Agenda item

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Derbyndiweddariad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mark Polin, Jo Whitehead a Rob Smith o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i’r cyfarfod.

 

 

            Diolchodd Mark Polin (Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) i'r pwyllgor am y cyfle i ddod i'r cyfarfod i ddarparu ymatebion i'r cwestiynau a godwyd.   Roedd hwn hefyd yn gyfle i dynnu sylw at y berthynas waith dda oedd yn bodoli rhwng y Byrddau Iechyd a’r Awdurdodau Lleol, yn enwedig yn ystod Pandemig Covid.  Eglurodd nad oedd modd datrys rhai o'r pwysau yn y byrdymor ond roedd yn gobeithio y byddai'r cyfarfod hwn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio lliniaru'r rhain.

 

 

            Diolchodd Jo Whitehead (Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) i'r pwyllgor am y cyfle i siarad, a thalodd deyrnged i'r Prif Swyddog, yr Uwch Dîm Arwain a Phartneriaid sy'n darparu gwasanaethau yn Sir y Fflint.  Roedd y gwaith hwn wedi galluogi modelau gwasanaeth gofal diddorol a blaengar a oedd yn gwneud gwahaniaeth i'r boblogaeth.  A hithau ond wedi bod yn ei swydd am 10 mis, roedd Jo Whitehead yn falch, er gwaethaf yr heriau, fod ffocws a rennir ar anghenion pobl Sir y Fflint.  Roedd BIPBC yn gofalu am boblogaeth o tua 700,000 a disgwylir i'r ystod oedran dros 85 gynyddu 154%.  Roedd cynlluniau hanfodol fel Marleyfield mor bwysig. 

 

 

            Yna rhoddodd Jo Whitehead wybodaeth am nifer yr achosion Covid a diweddariad ar y Rhaglenni Brechu a’r Pigiad Atgyfnerthu.  Roedd lefel y cleifion mewn ysbytai ledled Cymru mor uchel â mis Chwefror ond roedd paratoadau ar y gweill i weithredu'r Cynllun Ymchwydd ar gyfer UThD.  Roedd goblygiadau Covid Hir, effeithiau ar blant a gofalwyr hefyd yn cael eu hystyried.  Yna rhoddodd drosolwg o'u blaenoriaethau sefydliadol a'r Strategaeth Gwasanaethau Clinigol.   Darparwyd gwybodaeth hefyd am y tri phrif safle acíwt a oedd yn cynnwys Adrannau Achosion Brys, Mamolaeth ac ystod o wasanaethau craidd.  Roedd arian LlC wedi galluogi gwelliannau i safleoedd Maelor a Bangor, gyda thrafodaethau ar y gweill ynghylch creu nifer o ganolfannau triniaeth rhanbarthol.  Yna cyfeiriodd Jo Whitehead at y mentrau rhestrau aros a rhoddodd enghraifft i’r cleifion hynny a oedd yn aros am gataractau neu lawdriniaeth llygaid a oedd bellach yn teithio i Gilgwri, er mwyn lleihau amseroedd aros.

 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ar y Timau Ardal, cadarnhawyd bod y Model Gweithredu yn cael ei adolygu ar hyn o bryd er mwyn sicrhau y gellir cyflwyno'r ddarpariaeth yn lleol ac yn ddiogel.   Roedd y strwythurau'n cael eu hystyried ar hyn o bryd ac roedd Jo Whitehead am barhau i ganolbwyntio ar ardaloedd y Dwyrain, y Gorllewin a'r Canolbarth gan ddatblygu systemau rheoli gofal iechyd integredig. 

 

 

            Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai'r uned mân anafiadau a addawyd yn cael ei gosod yn Ysbyty Glannau Dyfrdwy.  Cadarnhawyd bod opsiynau'n cael eu hystyried ar gyfer Glannau Dyfrdwy i liniaru'r achosion gofal brys yn y Maelor.  Nid oedd amserlen ar gyfer y gwaith hwn, ond roedd yn un o'r opsiynau y gobeithiwyd ei barhau.

 

Cwestiynau gan y Pwyllgor

 

1.         Rhowch ddiweddariad ar yr amseroedd aros hir mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, yn enwedig Ysbyty Maelor.

 

            Cyfeiriodd Jo Whitehead at y pwysau eithafol a wynebai’r System Gofal Iechyd a oedd yn peri problemau i gleifion, staff a chydweithwyr y gwasanaeth ambiwlans, gydag amrywiaeth o faterion yn effeithio ar yr amseroedd aros hir.  Roedd mwy o bobl yn aros i gael eu gweld yn yr Adran Achosion Brys, a llai o welyau ar gael oherwydd y gofod rhwng y gwelyau i ymdopi â her Covid.  Roedd prinder cyfleusterau en-suite a gofod ward ystafelloedd sengl ym mhrif adeilad yr ysbyty, ac roedd hyn wedi’i gynnwys yn y cais am gyfalaf gan Lywodraeth Cymru (LlC).  Roedd hefyd nifer o gleifion a oedd, er eu bod yn ffit i gael eu rhyddhau am resymau meddygol, yn dal i fod yn yr ysbyty oherwydd diffyg pecynnau gofal cartref a rhesymau eraill.  Roedd y gwaith partneriaeth gyda'r Cyngor yn effeithiol ac yn gwneud gwahaniaeth.  Rhoddodd enghreifftiau o sut roedd y rhaglen Rhyddhau i Asesu Cartref yn Gyntaf, ynghyd â chymorth staff gofal a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd, yn gallu cynorthwyo'r cleifion hyn gyda phecynnau gofal cartref a chymorth i gartrefi gofal.  Roedd pwysau wedi'i roi ar Lywodraeth Cymru yngl?n â Chanllawiau Iechyd y Cyhoedd ar reoli Cartrefi Gofal Coch, er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn briodol. Deallodd y byddai LlC yn ymateb yn gadarnhaol i'r canllawiau newidiol.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ar amseroedd aros hir yn yr Adran Achosion Brys, eglurodd Jo Whitehead fod systemau ar waith i symud staff o'r wardiau i'r Adran Achosion Brys os yn briodol.  Byddai staff clinigol o Ward y Plant er enghraifft yn symud i gefnogi Adran Achosion Brys pe bai niferoedd mawr o blant yn aros i gael eu gweld.  Roedd capasiti i ddefnyddio darpariaeth goramser ar gyfer Meddygon a Staff lle bo angen. Yna cyfeiriodd at y rhaglen recriwtio ar gyfer Meddygon, Ymgynghorwyr Nyrsio a Thechnegwyr Clinigol a oedd ar y gweill.   Roedd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'r Ymddiriedolaeth Ambiwlans a'r Gwasanaeth Tân ac Achub, gyda'r bwriad o ymestyn eu cefnogaeth i gleifion oedd wedi cael codwm.

 

            Ychwanegodd Mark Polin nad oedd modd mynd i'r afael â gofal heb ei drefnu heb ystyried gofal wedi'i gynllunio gan eu bod yn rhyng-gysylltiedig.  Darparodd wybodaeth am y nifer sylweddol o ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer canolfannau diagnostig a thriniaeth rhanbarthol a gafwyd, a dywedodd fod LlC am symud hyn ymlaen.  Pe bai'r rhain yn symud ymlaen, byddai'n cymryd cryn dipyn o bwysau oddi ar y safleoedd acíwt.  Byddai hyn yn cael ei ariannu drwy arian a dderbyniwyd gan LlC yn gynharach yn y flwyddyn gyntaf, a disgwylid y byddai LlC yn parhau i gefnogi hyn wrth symud ymlaen.  Yna cyfeiriodd Mark Polin at yr achos busnes Orthopedig a oedd wedi bod yn mynd rhagddo ers dros 2 flynedd. Cadarnhaodd fod hwn bellach yn symud ymlaen o fewn y cynnig canolfannau diagnostig a thriniaeth rhanbarthol.   Roedd y rhaglen gwella gofal heb ei drefnu yn newydd ac yn cynnwys ymgysylltu ag arweinwyr LlC ac arweinwyr cenedlaethol.  Roedd y Bwrdd yn debygol o gytuno'n fuan i fuddsoddi mewn nifer sylweddol o staff ychwanegol ar gyfer yr adrannau Achosion Brys ac yna byddai'n ceisio mynd i’r afael â’r her o ran recriwtio. 

 

 

2.         A oes gan BIPBC unrhyw gynlluniau i ddarparu meddygfa, deintyddfa neu'n well fyth Ganolfan Iechyd ar gyfer poblogaeth gynyddol Saltney a Saltney Ferry?  Dim ond meddygfa meddyg teulu rhan amser mewn t? teras sydd yn Saltney ac mae mwyafrif y trigolion yn gorfod teithio dros y ffin i Loegr i gael y gwasanaethau hyn. Dyma un o’r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir gan drigolion, yn enwedig gan fod mwy o dai yn cael eu hadeiladu yn yr ardal.

           

 

            Dywedodd Jo Whitehead fod y Bwrdd Iechyd yn darparu ystod o wasanaethau ynghyd â meddygfa fach yn Saltney.   Roedd trafodaethau wedi'u cynnal gyda'r practis i sefydlu pa ddarpariaeth gwasanaeth fyddai ei angen ar gyfer anghenion gofal sylfaenol y boblogaeth yn y dyfodol.  Gan fod hwn yn bractis annibynnol, byddai angen iddynt sicrhau cymorth ar gyfer unrhyw newidiadau, gan fynd drwy’r broses ymgysylltu ffurfiol â’r Bwrdd Iechyd.  Mater i'r Practis, gyda chefnogaeth y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod, oedd ehangu neu newid adeilad y practis.  Roedd y Bwrdd Iechyd yn awyddus i weithio gyda’r practis yn Saltney.

 

 

3.         Dair wythnos yn ôl rhuthrwyd claf i'r ysbyty gyda haint ar y bledren, a arweiniodd at y claf yn ddifrifol wael gyda Sepsis. Roedd y parafeddygon yn wych a does gen i ddim byd ond canmoliaeth iddynt. Fodd bynnag, gadawodd y claf ei gartref yn yr ambiwlans am 8.30am ac yna bu'n rhaid iddo aros yn yr ambiwlans am tua 8 awr.  Yn ystod yr oriau hyn bu'n rhaid symud y claf o un ambiwlans i'r llall tra'n aros y tu allan i'r ysbyty.  Pan fydd cleifion mor ddifrifol wael gyda Sepsis neu unrhyw salwch arall y gallent farw o fewn munudau neu oriau, beth ar y ddaear sy'n digwydd? Hefyd, pan fydd cleifion yn marw mewn sefyllfaoedd fel yr uchod, faint o bobl sy’n erlyn y GIG?

 

 

            Ni allai Jo Whitehead drafod achosion neu amgylchiadau unigol.  Cyfeiriodd at ei sylwadau cynharach ar y pwysau a wynebir gan y system gofal iechyd gyfan, yr Adran Achosion Brys, a'r gwasanaethau Ambiwlans.  Eglurodd pan ofynnwyd i Ambiwlansys aros y tu allan i'r Adran Achosion Brys, bod y clinigwyr yn cynnal asesiadau o'r cleifion, yn debyg i'r rhai a gynhelir yn yr adran Achosion Brys.  Dywedodd pe bai cydweithwyr yn anfon e-bost ati ynghylch yr achos hwn, y byddai'n hapus i drefnu i ymchwiliad gael ei gynnal.

 

 

            Gofynnodd y Cadeirydd am sicrwydd pe bai claf y tu allan mewn ambiwlans gyda chlinigwr yn cynnal asesiadau, y gellid eu newid pe bai angen.  Cadarnhaodd Jo Whitehead fod hyn yn digwydd gyda rhai cleifion sy’n ddigon da i fynd adref.

 

 

4.         A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am becyn a ariannwyd ar y cyd a cholled o £133K i'r Cyngor pan wrthododd BIPBC â thalu eu cyfran? A allwch chi esbonio'r rhesymau a'r broses ar gyfer cytuno ar becyn a ariennir ar y cyd?  Yn ogystal, sut mae osgoi anghydraddoldeb pan fo anghydfod ynghylch ariannu pecyn?

 

 

            Cyfeiriodd Jo Whitehead at y prosesau cryfach a oedd yn bodoli bellach rhwng y ddau sefydliad ynghylch taliadau heb eu cwblhau. Adroddodd ar y cyfarfodydd bob pythefnos rhwng y ddau dîm cyllid i fonitro cynnydd taliadau.  Roedd nifer o anfonebau yn destun ymholiad, ond roedd y gwerth wedi gostwng ers rhoi'r broses hon ar waith.  Pan fyddai ymholiadau wedi codi, os na ddeuir i gytundeb, yna byddai'r rhain yn cael eu huwchgyfeirio rhwng y llinellau cyllid, hi ei hun, a'r Prif Swyddog.

 

 

            Dywedodd y Cynghorydd Carol Ellis fod aros am 16 awr yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn peri cryn bryder ac yn effeithio nid yn unig ar y claf yn yr ambiwlans ond hefyd ar y rhai oedd yn aros gartref.   Roedd trigolion wedi adrodd ar ôl aros yn hir i fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys eu bod wedyn yn wynebu'r broblem o ddiffyg gobenyddion neu ddillad gwely.  Dywedodd na ddarparwyd unrhyw wybodaeth am ofal canser, yn enwedig pobl a oedd yn aros am brofion diagnostig, neu iechyd meddwl, a oedd ill dau ar lefelau argyfwng.  Roedd llawer o'r problemau hyn yn bodoli cyn Pandemig Covid.   Yna gofynnodd pam nad oedd yr ysbytai Enfys yn cael eu defnyddio i leddfu'r pwysau, yn enwedig ar y rhai oedd yn aros i gael eu rhyddhau.  Roedd y Cynghorydd Ellis yn cydymdeimlo’n fawr iawn â'r staff ar y rheng flaen ond roedd yn bryderus am amseroedd aros, yn enwedig gydag effaith pwysau'r gaeaf.   Yna dywedodd ei bod bellach yn cymryd 5 wythnos i gael prawf gwaed gan y Meddyg Teulu, a theimlai fod y systemau iechyd yng Ngogledd Cymru mewn argyfwng. Meddyliodd pam na chafwyd ymyrraeth gan LlC.

 

            Mewn ymateb, eglurodd Mark Polin fod yr ymatebion yn cael eu darparu i gwestiynau a godwyd.  Pe bai cwestiynau ar ofal canser ac iechyd meddwl wedi'u codi, yna byddai ymatebion wedi'u darparu.   Nid dim ond BIPBC oedd yn wynebu’r galw hwn, ond pawb ar draws y DU.   Cytunodd fod y pwysau hwn yn bodoli cyn y pandemig. Amlinellodd y trafodaethau a gynhaliwyd gyda LlC am gymorth ariannol ychwanegol gan nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi’i ariannu’n ddigonol yn flaenorol.  Roedd y pwysau presennol bellach wedi gwaethygu oherwydd pwysau ychwanegol o ganlyniad i'r pandemig.  Cadarnhaodd Mark Polin, oherwydd y cyllid hwn, ei bod yn bosibl symud ymlaen a mynd i'r afael â rhai o'r pwysau y cyfeiriwyd atynt yn gynharach.  Yna cyfeiriodd at oddeutu 300 o gleifion yn aros ar unrhyw un adeg i gael eu rhyddhau o'r ysbytai acíwt gan ddweud bod hyn yn rhywbeth yr oedd angen canolbwyntio arno ar y cyd.

 

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffurflenni Profion Gwaed a oedd yn nodi yn y print lleiaf y gallai pobl fynd ar-lein i drefnu apwyntiad iddynt eu hunain.  Nid oedd hyn yn glir gan fod y print mor fach. 

 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Gladys Healey at staff locwm a gofynnodd a oedd hyfforddiant yn cael ei ddarparu, yn enwedig mewn perthynas ag iechyd meddwl.  Roedd hi'n teimlo oherwydd bod meddygon yn poeni am ragnodi meddyginiaeth y gallai hyn arwain at hunanladdiad.  Mewn ymateb, cadarnhaodd Jo Whitehead fod hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu ynghyd â hyfforddiant ymgyfarwyddo lleol ac arweiniad ar gyfer pob adran unigol.  Gofynnwyd iddynt hefyd ymgymryd â'r holl hyfforddiant gorfodol yr un fath ag aelodau parhaol o'r timau clinigol.

 

 

            Darparodd y Prif Weithredwr drosolwg o'r gwaith partneriaeth a oedd yn bodoli rhwng yr Awdurdod a'r Bwrdd Iechyd.   Nid oedd wedi bod yn ei swydd yn hir a derbyniodd fod heriau i'r Awdurdod a BIPBC a oedd wedi'u dwysáu gan y pandemig.   Yna cyfeiriodd at y berthynas waith rhwng y timau gofal cymdeithasol a BIPBC, a oedd yn cadw pethau’n symud.  Roedd dod o hyd i welyau yn bwysau ar y ddau sefydliad a gofynnwyd am lefel ddatblygedig o ddealltwriaeth i BIPBC gan eu bod dan yr un pwysau â'n gwasanaethau cymdeithasol.

 

 

            Ategodd y Prif Swyddog y sylwadau a wnaed gan y Prif Weithredwr yn dweud bod popeth yn cael ei wneud i gefnogi llif drwy'r system, a dyna oedd yn wir ym mhob awdurdod lleol arall.   Ychwanegodd fod 28 o bobl yn ein mewnflwch heddiw, a oedd yn cyfateb i 250 awr o ofal cartref.  Dywedodd y byddai 50 neu 60 o bobl yn y mewnflwch am y rhan fwyaf o aeafau.  Cafodd hyn ei fonitro'n agos gyda chydweithwyr ym maes iechyd, a llefydd fel Marleyfield yn system wych i gefnogi'r llif hwnnw.

 

 

            Cytunodd Rob Smith â'r sylwadau a wnaed a dywedodd fod y gwaith partneriaeth i ymdrin â'r straen yr oedd y timau'n ei wynebu yn allweddol.  Roedd hyn yn cynnwys gofalu am bobl yn y gymuned yn hytrach na'u derbyn i'r ysbyty, a sicrhau bod y gwasanaethau cywir ar waith ar gyfer y cleifion hynny sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

 

 

            Gofynnodd y Cadeirydd sut oedd y Rhaglen Pigiad Atgyfnerthu yn dod yn ei blaen.  Cadarnhaodd Jo Whitehead fod y rhaglen wedi cychwyn a bod LlC wedi gofyn i'r brechiad Pfizer gael ei ddefnyddio.  Roedd hyn yn ddiogel hyd yn oed os oedd y brechlyn AZ wedi'i ddefnyddio o'r blaen.  Roedd cymhlethdodau gweithredol ynghylch storio'r brechlynnau hyn, a oedd yn golygu ei bod yn anoddach i bractisau meddygon teulu eu rhoi.  Roedd hefyd yn broses hirach o 22 munud, a oedd yn cynnwys aros am 15 munud ar ôl y pigiad.  Roedd llai o leoliadau yn weithredol, ond roedd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda fferyllfeydd y stryd fawr i weld a allen nhw helpu i roi'r pigiadau atgyfnerthu.  O ran perfformiad, cadarnhaodd eu bod ar y trywydd iawn ond dywedodd, yn anffodus, bod 10% o'r bobl a wahoddwyd wedi methu â mynd.   Gofynnodd a allai'r Aelodau ledu'r gair yn eu hetholaethau ac annog pobl i fynd pan fyddant yn cael eu gwahodd.  Esboniodd fod y slotiau wedi'u gorfwcio ac weithiau byddai cyplau'n dod gyda'i gilydd pan mai dim ond un ohonyn nhw oedd wedi cael gwahoddiad. Roeddent yn ymdrechu i ddarparu ar gyfer y bobl ychwanegol hyn pryd bynnag y bo’n bosibl.  Roedd gwaith i annog y genhedlaeth iau i ddod ymlaen hefyd yn parhau.

 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Marion Bateman at adroddiadau oedd yn awgrymu y dylai unigolyn ofyn i'r brechlyn beidio â mynd i mewn i'r llif gwaed.  Gofynnodd beth oedd barn BIPBC ar hyn.  Atebodd Jo Whitehead nad oedd hi'n glinigwr a gofynnodd a allai ymateb y tu allan i'r cyfarfod

 

 

            Roedd y Cynghorydd Michelle Perfect eisiau dweud diolch yn fawr iawn am y gwaith roedd BIPBC wedi'i wneud i sicrhau bod y broses o gyflwyno'r brechlyn wedi dechrau mor gyflym.  Roedd yn hanfodol bod cymaint o bobl â phosibl yn cael eu hannog i gael eu brechu.   Dywedodd ei bod yn bwysig i'r pwyllgor godi pryderon am welliannau y gellid eu gwneud ond ei bod hefyd yn bwysig iawn dweud diolch am y gwaith sydd wedi'i wneud i'n cadw'n ddiogel. 

 

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y safle yng Nglannau Dyfrdwy gan ddweud, oherwydd archebion bloc, bod pobl yn aros y tu allan yn y glaw.   Gofynnodd a oedd modd defnyddio'r tu mewn i'r ganolfan fel nad oedd pobl yn gorfod aros yn y glaw.  Cytunodd Jo Whitehead i gyflwyno’r adborth yma. Dywedodd nad system archebion bloc oedd hyn yn union, ond oherwydd y lonydd a'r slotiau fe aeth yn brysur iawn.

 

 

            Yna cyfeiriodd y Cadeirydd at yr amseroedd aros ar gyfer diagnosis cychwynnol yn y gwasanaeth niwroddatblygiad i blant a gofynnodd a oedd unrhyw beth y gellid ei wneud i leihau'r amser aros hwn?   Mewn ymateb, dywedodd Jo Whitehead fod amseroedd aros yn hir ond bod proses asesu dros y we wedi'i chyflwyno, gydag asesiadau wyneb yn wyneb bellach yn digwydd ar gyfer plant, pobl ifanc, a'u teuluoedd.  Roedd yn well gan rai pobl aros yn hytrach na chael asesiad dros y we.  Adroddodd wedyn ar y gwaith da ar draws Gogledd Cymru ar y cysyniad “Dim Drws Anghywir” a ddaeth â chydweithwyr iechyd, addysg a gofal cymdeithasol ynghyd.  Roedd gwaith yn mynd rhagddo i symleiddio'r broses asesu er mwyn galluogi i fwy o bobl ifanc gael eu gweld yn gyflym gan ddefnyddio'r model Aseswr Dibynadwy. Sefydlwyd y model yn y gwasanaethau oedolion i ymateb i amseroedd aros.

 

 

            Cyn gadael y cyfarfod rhoddodd Jo Whitehead ddiweddariad ar y mynediad i linell ffôn Gofal Sylfaenol.  Cyfeiriodd at y tri phractis a reolir gan BIPBC gan gadarnhau bod gwaith yn mynd rhagddo i wella'r system ffôn, drwy weithio gyda darparwyr allanol i ychwanegu mwy o linellau neu uwchraddio systemau mewnol.  Cadarnhaodd fod dyddiadau cychwyn wedi'u trefnu ar gyfer diwedd mis Tachwedd a dechrau canol Rhagfyr ar gyfer y darnau hynny o waith.  Adroddodd hefyd ar y recriwtio llwyddiannus diweddar ar gyfer Meddygon Teulu ac Uwch Ymarferwyr Nyrsio yn Sir y Fflint, gyda'r meddygon teulu newydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. 

 

 

            Diolchodd y Cadeirydd i Jo am ei phresenoldeb a gwerthfawrogodd y wybodaeth a ddarparwyd ganddi. 

 

 

            Cyfeiriodd Rob Smith at y pwynt cynharach ar fynediad i weld meddygon teulu ac roedd yn deall y pryderon a godwyd.  Roedd y model a ddefnyddiwyd ar hyn o bryd yn gymysgedd o frysbennu cartref ac yna'n dod â chleifion i’r practis os teimlwyd bod angen gwneud hynny.  Roedd hyn wedi'i gyflymu wrth i ni ddod allan o Covid ac o ganlyniad i'r galw cynyddol. 

 

 

            Yna adroddodd ar y digwyddiadau ymgysylltu gofal sylfaenol a fyddai’n cynnwys aelodau’r pwyllgor.  Byddai hyn yn sicrhau bod y pwyllgor yn cael ei hysbysu cymaint â phosibl a byddai'n galluogi i gwestiynau gael eu gofyn.  Byddai gwahoddiad dros e-bost yn cael ei anfon cyn hir

 

 

            Gofynnodd yr Hwylusydd a ellid darparu diweddariad ar wasanaethau iechyd meddwl amenedigol ac ymweld â chleifion wrth symud ymlaen.  Nid oedd y wybodaeth honno gan Rob Smith wrth law ond byddai'n ei dosbarthu yn dilyn y cyfarfod.

 

 

            Yna rhoddodd Rob Smith ddiweddariad ar Raglen Covid Hir LlC, gan gadarnhau bod cyllid wedi’i ryddhau i sefydlu’r gwasanaeth.  Byddai tîm amlddisgyblaethol yn gweithio allan o leoliad yn Sir y Fflint, ond nid oedd y lleoliad wedi'i gadarnhau eto.  Y gobaith oedd y byddai'r Gwasanaeth Cofid Hir Arbenigol hwn yn cael ei gynnal yn fuan yn y Flwyddyn Newydd.

 

 

            Cyfeiriodd Craig Macleod at y pwyntiau a wnaed gan Jo Whitehead ynghylch plant a theuluoedd a chroesawodd y ffocws ar wasanaethau niwroddatblygiadol.  Roedd am roi sicrwydd i’r pwyllgor am agwedd y Cyngor tuag at hyn.  Os oedd angen gofal a chymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol neu gymorth ychwanegol yn yr Ysgol ar bobl ar y rhestr aros, roedd hwn ar gael i blant ei ddefnyddio.  Safbwynt y cyngor oedd rhoi’r cymorth hwnnw ar waith, os oedd angen, cyn diagnosis.  Cyfeiriodd at “ymagwedd dim drws anghywir” a oedd yn galluogi cydweithio i gefnogi lles meddwl plant a theuluoedd yn well cyn diagnosis. Roedd yn bwysig bod cymorth ar gael, yn enwedig ynghylch lles emosiynol plant a theuluoedd wrth ddod allan o Covid.  Roedd yn gobeithio y gallai hyn ddod yn ôl i'r pwyllgor er mwyn sicrhau ei fod yn datblygu i wneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd.  Cytunodd Rob Smith â'r sylwadau a wnaed ac adroddodd am y cydweithio â Sir y Fflint a'r Bwrdd Iechyd a oedd yn arwain y ffordd ledled Cymru ac yn gwneud cynnydd cryf.

           

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Gladys Healey at y Rhaglen Atgyfnerthu ac at sylwadau a wnaed yn ei ward gan rieni pobl ifanc, yn enwedig genethod.  Nid oeddent yn mynd i gael y pigiad atgyfnerthu oherwydd y diffyg ymchwil ac roeddent yn pryderu am y sgîl-effeithiau.    Yna cyfeiriodd y Cynghorydd Healey at Glinig Covid Hir a gofynnodd a oedd hyn ar gyfer trin cleifion a oedd wedi dal Covid neu gleifion a oedd wedi dioddef effeithiau Covid yn ystod y cyfnod clo.    Mewn ymateb i’r cwestiwn ynghylch y pigiad atgyfnerthu, dywedodd Rob Smith na allai roi ymateb manwl. Fodd bynnag, cadarnhaodd eu bod yn dilyn Canllawiau LlC a'r wyddoniaeth i'r llythyr ar y rhaglen pigiad atgyfnerthu.  Yna cyfeiriodd at Glinig Covid Hir a chadarnhaodd y byddai'n trin pobl a oedd wedi dal Covid ac a oedd yn dioddef yr effeithiau hirdymor, yn hytrach na'r effaith anuniongyrchol ar unigolion a fyddai, gobeithio, yn cael eu cefnogi gan wasanaethau gofal sylfaenol ac iechyd meddwl. 

 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Carol Ellis am eglurhad ynghylch y 300 o gleifion a oedd yn barod i'w rhyddhau o dri ysbyty ardal a gofynnodd a oedd modd cael dadansoddiad o faint oedd fesul awdurdod.   Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog bod 10 cais ysbyty am ofal cartref, 3 gan Ysbyty Countess of Chester a 7 gan BIPBC.

 

 

            Dywedodd y Cynghorydd Ellis fod Sir y Fflint yn gwneud gwaith da, nad oedd yn cael ei bortreadu yn y cyhoeddiad cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol unigol.  Cytunodd y Cadeirydd, gan ddweud nad oedd y wybodaeth yn dangos bod Sir y Fflint yn gwneud gwaith rhagorol.

 

 

            Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie i'r Cynghorydd Ellis am dynnu sylw at hyn.  Roedd wedi ymchwilio i hyn yn arbennig drwy'r Cyngor Iechyd Cymuned gan fod gwahaniaethau yn aml iawn rhwng y ffigurau a gynhyrchwyd gan yr ysbytai a'r ffigurau a gynhyrchwyd gan y gwasanaethau cymdeithasol.  Awgrymodd bod y pwyllgor yn gofyn am y ffigurau penodol ar gyfer Sir y Fflint pan fyddai'r wybodaeth hon yn cael ei chynhyrchu.  Mae timau gwasanaethau cymdeithasol yr Awdurdod yn gweithio’n hynod o galed i gadw’r nifer mor isel â phosibl.  Ychwanegodd oherwydd y codau a ddefnyddiwyd, bod cleifion sy'n dal i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty wedi'u cynnwys yn y ffigurau hyn.   Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog y byddai'n well ganddo ymateb i faterion penodol na chynnwys gormodedd o ffigurau yn y pwyllgor.  Dywedodd wrth yr aelodau i gysylltu ag o, Jane Davies neu Susie Lunt os oedd angen gwybodaeth arnynt.

 

 

            Rhoddodd Rob Smith ddiweddariad ar y rheolau ymweld â chleifion yn Ysbyty Maelor.  Cadarnhaodd y caniateir un person fesul claf, ac eithrio amgylchiadau eithriadol megis gofal diwedd oes.  Roedd hyn yn ôl disgresiwn Prif Nyrs y Ward ac roedd hefyd yn dibynnu ar yr achosion o Covid. Gofynnwyd i ymwelwyr gysylltu â’r ward cyn ymweld. Gofynnwyd iddynt hefyd gadarnhau nad oedd ganddyn nhw’r feirws. 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am eu presenoldeb ac am yr ymatebion a ddarparwyd i'r cwestiynau a godwyd.