Agenda item

Cynllun Strategol 10 mlynedd Cymraeg mewn Addysg 2022-2032

Rhoi’rnewyddion diweddaraf am Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a threfniadau ymgynghori statudol.

Cofnodion:

            Cyn cyflwyno’r adroddiad, soniodd y Cynghorydd Tudor Jones am ymrwymiad y Cyngor i gynyddu nifer y ‘siaradwyr rhugl yn y Gymraeg’ o fewn ei ysgolion ac ymestyn y sgiliau Cymraeg i’r gymuned ehangach.  Awgrymodd bod y gair “rhugl” yn cael ei dynnu gan ei fod yn teimlo fod cael gwared o’r angen am siaradwyr rhugl yn y Gymraeg yn sicrhau gwell gyfranogiad. Roedd yn teimlo bod y term ‘sgwrsio Cymraeg’ yn fwy priodol. Rhoddodd y Cynghorydd Jones ddiffiniadau derbyniol i’r termau siaradwyr “rhugl” a “sgwrsio”.

 

Mewn ymateb, diolchodd yr Uwch-Reolwr Gwella Ysgolion i’r Cynghorydd Jones am ei awgrym a chytunodd i rannu’r awgrym fel rhan o’r broses ymgynghori. Roedd Arweinydd y Cyngor a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yn cefnogi’r awgrym gan y Cynghorydd Jones. Dywedodd yr Hwylusydd bod yr awgrym a wnaethpwyd gan y Cynghorydd Jones yn cael ei nodi fel cam gweithredu o’r cyfarfod.

 

            Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr yr adroddiad a rhoddodd drosolwg i’r Pwyllgor o’r cynllun drafft ar gyfer y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) nesaf a fydd yn cael ei gynnal rhwng mis Medi 2022 tan 2032. Bydd  y cynllun cyntaf deg mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2022 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2032, a bydd rhaid i’r Cynllun gynnwys targed yn amlinellu’r cynnydd disgwyliedig yn y nifer o ddysgwyr Blwyddyn 1 sy’n cael eu dysgu drwy’r Gymraeg yn yr ardal awdurdod lleol yn ystod hyd bywyd y Cynllun. Yn ystod pandemig COVID-19, cafodd Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 eu diwygio, felly cafodd cylchred WESP cyfredol Sir y Fflint ei ymestyn 1 blwyddyn, a bydd yn dod i ben erbyn mis Medi 2022.

 

            Rhoddodd yr Uwch-Reolwr wybodaeth ar y Fforwm Strategol Cymru sefydledig ac effeithiol, a oedd yn cyfarfod bob tymor i ddatblygu rhaglenni gwaith. Amlinellwyd cylch gwaith y Fforwm yn yr adroddiad. 

 

            Diolchodd y Cynghorydd Martin White i’r Uwch Reolwr am yr adroddiad. Cyfeiriodd at ymweliad diweddar i Ysgol Uwchradd Cei Connah, yn ystod taith o amgylch y dosbarthiadau, cafodd yr holl gyflwyniadau eu gwneud yn y Gymraeg. Croesawodd hyn a dywedodd bod yn galonogol clywed cynnydd o ran siarad Cymraeg ar draws yr ysgol. 

 

            Diolchodd y Prif Swyddog i’r Uwch-Reolwr am ei gwaith caled fel yr arweinydd strategol ar gyfer Strategaeth Cymraeg mewn Addysg Sir y Fflint.  Amlinellodd waith Ms Sian Hilton, cyn Bennaeth yn Sir Ddinbych wrth holi’r Fforwm i sicrhau bod pob dogfennaeth mewn lle i greu llwybr ar gyfer y cynllun, a dywedodd na fyddai wedi bod yn bosibl i fodloni’r dyddiad cau yr ymgynghoriad a nodwyd gan LlC heb waith caled Ms Hilton a’r uwch-reolwr. Diolchodd yr Uwch-Reolwr i’r Prif Swyddog am ei sylwadau a dywedodd bod ymdrech tîm da wedi bod o fewn y Fforwm. Diolchodd i’r Cynghorydd White am ei sylwadau a dywedodd wrth y Pwyllgor bod hyn yn cael ei ailadrodd mewn Ysgolion ar draws Sir y Fflint, gyda tîm dynodedig o Athrawon Ymgynghorol Cymru yn cefnogi Ysgolion. 

 

            Diolchodd Arweinydd y Cyngor i bawb a oedd wedi cyfrannu i’r WESP ac amlinellodd y pwysigrwydd y Cyngor i gynyddu nifer o siaradwyr Cymraeg ar draws Sir y Fflint. Eglurodd bod ei ddiddordeb yn yr iaith Gymraeg wedi codi ar ôl ei ymweliad cyntaf i Eisteddfod yr Urdd fel plentyn, a dywedodd y dylai pob plentyn yn Sir Y Fflint gael eu hannog i fynychu Eisteddfodau yn y dyfodol yn yr ardal.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y nodir yn yr adroddiad, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Tudor Jones a’r Cynghorydd Martin White.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn nodi’r ymgynghoriad drafft y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-2032.

Dogfennau ategol: