Agenda item

Cyllideb 2022/23 - Cam 2

Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn gwneud sylw am bwysau ariannol Gwasanaeth Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a strategaeth gyffredinol y gyllideb ac yn rhoi cyngor am unrhyw feysydd o effeithlonrwydd costau yr hoffai weld yn cael eu harchwilio ymhellach.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad am ail gam y gyllideb a oedd yn rhoi manylion y rhagolygon a'r pwysau o ran costau a fyddai'n arwain at ofynion cyfanswm y gyllideb.

 

Roedd adroddiad i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Gorffennaf yn rhoi diweddariad ar sefyllfa’r gyllideb ar gyfer 2022/23. Roedd y pwysau costau a nodwyd wedi eu cyfeirio at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol gyda chais eu bod i gyd yn cynnal adolygiad trwyadl.  Roedd manylion y pwysau costau i Addysg ac Ieuenctid yn gynwysedig yn yr adroddiad.

 

            Roedd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wedi darparu cyflwyniad manwl a oedd yn trafod y meysydd canlynol:-

           

·         Pwrpas a chefndir

·         Crynodeb o Gyfansymiau Pwysau Costau

ØPwysau Addysg ac Ieuenctid

ØPwysau Cyllideb Ysgolion

·         Crynodeb holl Bwysau Costau

·         Pwysau Cyllideb y Tu Allan i’r Sir

·         Datrysiadau Strategol

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am effeithlonrwydd

·         Amserlenni Cyllideb

 

            Mewn ymateb i sylwadau a chwestiynau am gyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim, cadarnhaodd y Prif Swyddog bod yr heriau i brynu prydau ysgol a byrbrydau wedi’i amlygu gan fyfyrwyr a gobeithio os byddai yna hyblygrwydd o fewn y gyllideb i godi hyn, byddai’n cael ei groesawu’n fawr.  Y sefyllfa mewn ysgolion cynradd oedd bod prydau yn brydau wedi eu paratoi o nifer o ddewisiadau.  Ar y lefel uwchradd roedd yn fwy o arddull caffeteria gyda mwy o ddewisiadau ar gael ar gyfer pobl ifanc.  Roedd y lwfans prydau ysgol am ddim presennol i bob sector yn £2.35 y dydd.  Roedd hyn yn ddigon mewn ysgol uwchradd i brynu brechdan, darn o ffrwyth a photel o dd?r neu gynnig pryd ond roedd adborth drwy’r Fforwm Gwasanaethau Plant yn nodi nad oedd hyn yn ddigon e.e. nid yw’n caniatáu ar gyfer brecwast neu fyrbryd canol bore.  Hefyd, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod NEWydd yn fedrus iawn yn darparu bwyd ardderchog a oedd yn bodloni gofynion maethol safonol.  Byddai cynnydd i ddisgyblion oed uwchradd yn fuddiol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod cynnydd mewn lwfans prydau ysgol am ddim wedi’i gynnwys o fewn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, i gynyddu’r lwfans yn ddarostyngedig i fforddiadwyedd.  Roedd yn croesawu’r pwysau costau yn Uned Cyfeirio Disgyblion Plas Derwen, a oedd yn dyheu i wella’r amgylchedd dysgu a darparu mwy o gymhwyster.  Yngl?n â’r pwysau costau ar gyfer swyddi newydd, roedd hyn wedi’i ddosbarthu ar gyfer pob portffolio i ddarparu gwybodaeth ar eu hanghenion hanfodol ble cynhaliwyd proses gadarn i flaenoriaethu’r sawl oedd angen ystyriaeth wirioneddol.  Roedd y pandemig wedi dwyshau rhai o’r bylchau ond byddai’r rhain yn cael eu hadolygu os na fyddai cyllideb gytbwys yn cael ei chyflawni’r flwyddyn nesaf. 

 

Roedd y Cynghorydd Dave Mackie yn cefnogi’r sylwadau a wnaed gan y Prif Swyddog o amgylch y cynnydd mewn prydau ysgol am ddim, a godwyd fel pryder gan bobl ifanc mewn cyfarfod o’r Fforwm Gwasanaethau Plant.  Roedd yn gwneud sylw ar bwysau costau a dywedodd y cytunwyd ar rai ohonynt yn ystod gosod cyllideb 2021/22 ac awgrymodd ble roedd pwysau costau wedi’i gymeradwyo mewn blynyddoedd blaenorol, dylid nodi hyn yn yr adroddiadau.  Roedd y Prif Weithredwr yn awgrymu bod adroddiadau’r dyfodol yn cael eu haddasu i gynnwys penderfyniadau a gytunwyd yn flaenorol a phwysau costau newydd ar gyfer cyllideb 2022/23. 

