyn?

·         Cyfeiriodd wedyn at gloddiau gan ddweud eu bod wedi tyfu’n aruthrol y llynedd ac yn crafu ceir ac yn rhwystro gwelededd. Roedd yn deall mai cyfrifoldeb y tirfeddianwyr ydynt ond gofynnodd a oes modd mynd i’r afael â hyn. Mae cloddiau a thyfiant lleiniau ymyl ffordd yn mynd yn fwy ac mae angen ystyried hyn wrth gynllunio ar gyfer y gwasanaeth.

 

            Gan ymateb i’r sylwadau a gafwyd, cytunodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) i siarad efo’r Cynghorydd Thomas y tu allan i’r cyfarfod. Mae yna safonau gwahanol ar gyfer ffyrdd gwledig a ffyrdd trefol mewn perthynas â lleiniau gwelededd. Roedd hi’n cydnabod ei sylwadau yngl?n ag ansawdd y gwaith a chadarnhaodd y byddai’n ymchwilio i’r materion a godwyd gan y Cynghorydd Thomas. Dywedodd fod amlder y gwaith torri gwair wedi’i nodi yn y polisi ond, os yw’r Cynghorydd Thomas yn ymwybodol o broblemau mewn ardaloedd penodol, o ran cloddiau neu dorri gwair, gofynnodd iddo gysylltu â’i Gydlynydd Ardal yn y lle cyntaf, gan fod ganddynt ddisgresiwn i fynd i’r afael â materion o’r fath. Gan gyfeirio at erddi tenantiaid, cadarnhaodd fod hyn yn cyd-fynd â’r polisi ac yn cael ei ddarparu gan gontractwr. Yn anffodus nid oes digon o adnoddau i’n caniatáu ni i dorri’r gwair yn fân a chasglu’r toriadau.

 

            Mewn ymateb i’r pwynt am fannau amwynder, dywedodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd fod sawl cwyn wedi dod i law am gaeau pêl-droed. Mae’r rhain yn cael eu rheoli gan ysgolion neu ganolfannau chwaraeon ac mae’r tîm mewnol yn torri’r gwair. Mae’r atodlen perfformiad caeau cymunedol ar gael yn Atodiad 2 ond oherwydd y tywydd nid yw wedi bod yn bosibl torri’r gwair ar adegau penodol; ond mae’r caeau wedi’u torri 12 gwaith. Gofynnodd i’r Cynghorydd Thomas gadarnhau lleoliad y caeau er mwyn iddo ymchwilio ymhellach i hyn. Gan gyfeirio at ffyrdd gwledig cadarnhaodd fod y polisi yn dweud mai unwaith y flwyddyn maent yn cael eu torri, ond eu bod hefyd yn cael eu torri fis Medi/Hydref. Os yw’r Cydlynydd Ardal yn ymwybodol o’r materion hyn yna mae ganddo’r disgresiwn i ddelio â nhw. Cytunodd i siarad efo’r Cynghorydd Thomas yn uniongyrchol.

 

            Cadarnhaodd y Cynghorydd Thomas fod hyn wedi’i godi gyda’r Cydlynydd Ardal y llynedd oherwydd pryderon yn ymwneud ag iechyd a diogelwch ac roedd yn derbyn bod y tyfiant y llynedd wedi bod yn aruthrol.

 

            Cadarnhaodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd fod y rhan fwyaf o’r cloddiau mewn dwylo preifat ac y byddai’n rhaid i’r Cyngor ysgrifennu at y perchennog i roi cyfle iddynt wneud y gwaith cynnal a chadw. Mae proses i’w dilyn os ydynt yn methu â gweithredu ar ôl ein cyngor. Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas y byddai’n hoffi gweld y gyfraith yn newid fel bod modd torri cloddiau yn ystod mis cyntaf y tymor.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton fod effeithiau newid hinsawdd i’w gweld ymhob man. Dywedodd fod y gwaith plannu blodau gwyllt wedi cael croeso mawr yn ei ardal. Roedd yn falch o glywed fod y sefyllfa gyda’r contract chwistrellu chwyn yn derbyn sylw a gofynnodd a oedd y lladdwr yn doddiant gwan. Gan ymateb i’r Cynghorydd Shotton eglurodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) nad y toddiant a ddefnyddir yw’r broblem ond bod y Cyngor wedi’i adael i lawr gan y contractwyr ac yn ei chael hi’n anodd cyflawni’r gwaith.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd beth sy’n cael ei gynnig mewn perthynas â’r contract newydd. Mewn ymateb, cadarnhawyd y byddai’r ardaloedd yn cael eu rhannu’n lotiau i sicrhau cadernid. Cadarnhaodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd eu bod ar y cam comisiynu ar hyn o bryd gyda’r rhannu, maint a’r ardaloedd yn cael eu hystyried. Mae ardaloedd y gogledd, y canol a’r de yn cael eu hystyried, a fyddai’n cyd-fynd ag ardaloedd y contractwr torri lleiniau ymyl ffordd. O ran torri lleiniau ymyl ffordd mae’r un contractwr yn cael ei ddefnyddio yn y gogledd ar de, ond ar draws tair ardal. Darparodd wybodaeth am y trafodaethau gyda Chyngor Sir Ddinbych a’r Adran Dai a dywedodd nad oes cyfle go iawn i ymestyn y contractau. Byddai’r contractau’n cael eu rhannu i sicrhau bod yna opsiynau wrth gefn petai angen.

 

            Croesawodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd Neil Cox i’r cyfarfod a’r Gwasanaethau Stryd. Dywedodd mai’r cynghorwyr yw llygaid a chlustiau’r Cydlynwyr Ardal yn y lle cyntaf. Os yw Aelodau yn teimlo bod materion angen eu codi, awgrymodd y dylid eu cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

            Roedd y Cynghorydd Ian Roberts yn deall y rhwystredigaeth ond dywedodd nad oes yn rhaid aros am gyfarfod o’r pwyllgor i godi’r materion hyn; mae modd codi’r materion drwy’r Cydlynwyr Ardal, Uwch Swyddogion ac Arweinwyr Grwpiau. Yn ystod y cyfnod clo blaenoriaeth y Cyngor oedd darparu gwasanaethau hanfodol a chanmolodd y staff am eu dulliau gweithio yn ystod y pandemig.

 

            Cytunodd y Cynghorydd George Hardcastle a dywedodd fod staff y Gwasanaethau Stryd ac ailgylchu wedi gwneud gwaith rhagorol yn ystod y cyfnod clo.

 

Cadarnhaodd Neil Cox fod modd i Aelodau gysylltu ag ef yn uniongyrchol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr David Evans ac Owen Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith a wneir ac yn fodlon nad oes angen newid y polisi.

 

 

Dogfennau ategol: