Agenda item

Map ffordd Buddsoddiadau Cyfrifol

Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor, er mwyn gallu trafod yr argymhellion, mewn perthynas ag atgyfnerthu ymrwymiadau newid hinsawdd y Gronfa ac argaeledd dewis buddsoddi ecwiti cynaliadwy drwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

Cofnodion:

            Dywedodd Mr Latham mai’r ddwy flaenoriaeth allweddol o ran buddsoddi cyfrifol sy’n cael eu hystyried dan yr eitem hon yw gosod a chyflawni amcanion newid hinsawdd a nodi cyfleoedd buddsoddi cynaliadwy. O ran y cyntaf o’r rhain, gofynnir i’r Pwyllgor gytuno i fabwysiadu uchelgais sero net erbyn 2050 ar gyfer strategaeth fuddsoddi’r Gronfa. Fodd bynnag, eglurodd Mr Latham mai 2050 yw’r dyddiad hwyraf i geisio cyflawni hyn a gobeithiodd y byddai dadansoddiad pellach yn eu caniatáu i osod dyddiad cynharach na 2050. Mae’r ail argymhelliad yn gofyn i’r Pwyllgor gytuno ar fap ffordd, sydd wedi’i gynnwys yn y dadansoddiad pellach hwn.

 

O ran yr ail flaenoriaeth, eglurodd Mr Latham fod Ymgynghorydd Buddsoddi’r Gronfa yn credu y dylai ecwitïau cynaliadwy byd-eang ffurfio rhan sylweddol o bortffolio ecwiti'r Gronfa. Felly, amlinellodd yr argymhelliad i’r Pwyllgor wneud cais ffurfiol i PPC i gynnig Is-Gronfa Ecwiti Cynaliadwy Byd-Eang Gweithredol.O ystyried y byddai’n rhaid i’r cais hwn fynd drwy'r Cyd-Bwyllgor Llywodraethu a Chronfeydd eraill PPC, mae’r amserlen gyflawni yn debygol o fod yn 12 i 24 mis.

 

            Darparodd Mr Gaston grynodeb o’r cynnydd y mae’r Gronfa eisoes wedi’i wneud mewn perthynas â newid hinsawdd.Eglurodd fod targed sero net yn cyfeirio at gyflawni allyriadau carbon sero net drwy gydbwyso allyriadau carbon gyda gwaredu carbon.Y tri phrif reswm i fuddsoddwr fabwysiadu targed sero net yw:

 

-       Mae gwyddoniaeth newid hinsawdd yn dweud wrthym ni fod gennym ni oddeutu deng mlynedd i gyfyngu a lliniaru effeithiau gwaethaf newid hinsawdd.Ar hyn o bryd rydym ni ar drywydd i weld cynnydd o 2.9 gradd erbyn 2100. Fodd bynnag, nod Cytundeb Paris yw cyfyngu ar y cynhesu i dan ddwy radd.I gyflawni hyn mae’r IPCC – y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd, yn nodi fod angen gostyngiad cyffredinol mewn allyriadau o 45% erbyn 2030 (yn seiliedig ar lefelau 2010).

-       Yn ail, mae momentwm yn tyfu ar draws gwahanol randdeiliaid, marchnadoedd a thechnoleg.Er enghraifft, mae datblygiadau technoleg wedi arwain at gostau is ar gyfer cynhyrchu ynni o’r gwynt a’r haul, ac mae’r rhain yn trechu tanwydd ffosil amgen fel glo.

-       Yn olaf, mae’n bur debyg y bydd y model economaidd presennol, sy’n dibynnu ar danwydd ffosil, yn newid i fersiwn wyrddach o’r economi.

 

Dywedodd Mr Gaston mai’r Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol yn ymwneud â’r Hinsawdd yw’r TCFD (Task Force on Climate-related Financial Disclosures).Mae hwn yn fframwaith rhyngwladol sy’n darparu nifer o argymhellion amlygiadau newid hinsawdd.Disgwylir y bydd yn ffurfio sail i’r rheoliadau LGPS newydd y bydd ar y Gronfa angen cydymffurfio â nhw.

 

Eglurodd Mr Gaston y bydd ar y Gronfa, wrth weithredu targed sero net, angen cynllun sy’n cynnwys targedau credadwy a chyraeddadwy yn ogystal â chynllun sy’n cyrraedd y targedau ariannol.Mae pedwar cam i greu cynllun:

 

1.    Cyfrifo’r waelodlin – mae hyn yn cynnwys allyriadau presennol, gallu newid ac amlygiadau gwyrdd.

2.    Dadansoddi posibiliadau portffolio er mwyn gweithredu newid ar draws portffolio drwy ddosbarth asedau.

3.    Pennu targedau mesuradwy ar gyfer lleihau allyriadau a chynyddu’r gallu i newid, wedi’u profi yn erbyn senarios gwahanol (e.e. targed sero net erbyn 2050).

4.    Gweithredu cynllun, gan dynnu ar allbynnau o bob cam.

 

Cadarnhaodd y byddai Mercer yn darparu rhagor o fanylion i’r Pwyllgor eu cymeradwyo ar ôl eu dadansoddiad yng nghyfarfod mis Tachwedd.Ar ôl cytuno ar y targedau a’r cynlluniau gweithredu, bydd y Gronfa yn diweddaru ei pholisi a byddai hynny wedyn yn digwydd yn flynyddol.

 

            Oherwydd bod y Gronfa wedi’i hariannu 103%, ailddatganodd Mr Hibbert y cwestiwn cynharach o ran a yw’r sefyllfa hon yn gyfle i gyflawni rhywbeth r?an mewn perthynas â newid hinsawdd drwy symud o gwmnïau tanwydd ffosil.Dywedodd Mr Gaston fod y categori llwyd yn y sleidiau yn cynrychioli cwmnïau carbon uchel gyda photensial newid isel – fe all y rhain gynnwys cwmnïau olew/nwy yn ogystal â chwmnïau carbon uchel eraill e.e. yn y sectorau dur a sment. Felly, nid cwmnïau tanwydd ffosil yn unig sydd yn y llwyd.Ychwanegodd Mr Gaston fod disgwyl efallai i rai cwmnïau ynni symud eu modelau busnes o olew/nwy i ffynonellau ynni adnewyddadwy.Felly, byddai dadansoddiad Mercer yn amlygu lle mae’r cwmnïau hyn yn eistedd o ran potensial newid ac yn helpu i benderfynu ar y ffordd orau i’r Gronfa reoli’r amlygiadau hyn i’r dyfodol.Yn ogystal, drwy stiwardiaeth, byddai Robeco yn dal y cwmnïau hyn i gyfrif ac yn sicrhau bod eu modelau busnes yn newid dros amser.

 

Credodd Mr Hibbert petai un cwmni echdynnu yn gwneud gostyngiad carbon sylweddol na fyddai hynny’n golygu y byddai pob cwmni yn gwneud yr un fath.Cytunodd Mr Gaston â Mr Hibbert, ond dywedodd ei fod yn credu y dylid gwneud dadansoddiad manwl cyn cynnal trafodaethau ar sut i reoli cwmnïau ‘llwyd’.Cytunodd Mr Everett â sylwadau Mr Hibbert ond roedd yn credu ei fod yn bwysig i’r Gronfa gymryd ei hamser i gael yr wybodaeth lawn cyn gwneud penderfyniadau, gan sicrhau bod canlyniadau unrhyw benderfyniad yn cael eu hystyried yn iawn.

 

Ychwanegodd Mr Everett bod arno eisiau dysgu mwy am yr amserlen newid a gweithredu.

 

Meddyliodd y Cyng. Thompson-Hill, o ystyried cymhlethdod y mater hwn, sut y byddai’r Gronfa yn cyfathrebu’r penderfyniad hwn i aelodau (yn arbennig y rheiny y tu allan i’r Pwyllgor Pensiynau) ac i randdeiliaid eraill a all fod heb dderbyn gwybodaeth gefndir neu hyfforddiant.Dywedodd Mr Latham y bydd rhywfaint o wybodaeth yn cael ei chynnwys mewn newyddlenni sy’n cael eu hanfon at aelodau a’i fod yn bwriadu cynnwys eitem ar raglen y cyfarfod ymgynghorol blynyddol.Roedd Mr Latham yn cydnabod y ffaith bod nifer o’r sesiynau hyfforddiant ar fuddsoddi cyfrifol a newid hinsawdd wedi’u cynnal o fewn y flwyddyn ddiwethaf gyda’r bwriad o rannu’r wybodaeth gymhleth hon ar draws nifer o feysydd buddsoddi cyfrifol ac i helpu gallu’r Pwyllgor i wneud penderfyniadau.Cytunodd Mrs McWilliam gyda Mr Latham a phwysleisiodd yr angen am gyfathrebu clir ynghylch y mater hwn.Ychwanegodd hefyd, petai newidiadau i’r strategaeth fuddsoddi, y byddai’n rhaid i'r Gronfa ymgynghori ynghylch y newidiadau hyn gyda'r rhanddeiliaid priodol.Atgoffodd y Pwyllgor mai nhw sy’n pennu strategaeth fuddsoddi’r Gronfa ac mae cyfrifoldeb PPC yw gweithredu'r strategaeth eu ei ran, er yn ymarferol fe all fod rhai heriau felly bydd y cyfnod rhybudd hir hwn yn helpu pethau yn eu blaenau.

 

Cadarnhaodd Mr Harkin, oherwydd symud ecwiti marchnadoedd i PPC ym mis Hydref 2021, bod y dyraniad ecwiti ar gyfer PPC heb ei fuddsoddi’n llawn eto.Mae Russell yn dewis y rheolwyr tanategol sydd wedyn yn dewis sefyllfaoedd ecwiti penodol Cronfa Gyfleoedd Byd-Eang PPC, er bod Russell yn ceisio lleihau dwyster carbon y Gronfa 25% drwy strategaeth droshaen.Ychwanegodd Mr Harkin bod y portffolio syniadau gorau yn ddisgresiwn a bod Mercer yn llunio fframwaith buddsoddi cyfrifol i droshaenu hyn ac i helpu i lywio sut mae’r gronfa yn gwneud ymrwymiadau i’r dyfodol.Mae Mercer yn ymgymryd â’r gwaith hwn dros yr haf.

 

            Gofynnodd y Cyng. Williams a yw’r rhan fwyaf o’r £25 miliwn sy’n cael ei fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil o fewn y Gronfa yn cael ei wneud yn uniongyrchol drwy reolwyr y gronfa neu drwy gyfuno.Cadarnhaodd Mr Gaston fod gan PPC amlygiadau ecwiti byd-eang o £5.6 miliwn (allan o’r £25 miliwn sydd wedi'i fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil).Ymhellach i hynny, rhwng BlackRock a Chronfeydd Wellington (nad ydynt yn y PPC), bod oddeutu £20 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil drwy gronfeydd a ddelir y tu allan i PPC.Eglurodd Mr Latham y bydd y mandadau hynny y tu allan i PPC yn cael eu rheoli gan PPC fel rhan o newidiadau fis Hydref.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Cytunodd y Pwyllgor i fabwysiadu uchelgais Sero Net erbyn 2050 ar gyfer strategaeth fuddsoddi’r Gronfa, gan nodi y gellir bod angen diweddaru hyn i ddyddiad cynharach yn dilyn ystyriaethau a dadansoddiadau pellach.

(b)  Cytunodd y Pwyllgor ar y cynllun gwaith neu’r map ffordd sero net lefel uchel fel y manylir arno yn 1.07. Mae’r map ffordd hwn yn gosod y camau nesaf sydd eu hangen i bennu targedau sero net wedi’u tanategu gan gynllun gweithredu credadwy.

(c)  Cytunodd y Pwyllgor i ofyn yn ffurfiol i PPC gynnig Is-Gronfa Ecwiti Byd-Eang Cynaliadwy Gweithredol a bod y prosiect angenrheidiol i greu’r Is-Gronfa hwn yn dechrau cyn gynted â phosibl.

 

Dogfennau ategol: