Agenda item

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Tai ac Asedau

 

  • Rhent Tai Cyngor – Diddymu Hen Ôl-Ddyledion Tenantiaeth yn Dilyn Achos o Droi Allan

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadennill sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i gael eu dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol. Mae’r penderfyniad i ddiddymu mewn perthynas â dau achos o rent heb ei dalu mewn amgylchiadau ble roedd y tenant wedi gadael yr eiddo yn ystod achosion cyfreithiol. Yn dilyn camau a gymerwyd, ystyrir hen ôl-ddyledion tenantiaeth ymhob achos fel rhai nad ellir eu hadennill ac nid oes unrhyw obaith o ddiogelu taliad. Cyfanswm y rhent heb ei dalu mewn perthynas â’r ddau achos yw £15,586.85.

 

  • Darparu Gwelyau Brys

Ymestyn y contract gwasanaethau cefnogi digartrefedd yn y ganolfan ddigartrefedd. Mae’r ganolfan digartrefedd wedi bod yn wasanaeth hanfodol yn ystod y pandemig COVID, gan gartrefu rhai pobl heriol iawn sy’n dod drwy’r llwybr digartrefedd ac angen llety a chefnogaeth. Yn ystod y pandemig, roedd Llywodraeth Cymru wedi dileu’r angen blaenoriaethol ac roedd yn rhaid rhoi llety i’r holl bobl. Oherwydd natur estynedig y pandemig a dim lleoliad amgen uniongyrchol neu fodel darparu gwasanaeth ar gael, mae angen parhau â’r ddarpariaeth bresennol i sicrhau cynaliadwyedd tai a gwasanaethau cefnogi i’n preswylwyr mwyaf diamddiffyn.

 

  • Rhent y Cyngor – Cais i Ddileu Ôl-ddyledion Tenantiaeth

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadennill sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i gael eu dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol. Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â dileu ôl-ddyledion tenant oedd yn destun Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Mae ôl-ddyledion rhent o £5,758.79 wedi eu cynnwys yn y gorchymyn na fyddai modd eu hadennill bellach o ganlyniad i roi'r gorchymyn.

 

  • Budd-dal Tai

Cais i ddiddymu Gordaliad Budd-dal Tai £11,222.41.

 

  • Budd-dal Tai

Cais i ddiddymu Gordaliad Budd-dal Tai £16,484.59 am y cyfnod 11.11.13 - 11.07.21.

 

  • Budd-dal Tai

Cais i ddiddymu Gordaliad Budd-dal Tai £6,394.69 a Gordaliad DHP £987.85.

 

Cyllid Corfforaethol

 

  • Dileu Treth y Cyngor

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 9.6 - Incwm a Gwariant) yn amodi y dylid rhoi gwybod i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol/Swyddog Adran 151 am unrhyw ddyled unigol sydd werth rhwng £5,000 a £25,000, er mwyn ystyried ei dileu, ar y cyd â'r Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau. Mae’r rhestr, sydd wedi’i chrynhoi gan y categori diddymu yn cynnwys 3 chyfrif Treth y Cyngor sy’n gyfanswm o £18,607.97 ble mae’r ddyled gyffredinol i bob unigolyn yn fwy na £5,000 a phob dewis adferiad ar gael i ni wedi eu cymryd.  Ystyriwyd y dyledion yn anadferadwy ac felly argymhellir bod y dyledion hyn yn cael eu dileu.

 

 

 

  • Dileu Trethi Busnes

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 9.6 - Incwm a Gwariant) yn amodi y dylid rhoi gwybod i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol/Swyddog Adran 151 am unrhyw ddyled unigol sydd werth rhwng £5,000 a £25,000, er mwyn ystyried ei dileu, ar y cyd â'r Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau. Mae’r rhestr, sydd wedi’i chrynhoi gan y categori diddymu yn cynnwys 2 gyfrif Treth y Cyngor sy’n gyfanswm o £24,597.62 ble mae’r ddyled gyffredinol i bob unigolyn yn fwy na £5,000 a phob dewis adferiad ar gael i ni wedi eu cymryd.  Ystyriwyd y dyledion yn anadferadwy ac felly argymhellir bod y dyledion hyn yn cael eu dileu.

 

  • Dileu Trethi Busnes

Mae Rheolau Gweithdrefn Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau i ddileu dyledion rhwng £5k a £25k. Mae’r ddyled heb ei chasglu ar gyfer 2010/11 a 2011/12 yn ymwneud ag Ardrethi Busnes gan J White and Sons Ltd, cyfanswm o £19,622.33.  Mae’r ddyled nawr yn cael ei hystyried yn anadferadwy ac ystyrir bod angen ei dileu. 

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

 

  • Gweithred Amrywio

Mae’r Cyngor wedi ymuno mewn contract gyda Hft i ddarparu Gwasanaethau Anabledd Dysgu ar ran y Cyngor. Mae angen amrywiad i’r contract hwn i:

  • Diweddaru’r safleoedd ble mae’r gwasanaeth yn gweithredu
  • Darparu ar gyfer unrhyw newidiadau mewn lleoliadau gwasanaeth yn y dyfodol.
  • Diwygio’r ddarpariaeth ar gyfer prydlesi i drwydded, fel ‘Tenantiaeth wrth Ewyllys’ (yn ogystal â Thenantiaethau Cyfnod Penodol safonol)

 

Gwasanaethau Stryd a Chludiant

 

  • Cyngor Sir y Fflint – Plymouth Street, Kingsway, Woodland Street, Queensway, Taliesin Avenue, Pippins Close, Griffiths Court, Garden Way, Mostyn Street, Gladstone Street, Llewellyn Street, Mill View Road, King George Street, Rowleys Drive, Health Street, Bridge Street, Henrietta Street, Rowden Street, Shotton Lane, Shotton. I Wahardd Aros, Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg, Cyfyngu ar Aros a Thynnu Cyfyngiadau Aros ar Unrhyw Adeg.

Cynghori Aelodau o’r gwrthwynebiad a ddaeth i law yn dilyn hysbysiad o’r Gwaharddiad Arfaethedig i Aros ar Unrhyw Adeg a Chyfyngu ar Aros. Dim aros a dileu Arhos ar Unrhyw Adeg ar ffyrdd fel y rhestrwyd uchod. 

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint - (Ffyrdd Amrywiol) (Terfyn Cyflymder 20mya, 30mya, 40mya, 50mya a Ffyrdd heb Gyfyngiad) 201-

I gynghori’r Aelodau am y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn yr hysbyseb o’r Gorchymyn ffyrdd amrywiol (Terfyn Cyflymder 20mya, 30mya, 40mya, 50mya a Ffyrdd heb Gyfyngiad) 201-

 

Addysg ac Ieuenctid

 

  • T? Cyn Ofalwyr, Ysgol Bryn Coch, Yr Wyddgrug

I ofyn i hen d?’r Gofalwr yn Ysgol Bryn Coch, Yr Wyddgrug gael ei ddatgan yn weddill i ofynion Addysg a Gwasanaeth Ieuenctid.

Dogfennau ategol: