Agenda item
Cadernid ysgolion wrth reoli nifer sylweddol o newidiadau
Pwrpas: Derbyn diweddariad ar lafar i roi sicrwydd i’r Pwyllgor ynghylch yr amcan adfer a amlygir o ystyried cyfarfod diweddar y Pwyllgor Adfer.
Cofnodion:
Darparodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ddiweddariad ar lafar ar gadernid ysgolion wrth reoli nifer sylweddol o newidiadau h.y. y cwricwlwm newydd, trawsnewid ADY a chyflwyno arolygiadau Estyn.
Dywedodd y Prif Swyddog fod y risg hon yn fater hirdymor.Mae’r Portffolio Addysg a’r Gwasanaeth Gwella Ysgolion (GwE) yn cefnogi ysgolion i gydbwyso’r galw yn sgil y newidiadau sylweddol hyn. Fodd bynnag, yn ôl adborth gan benaethiaid, mae cydbwyso’r holl flaenoriaethau a delio gydag achosion o Covid ac absenoldebau staff ar yr un pryd yn heriol dros ben.Mae adborth ar realiti bywyd ysgol yn ystod y tymor wedi’i gyflwyno i gyfarfodydd rhanbarthol a chenedlaethol, ac mae penaethiaid hefyd wedi rhannu problemau yn uniongyrchol gyda’r Gweinidog Addysg yn ystod cynhadledd genedlaethol.Mae’r risg yn parhau'n uchel.
Cefnogodd y Cynghorydd Dave Mackie sylwadau’r Prif Swyddog.Roedd yn teimlo bod yna feysydd sy’n peri pryder sydd angen eu dwyn i sylw Llywodraeth Cymru, o ystyried y pwysau presennol ar ysgolion gyda’r Ddeddf ADY a’r Cwricwlwm i Gymru.
Ategodd y Cynghorydd Paul Cunningham sylwadau’r Cynghorydd Dave Mackie a chanmolodd waith y swyddogion wrth gefnogi myfyrwyr drwy eu haddysg.Diolchodd y Prif Swyddog i’r Cynghorwyr Dave Mackie a Paul Cunningham am eu sylwadau a dywedodd fod hyn yn ymdrech tîm, gyda chymorth gan ymgynghorwyr gwella GwE sy’n darparu cefnogaeth wych i ysgolion a phenaethiaid.Eglurodd ei bod yn ysgrifennu at bob pennaeth ar ddiwedd bob tymor i ddiolch iddynt am eu hymdrechion a dywedodd y byddai’n cynnwys sylwadau’r Pwyllgor hwn yn llythyr y tymor hwn.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog a dywedodd y byddai cynnwys sylwadau’r Pwyllgor yn yr e-bost ar ddiwedd y tymor yn briodol. Dywedodd, ar ben yr heriau gyda Covid, y cwricwlwm newydd a’r Ddeddf ADY, eu bod nhw hefyd wedi gorfod delio gyda newidiadau technolegol. Roedd yn gwerthfawrogi’r ffordd yr oedd staff wedi ymdopi â’r holl newidiadau.
Dywedodd yr Hwylusydd y bydd yr adborth ar ystyried y risgiau a nodwyd ar gyfer y Pwyllgor yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Adfer. Gofynnodd i’r Pwyllgor a ydynt wedi’u sicrhau, yn dilyn y diweddariad ar lafar gan y Prif Swyddog, bod y risgiau yn cael eu rheoli.
Awgrymodd y Cynghorydd Dave Mackie y dylai’r adborth i’r Pwyllgor Adfer fod fel a ganlyn: “Mae'r Pwyllgor yn parhau i bryderu ynghylch y pwysau sydd ar swyddogion ac ysgolion, ond maent yn gwerthfawrogi bod tîm y Prif Swyddog yn gwneud popeth o fewn ei allu i reoli’r risg ac yn gefnogol o hynny”.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r diweddariad ar lafar; a
(b) Bod y Pwyllgor yn parhau i bryderu ynghylch y pwysau sydd ar swyddogion ac ysgolion, ond eu bod yn cefnogi ac yn gwerthfawrogi bod tîm y Prif Swyddog yn gwneud popeth o fewn eu gallu i reoli’r risg.