 

Roedd y Cynghorydd Janet Axworthy wedi gwneud sylw ar y pwysau costau ar gyfer y Cydwasanaeth Archif a dywedodd ei bod yn siomedig bod y cais loteri diweddar wedi bod yn aflwyddiannus.  Roedd yn gobeithio y byddai ceisiadau yn y dyfodol yn llwyddiannus gan fod hon yn fenter mor bwysig o fewn y Cyngor.  Gofynnodd y Cadeirydd a fu unrhyw adborth ar y cais loteri.  Cytunodd y Prif Swyddog fod y cais aflwyddiannus yn siomedig ond rhoddwyd sicrwydd bod y cais yn un ardderchog ac na fyddai unrhyw beth arall wedi gallu cael ei wneud i wella’r cais ond yn anffodus nid oedd yna ddigon o arian cenedlaethol ar gael. 

 

Dywedodd y Cadeirydd am drafodaeth a gynhaliwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Llywodraeth Cymru yn ymwneud â setliad ar dâl athrawon.  Dywedodd fod y penderfyniad i 1% o’r cynnydd gael ei ariannu’n lleol yn cynnwys goblygiadau ariannol i’r Cyngor ac roedd ysgolion yn gofyn am eglurhad ar sut gellir ariannu hyn.  Hefyd, gofynnodd a oedd LlC wedi nodi a fyddent yn ariannu dyfarniadau tâl llyfr gwyrdd yn llawn. 

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai 1% o’r cynnydd yn cael ei ariannu rhwng ysgolion a’r Cyngor.  Wrth symud ymlaen, roedd yn rhaid gwneud gwaith ar sut fyddai dyfarniadau tâl yn y dyfodol yn cael eu hariannu ond ar gyfer gweddill 2021/22 byddai’n cael ei ariannu drwy’r arian wrth gefn gyda swm rheolaidd llawn yn mynd i‘r gyllideb sylfaen.  Ailgadarnhaodd mai sefyllfa’r Cyngor oedd i ddisgwyl i Lywodraethau ariannu dyfarniadau tâl yn llawn yn arbennig LlC gan ei fod yn fater datganoledig.  Hefyd cadarnhaodd nad oedd yna gyllid ychwanegol ar gyfer y dyfarniadau tâl llyfr gwyrdd yn y flwyddyn ariannol bresennol gan fod hyn yn parhau i gael ei drafod a heb ei gwblhau. 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor am ddatganiadau blaenorol gan Lywodraeth Cymru y byddai’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol yn niwtral o ran cost ac mai nid dyma’r achos.  Mewn cyfarfod diweddar gyda CLlLC a LlC mynegwyd pryder eto o amgylch darparu cyllid angenrheidiol i ddiwallu gofynion y Bil.  Hefyd rhoddodd wybodaeth am y trafodaethau manwl rhwng CLlLC a LlC o amgylch dyfarniadau tâl ac roedd LlC yn disgwyl i Awdurdodau Lleol baratoi cyfrifiadau cyn cytuno ar y dyfarniadau tâl.  Dywedodd ei bod yn anodd rhagweld pa ffigwr oedd y panel adolygu annibynnol yn debyg o’i gyflwyno a phan fyddai’r dyfarniad yn cael ei gyhoeddi. 

 

            Roedd y Cynghorydd Mackie yn gwneud sylw ar y buddsoddiad mewn cyllidebau ysgol dirprwyol, fel yr amlinellwyd o fewn yr adroddiad a’r cyflwyniad.    Dywedodd fod yr £1miliwn ychwanegol a ddyrannwyd o fewn y gyllideb 2021/22 wedi’i groesawu ac roedd yn gwerthfawrogi’n llwyr bod ei ddiben yn gysylltiedig ag argymhelliad Arolwg Estyn bod y gostyngiad mewn diffygion cyllideb ysgol yn cael ei reoli’n fwy effeithiol.  Dywedodd nad oedd yn si?r sut fyddai’r pwysau cost £1miliwn ychwanegol ar gyfer cyllideb 2022/23 yn cael ei ddyrannu i ysgolion a gofynnodd pam y teimlwyd bod angen cynnwys £1miliwn ychwanegol.      

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr bod yna ddau ddyraniad £1miliwn, £1miliwn o fewn cyllideb 2021/22 ac £1miliwn bwriedig o fewn cyllideb 2022/23.    Roedd yn falch fod y Cyngor mewn sefyllfa i gael arian ychwanegol ar gael o fewn y gyllideb cyn gwneud penderfyniadau ar sut yr oedd yn cael ei wario.   Roedd £1miliwn y llynedd ar gyfer 2021/22 yn parhau’r un fath ar gyfer 2022/23 ac roedd y cynigion sut y gallai’r £1miliwn ychwanegol hwn gael ei ddefnyddio o fis Ebrill nesaf.  Dywedodd mai ei brif ddiben oedd i gefnogi ysgolion uwchradd gyda diffygion parhaus ac/neu ysgolion uwchradd fyddai’n gallu symud i sefyllfa diffyg cynyddol.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y swm a roddwyd y llynedd yn gylchol ac roedd yn y gyllideb sylfaen ar gyfer eleni.  Byddai’r £1miliwn ychwanegol, os cefnogir, yn cael ei ddefnyddio i leihau diffyg yn unol ag argymhellion Estyn.

 

            Roedd Arweinydd y Cyngor yn adleisio sylwadau’r Prif Weithredwr ac yn egluro y dylai holl Aelodau’r Cyngor benderfynu pa un a fyddai’r £1miliwn ychwanegol arfaethedig yn cael ei gynnwys o fewn cyllideb 2022/23.  Dywedodd ei fod yn falch o weld bod y nifer o ysgolion uwchradd mewn sefyllfa cyllideb dros ben yn gwella.     

           

            Roedd y Cynghorydd Mackie yn egluro beth fyddai’r £1miliwn a fuddsoddir mewn cyllideb ysgolion dirprwyol yn cael ei ddefnyddio ac yn teimlo bod y wybodaeth hon yn angenrheidiol i alluogi Aelodau i gefnogi proses gosod y gyllideb.    Eglurodd y Prif Weithredwr ei bod yn fuan iawn yn y broses gosod y gyllideb ac na fyddai’r £1miliwn o gyllid ychwanegol arfaethedig yn cael ei gynnwys yng nghynigion y gyllideb derfynol os nad oedd yn fforddiadwy.    Cyn gosod y gyllideb, byddai gwybodaeth am sut y byddai’r cyllid ychwanegol hwn yn cael ei ddyrannu yn cael ei darparu i’r holl Aelodau.   

 

            Diolchodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor a’r Swyddogion am y drafodaeth fanwl ar y pwysau costau bwriedig a amlinellwyd yn yr adroddiad.   

 

            Yn dilyn trafodaeth ar yr argymhellion a amlinellwyd o fewn yr adroddiad, awgrymwyd bod y Pwyllgor yn cefnogi pwysau costau’r portffolio ac nad oedd unrhyw feysydd effeithlonrwydd cost pellach yn cael eu cynnig.  Hefyd, awgrymwyd bod gwybodaeth bellach ar sut mae’r £1miliwn o fuddsoddiad a fwriedir mewn cyllidebau ysgol dirprwyedig yn cael ei dosbarthu i Ysgolion yn cael ei darparu i’r Pwyllgor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dave Mackie gefnogi’r argymhellion fel yr amlinellwyd uchod ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Paul Cunningham.    

                   

PENDERFYNWYD:

 

(a)             Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r pwysau costau Portffolio Addysg ac Ieuenctid;

(b)             Ni ddylai'r Pwyllgor gynnig unrhyw feysydd arbedion effeithlonrwydd pellach i’w harchwilio ymhellach; a

(c)             Bod gwybodaeth bellach ar sut mae’r £1miliwn o fuddsoddiad a fwriedir mewn cyllidebau ysgol dirprwyedig yn cael ei dosbarthu i Ysgolion yn cael ei darparu i’r Pwyllgor.

 

Dogfennau ategol: