Agenda item

Uwchgynllun Shotton

Pwrpas:        Adroddiad Prif Swyddog (Stryd a Chludiant) - Aelod Cabinet Datblygu Economaidd

 

Atodir y dogfennau canlynol i gynorthwyo Aelodau:

 

·         Copi o adroddiad y Uwchgynllun Shotton

·         Copi o’r Cofnod o Benderfyniad

·         Copy o’r Hysbysiad Galw i Mewn

 

Cofnodion:

Sylwadau gan y rhai a lofnododd y galw i mewn

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Richard Jones i annerch y Pwyllgor yn gyntaf. Gan gydnabod yr heriau y mae pob canol tref yn eu hwynebu a'r pwysau ar y tîm Adfywio, dywedodd y byddai buddsoddi adnoddau'r Cyngor yn Shotton i gefnogi’r dref honno yn annheg ar drefi eraill ar draws Sir y Fflint  Roedd yn amheus ynghylch yr egwyddorion allweddol y tu ôl i'r penderfyniad, sef lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion amgylcheddol ac i ddibenion cymharu, rhannodd ystadegau ymddygiad gwrthgymdeithasol o bob rhan o Sir y Fflint ynghyd â thystiolaeth ffotograffig o ganol tref Shotton a oedd yn dangos lefelau da o lendid a dim ond ychydig o siopau wedi cau. Roedd yn teimlo felly nad yw'n glir pam bod tref Shotton wedi'i blaenoriaethu, yn enwedig gan ei bod eisoes wedi manteisio ar fuddsoddiad a chyfleusterau da ym maes darpariaeth iechyd, cysylltiadau cludiant, amrywiaeth o fanciau a siopau'n gweithredu ar y stryd fawr yn ogystal â chynlluniau ar gyfer prosiect seilwaith gwyrdd. Dywedodd y dylai adnoddau a buddsoddiad gefnogi pob tref yn Sir y Fflint, neu y dylai cynllun ar gyfer tref benodol gael ei benderfynu arno ar ôl asesu meini prawf perthnasol.

 

Roedd pryderon y Cynghorydd Veronica Gay yn ymwneud â sut y penderfynwyd mai Shotton yw’r dref sydd angen cymorth fwyaf pan fo trefi eraill yn profi mwy o broblemau gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chanddynt hefyd lai o gyfleusterau ar y stryd fawr, ac enwodd Saltney fel un enghraifft.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers nad ar chwarae bach y penderfynwyd galw’r penderfyniad i mewn a bod angen asesiad o anghenion ar draws Sir y Fflint er mwyn rhannu adnoddau’n deg.  Gan ddweud fod hwn yn gynllun a fydd yn datblygu dros 8 mlynedd, tynnodd sylw at y lefel uchel o adnoddau swyddogion a gweithgorau a’r diffyg manylion yngl?n a threfniadau ariannu yn yr adroddiad.  Dywedodd y dylid defnyddio’r prosiect fel fframwaith i ddatblygu Cynllun ar gyfer Sir y Fflint i gyd gyda gweledigaeth gyffredin i bennu hierarchaeth angen ar draws pob sir a rhannu adnoddau’n briodol.

 

Ymatebion gan y penderfynwyr

 

Fel Arweinydd y Cyngor, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts bod y ffotograffau’n adlewyrchu cynnydd hyd yma o ran mynd i'r afael â materion a oedd yn amlwg ar ddechrau'r prosiect a diolchodd i'r aelodau lleol am eu rhan yn hyn o beth. Canmolodd fentrau mewn amrywiol gymunedau ar draws Sir y Fflint i adfywio canol trefi ac roedd yn cydnabod y byddai gwaith yn cael ei ailadrodd mewn meysydd eraill. Mewn ymateb i’r mater o gadw banciau ar y stryd fawr, dywedodd nad yw penderfyniadau o’r fath o dan reolaeth y Cyngor ac nid oedd yn sicr yngl?n ag amseriad y galw i mewn yng ngoleuni'r ffaith bod y Cabinet wedi cael adroddiadau ar gynnydd ar bob cam.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) gyflwyniad mewn ymateb i’r galw i mewn, a oedd yn cynnwys:

 

·         Y cefndir a'r sail dros gynllun yn Shotton

·         Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

·         Lefelau incwm cyfartalog fesul tref (Gogledd Cymru)

·         Amcanion y Cynllun ar gyfer Shotton

·         Effaith atal/rhoi’r gorau i waith ar y Cynllun

·         Y dyfodol a’r camau nesaf

 

Eglurwyd bod Cynllun Meistr Shotton yn deillio o 2020 mewn ymateb i gynnydd mewn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a chwynion amgylcheddol, ac eglurwyd nad oedd unrhyw gyllid nac adnoddau ychwanegol wedi'u rhyddhau.  Roedd rhagor o waith datblygu ar gynllun ar gyfer Shotton yn anelu at wella gwytnwch cymunedol, cyfuno adnoddau a chysylltu â phrosiectau annibynnol eraill i ychwanegu gwerth a sicrhau diogelwch a bywiogrwydd Shotton. Roedd meini prawf fel lefelau amddifadedd a lefelau incwm cyfartalog yn dangos yr angen i flaenoriaethu Shotton. Roedd sawl risg pe bai’r gwaith yn cael ei stopio ar y cam hwn, yn cynnwys colli momentwm ymgysylltiad â rhanddeiliaid a llwyddiannau hyd yma, yr effeithiau ar sefydliadau partner a cholli cyfleoedd i gysylltu â phrosiectau annibynnol eraill.   Eglurodd y Prif Weithredwr y gallai'r prosiect ffurfio glasbrint ar gyfer mentrau tebyg mewn trefi eraill ac y gallai ymgysylltu pellach gyda chymunedau eraill helpu i ddiogelu cyllid i gefnogi'r newidiadau hynny ac annog perchnogaeth gymunedol.

 

Fel Aelod Cabinet Datblygu Economaidd, dywedodd y Cynghorydd Derek Butler wrth yr aelodau bod llwyddiannau cynnar y prosiect Gwasanaethau Stryd gwreiddiol o ran taclo materion arwyddocaol yn Shotton wedi esblygu dros amser a bod yr ymdriniaeth yn amlwg yn gweithio fel y mae'r ymateb cydlynol ac amlasiantaeth wedi'i brofi.

 

Fel Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, siaradodd y Cynghorydd Chris Bithell am Gynlluniau Meistr a ddatblygwyd ar gyfer trefi eraill a’r problemau difrifol a oedd yn amlwg yn Shotton ar y pryd ac a oedd yn cyfiawnhau camau gweithredu penodol ar frys. Roedd angen rheoli a blaenoriaethu adnoddau yn effeithiol ac roedd yr adroddiad yn nodi y byddai capasiti ychwanegol a grëwyd yn y tîm Adfywio yn cefnogi gwaith yn Shotton ac mewn trefi eraill.

 

Diolchodd y Cynghorydd Glyn Banks, fel Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd, i’r swyddogion am y cyflwyniad manwl. Wrth gyfeirio at leoliad unigryw Shotton, dywedodd bod y Cynllun yn un rhannol uchelgeisiol a’i fod wedi’i fwriadu i’w ddefnyddio fel sail ar gyfer prosiectau mewn trefi eraill.

 

Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor

 

Canmolodd y Cynghorodd Joe Johnson y Cyngor am weithio gydag Aelodau Lleol i wella cyfleusterau mewn ardaloedd eraill megis Treffynnon,

 

Gan siarad dros y galw i mewn, gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom pam nad oedd yr eitem a’r modd y blaenoriaethwyd Shotton wedi'u cyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.  Argymhellodd Opsiwn 4 i gyfeirio’r mater i’r Cyngor llawn.

 

Fel un o’r Aelodau Lleol, dywedodd y Cynghorydd Dave Evans ei fod yn cofio’r problemau difrifol yn Shotton a'u heffaith niweidiol ar ganol y drefn ar ddechrau’r prosiect. Roedd yn croesawu’r gwelliannau a wnaed hyd yma gyda mewnbwn nifer o asiantaethau, grwpiau gwirfoddolwyr a thimau'r Cyngor. Mewn ymateb i’r pwyntiau a godwyd, awgrymodd ei bod yn bosibl bod y ffotograffau wedi’u cymryd ar yr un pryd ag ymgyrch lanhau ddiweddar gan y Tim Gwasanaethau Stryd ac y dylai cymhariaeth o ystadegau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ystyried maint a phoblogaeth trefi.

 

Gan siarad o blaid penderfyniad y Cabinet, cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton Opsiwn 1, sef bod y Pwyllgor yn fodlon â’r eglurhad ac yn caniatáu i’r penderfyniad gael ei weithredu.

 

Roedd y Cynghorydd George Hardcastle yn croesawu adfywiad canol y dref ond galwodd am fwy o dryloywder er mwyn dangos bod pob tref yn cael yr un cyfle.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr  mai’r glasbrint oedd datblygu Cynllun cydlynol yn canolbwyntio ar adfywiad ar draws trefi, ond bod y prosiect yn Shotton yn unigryw am ei fod yn taclo’r problemau amgylcheddol a throsedd ac anhrefn arwyddocaol a oedd yn digwydd yn y dref ar y pryd. Byddai hyn yn ei dro  yn helpu i hysbysu gweithgareddau adfywio sydd ar y gweill mewn ardaloedd gan ennyn rhagor  o ymgysylltiad â chymunedau er mwyn creu deilliannau cynaliadwy.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y rhai a wnaeth yr alwad i mewn i grynhoi.

 

Diolchodd y Cynghorydd Richard Jones i bawb am eu cyfraniadau. Mewn ymateb i’r pwyntiau a godwyd, dywedodd bod yr alwad i mewn mewn ymateb i argymhelliad ym mis Tachwedd bod y Cabinet yn cymeradwyo gwaith pellach. Er ei fod yn cefnogi Cynllun Shotton, roedd ei bryderon yn ymwneud ag ymateb y Cyngor am nad oedd yn teimlo bod tystiolaeth i ddangos bod Shotton yn achos arbennig. Roedd yn cydnabod y broblem ddigartrefedd ond yn anghytuno bod ystadegau amgylcheddol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ffactorau allweddol yn y dref. Ychwanegodd y dylai’r adroddiad fod wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu er mwyn cymharu meini prawf ar draws canol trefi ac i sicrhau dyraniad priodol adnoddau a chyllid yn seiliedig ar angen.  Ar y sail honno, cynigiodd Opsiwn 4 a oedd gofyn bod y penderfyniad yn cael ei roi gerbron yr Aelodau yn y Cyngor llawn.

 

Gan gadarnhau’r rhesymau dros y galw i mewn, cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y ffaith nad oedd adroddiad y Cabinet yn cyfeirio at wybodaeth a roddwyd gerbron y cyfarfod hwn, yn cynnwys y siart ystadegau.  Mewn perthynas â'r pwyntiau a godwyd, cyfeiriodd at fanteision ehangach cyfleusterau fel cartref gofal Marleyfield a’r gwahaniaeth rhwng Cynlluniau Meistr Shotton a Bwcle. Dywedodd eto ei fod o’r farn bod y Cynllun ar gyfer Shotton ar draul meysydd eraill ac y dylai’r glasbrint ar gyfer gwaith mewn trefi eraill hefyd fod o fudd i gymunedau.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y gwneuthurwyr penderfyniad i grynhoi.

 

Atgoffodd y Cynghorydd Ian Roberts yr Aelodau y bu cyfleoedd i ofyn am drafodaeth ar y  mater ar gam cynharach.  Gan annog Aelodau i gefnogi cynnydd parhaus ar y prosiect, cymeradwyodd y canlyniadau y mae swyddogion a phartneriaid wedi eu gwireddu hyn yma, yn arbennig wrth ymdrin â rhai materion sensitif.

 

Eiliodd y Cynghorydd David Evans gynnig y Cynghorydd Shotton ac fe ddaeth felly yn gynnig o sylwedd.

 

Wedi hynny eiliwyd cynnig y Cynghorydd Heesom gan y Cynghorydd Peers.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr aelodau ynghylch o broses bleidleisio a dywedodd y byddai angen pleidleisio ar y cynnig o sylwedd am ei fod wedi ei gynnig a'i eilio cyn y gellid ystyried opsiwn arall.   Awgrymodd y dylid pleidleisio drwy alw enwau a dangosodd y nifer angenrheidiol o Aelodau eu bod yn cefnogi pleidlais wedi’i chofnodi.

 

Wedi cynnal pleidlais,  cafodd Dewis 1 ei gario fel a ganlyn:-

 

O blaid y cynnig:

Cynghorwyr:Sean Bibby, David Evans, Cindy Hinds, Joe Johnson,                     Vicky  Perfect, Paul Shotton ac Owen Thomas.

 

Yn erbyn:

Cynghorwyr:Rosetta Dolphin, George Hardcastle, Patrick Heesom, Dennis Hutchinson ac Owen Thomas

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a'u cyfraniad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Wedi ystyried y penderfyniad, bod y Pwyllgor yn fodlon â’r eglurhad a dderbyniodd felly gellir yn awr gweithredu’r penderfyniad.

Dogfennau ategol: