Agenda item

Rhybudd o Gynnig

Pwpras:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

Cofnodion:

Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson o blaid Rhybudd o Gynnig Gr?p Llafur, sef:

 

“Bod y Cyngor hwn yn cefnogi’r galwadau i Lywodraeth y DU ailgyflwyno’r ychwanegiad o £20 yr wythnos i Gredyd Cynhwysol ac yn ehangu’r cymorth hwn i fudd-daliadau blaenorol.  Mae’r Cyngor hwn hefyd yn mynegi ei ofid na wnaeth llywodraeth y DU roi’r ychwanegiad hwn i fudd-daliadau blaenorol yn ystod y pandemig.  Mae’r Cyngor yn cydnabod ac yn croesawu’r newidiadau a wnaed i Gredyd Cynhwysol yn y gyllideb, yn enwedig i’r gyfradd dapro, ond yn mynegi ei bryderon na fydd hyn yn cael effaith ar bobl nad ydynt yn gallu gweithio neu hawlwyr budd-daliadau blaenorol.

 

Mae’r Cyngor yn galw ar yr Arweinydd i ysgrifennu at ein dau Aelod Seneddol lleol i wahodd eu cefnogaeth nhw i’r cynnig hwn”.

 

Darparodd fanylion am yr effaith dros gyfnod o 12 mis, a oedd hefyd ar adeg pan oedd y wlad yn gweld cynnydd mewn biliau ynni a chwyddiant.  Ychwanegodd fod cyfran uchel o’r rhai oedd yn hawlio Credyd Cynhwysol yn Sir y Fflint yn bobl a oedd mewn gwaith.  Roedd cyfradd dapro wedi’i chyflwyno, ond dywedodd na fyddai hon yn helpu’r rhai nad oeddent mewn cyflogaeth o unrhyw fath.

 

Eiliodd y Cynghorydd Dave Hughes y Rhybudd o Gynnig.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Ibbotson y Rhybudd o Gynnig a darparodd fanylion am ei sefyllfa bersonol ei hun mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Aaron Shotton gefnogi’r Rhybudd o Gynnig hefyd, ond teimlai y byddai wedi bod yn fwy amserol cyn y drafodaeth seneddol ar Gredyd Cynhwysol yn yr haf.  Ychwanegodd fod AS Alyn a Glannau Dyfrdwy yn cefnogi hanfod y cynnig ac roedd wedi mynegi ei bryderon i Lywodraeth y DU pan wnaethant gyhoeddi bwriad i dynnu’r ychwanegiad o £20.

 

Fe wnaeth y Cynghorwyr Bithell a Butler hefyd siarad o blaid y Rhybudd o Gynnig.  Fe wnaeth y 10 Aelod angenrheidiol wneud cais yn y blwch sgwrsio am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

            Fe wnaeth y Prif Swyddog (Llywodraethu) ddarllen yr enwau yn eu trefn ac mae canlyniad y bleidlais wedi’i chofnod i’w weld isod:

 

O blaid y Rhybudd o Gynnig:

Y Cynghorwyr: Axworthy; Banks; Haydn Bateman; Marion Bateman; Bibby; Bithell; Butler; Carver; Collett; Cox; Cunningham; Rob Davies; Ron Davies; Davies-Cooke, Chris Dolphin; Rosetta Dolphin; Dunbobbin; Eastwood; Evans; Gay; Hardcastle; David Healey; Gladys Healey; Heesom; Andy Hughes; Dave Hughes; Ibbotson; Joe Johnson; Paul Johnson; Christine Jones; Richard Jones; Tudor Jones; Richard Lloyd; Lowe; Mackie; McGuill; Mullin; Palmer; Peers; Vicky Perfect; Phillips; Ian Roberts; Tim Roberts; Rush; Sharps; Aaron Shotton; Paul Shotton; Small; Smith; Owen Thomas, White; Williams; Wisinger ac Woolley.

 

Yn erbyn y Rhybudd o Gynnig:

Dim.

 

Yn ymatal:

Dim.

