Agenda item

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y newyddion trist o farwolaeth ddiweddar y cyn Gynghorwyr Dennis Parry, John Beard ac Eric Owen a oedd i gyd wedi bod yn Aelodau o’r Cyngor. Cyfeiriodd hefyd at farwolaeth sydyn Mike Catherall a oedd yn aelod gwerthfawr iawn o Dîm Gwasanaethau Stryd a Chludiant y Cyngor. 

 

Wrth dalu teyrnged fe ddywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Dennis Parry wedi cynrychioli Ward Chwitffordd o 1995-1999, ac ei fod yn gadeirydd o’r Pwyllgor Addysg rhwng 1996 ac 1999. Arferai’r Cynghorydd Parry fod yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Delyn a Chyngor Sir Clwyd ac yn Arweinydd y Cyngor nes adsefydlu llywodraeth leol yn 1996.

 

Roedd y Cynghorydd John Beard yn aelod Llafur a fu’n cynrychioli Ward Dwyrain Shotton o 1997. Roedd y Cynghorydd Beard yn aelod o’r Gweithrediaeth ac wrth adael y rôl hon cafodd ei benodi yn Gadeirydd o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Economi a’r Amgylchedd nes iddo ymddeol o’r Cyngor yn dilyn etholiadau 2008.

 

Cynrychiolodd y Cynghorydd Eric Owen Ward Golftyn yng Nghei Connah o 2008 i 2012 ac roedd yn aelod o’r Gr?p Cynghrair Annibynnol. Fe wasanaethodd ar Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Roedd Mr Mike Catherall yn gyflogai hir oes o’r Cyngor a weithiodd yn y Gwasanaeth Gwastraff a Chasglu Deunyddiau Ailgylchu a Chanolfan Ailgylchu Gwastraff T? Nercwys. Roedd Mr Catherall yn aelod poblogaidd ac uchel ei barch o’r Tîm Gwasanaethau Stryd a Chludiant.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau sefyll am funud o dawelwch fel teyrnged iddynt.

 

Talodd y Cynghorydd Paul Shotton deyrnged i’r Cynghorydd Dennis Parry. 

 

Talodd y Cynghorydd Veronica Gay deyrnged i’r Cynghorydd Eric Owen.

 

Talodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod y Cyngor, deyrnged i’r Cynghorwyr Dennis Parry, John Beard ac Eric Owen. Siaradodd am ei gysylltiad â phob un a’u rhinweddau personol, cyraeddiadau, a chyfraniad sylweddol i waith y Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Roberts hefyd am y golled drist o farwolaeth Mike Catherall a mynegodd ei gydymdeimlad i’w partneriaid, teuluoedd a chyfeillion. 

 

Mynegodd y Prif Weithredwr ei gydymdeimlad hefyd ar ran y swyddogion i deuluoedd a ffrindiau’r cyn gydweithwyr. 

 

Ailadrodd y Cynghorydd Glyn Banks y teimladau a gafodd eu mynegi a thalodd deyrnged i’r Cynghorydd Dennis Parry a Mike Catherall. Dywedodd y byddai colled fawr ar eu holau a mynegodd ei gydymdeimlad i’w partneriaid a’u teuluoedd. 

 

Talodd y Cynghorydd Ron Davies deyrnged i’r Cynghorwyr John Beard a Dennis Parry. Siaradodd am ei berthynas agos gyda’r Cynghorydd Beard fel cydweithiwr a chyfaill.

 

Talodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) deyrnged i Mike Catherall a siaradodd am y sioc yngl?n â’r newyddion trist iawn o’i farwolaeth sydyn. Dywedodd ei fod yn aelod gwerthfawr iawn o’r Gwasanaeth a byddai ei gydweithwyr yn ei golli’n fawr. Diolchodd i’r Aelodau am eu cefnogaeth a’u negeseuon o gydymdeimlad ac mi fyddai’n eu pasio ymlaen i’w deulu a’r Tîm Gwasanaethau Stryd a Chludiant. 

 

            Mynegodd y Cadeirydd ei ddymuniadau gorau am wellhad buan i Gynghorwyr Bernie Attridge a Derek Butler a oedd methu mynychu oherwydd salwch difrifol.

 

Cyhoeddodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd David Williams wedi cyflwyno ei ymddiswyddiad fel Aelod o’r Cyngor i gael ei weithredu ar unwaith yn dilyn y cyfarfod hwn. Dyma fo’n gwahodd y Cynghorydd Williams i siarad. Meddai’r Cynghorydd Williams mai gyda thristwch y mae’n rhaid iddo gyflwyno ei ymddiswyddiad a gwnaeth sylwadau am y rhesymau dros ei benderfyniad.  Fe dalodd deyrnged i Aelodau, swyddogion a staff mewn nifer o Wasanaethau’r Cyngor a oedd wedi rhoi eu cefnogaeth werthfawr iddo yn ystod ei gyfnod yn y swydd. Dyma’r Prif Weithredwr yn diolch i’r Cynghorydd Williams am ei gydnabyddiaethau a dymunodd yn dda iddo ar ran y Cyngor ar gyfer y dyfodol.    

 

Dyma’r Cynghorydd Dennis Hutchinson yn diolch i’r Cynghorydd Williams am ei gefnogaeth bersonol ac fe fynegodd ddymuniadau gorau iddo ar gyfer y dyfodol.