 

Cafodd y Rhybudd o Gynnig ei gefnogi’n unfrydol.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Woolley y Rhybudd o Gynnig canlynol:

 

“Bod y Cyngor Sir hwn yn nodi ac yn llwyr gefnogi amcanion y Bil Trydan Lleol, a gyflwynwyd i Senedd y DU ar 10 Mehefin eleni gyda chefnogaeth 150 o ASau trawsbleidiol a sefydliadau fel NALC,  The Eden Project, Forum for the Future a Chyfeillion y Ddaear, yn ogystal â 43 o Awdurdodau Sirol a Lleol.  Mae’r Cyngor yn dymuno annog datblygu i’w wneud yn Ddeddf gan y gallai hynny alluogi:

 

1)         cynhyrchwyr i werthu ynni’n lleol heb fynd drwy’r farchnad gyfanwerthu ac felly gael mwy o reolaeth dros y pris; neu

 

2)         gyfleoedd lleol fel Cynllun Twnnel Milwr i fod yn ymarferol a chael eu datblygu.

 

Mae’r Cyngor yn diolch i’r 262 AS ar hyn o bryd o bob plaid sydd wedi cofrestru i gefnogi’r Bil ac mae’n annog yr holl ASau hynny o fewn y sir sydd heb wneud hynny eto i gofrestru i gefnogi’r Bil”.

 

Siaradodd y Cynghorydd Woolley o blaid ei Rybudd o Gynnig gan ddarparu manylion yr ymchwiliad seneddol yn gynharach yn y flwyddyn i gyflenwad trydan a chynhyrchu ynni lleol.  Roedd yn ceisio cefnogaeth i Gyngor Sir y Fflint gael ei ychwanegu i’r 100 a mwy o Gynghorau a oedd yn cefnogi’r Bil ar ei daith drwy’r Senedd.

 

Wrth eilio’r Rhybudd o Gynnig, dywedodd y Cynghorydd Peers nad oedd yr opsiwn i brynu trydan yn lleol ar gael gan ei bod yn rhaid gwerthu ynni yn y lle cyntaf i gwmnïau cyfleustodau i gwsmeriaid ei brynu gan y cwmnïau hynny wedyn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Carver, eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod rheolau a rheoliadau yngl?n â symudiad trydan.  Gallai ddarparu rhagor o wybodaeth pe dymunai’r Aelodau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ibbotson y newid canlynol i’r Rhybudd o Gynnig, a eiliwyd gan y Cynghorydd Bibby:

 

Llinell un: newid “llwyr gefnogi” am “cefnogi’n ofalus”.

 

Dileu’r paragraff olaf ac yn ei le, rhoi “Mae’r Cyngor yn mynegi ei bryder ynghlwm ag Adran 2, paragraff 3 is-adran C o’r bil trydan lleol sy’n ymestyn y cynllun i brosiectau sy’n allyrru, ar 350g o CO2/KWh, bron i ddwywaith allyriadau carbon y cyfartaledd yn y DU, sef 181g/KWh yn 2020. Mae’r Cyngor yn pryderu hefyd am Adran 3, paragraff 4, a fyddai’n golygu nad oes gan y Cyngor unrhyw awdurdod i atal prosiectau gwael rhag cael eu datblygu. Mae’r Cyngor yn bryderus y gallai’r Bil hwn, fel mae wedi’i ddrafftio, arwain at allyriadau carbon uwch a mwy o lygredd yn ein cymunedau, ac mae’n ymbil ar ASau sy’n cefnogi’r Bil hwn yn y Senedd i newid y Bil yn unol â hynny.”

 

Derbyniodd y Cynghorwyr Woolley a Peers y newid ac wrth fynd i bleidlais, pasiwyd y Rhybudd o Gynnig, fel y’i diwygiwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi’r Rhybudd o Gynnig gan y Gr?p Llafur; a

 

(b)       Chefnogi’r Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Woolley, yn cynnwys y newid gan y Cynghorydd Ibbotson.

Dogfennau ategol: