Agenda item

Sir y Fflint Digidol

Pwrpas:        Adolygu a diweddaru Strategaeth Ddigidol bresennol y Cyngor, gan ystyried llwyddiannau, newidiadau a dyheadau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Mullin a ddywedodd bod llawer o newidiadau wedi'u gwneud i'r Strategaeth Ddigidol ers ei chymeradwyo bedair blynedd yn ôl, a hynny i raddau helaeth oherwydd bod y Cyngor wedi cyflawni'r amcanion a nodwyd  yn y ddogfen.  Bu newidiadau hefyd i’r cyd-destun strategol ehangach, megis strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru a helpodd i ddiffinio safonau gofynnol cyffredin ar draws Cymru.  Y newidiadau arwyddocaol oedd y rhai a oedd yn angenrheidiol i addasu i'r cyfnod clo a oedd wedi cyflymu'r galw am a darpariaeth gwasanaethau digidol.

 

Roedd yn awr yn briodol adolygu a diwygio'r strategaeth i adlewyrchu'r ffactorau hyn ac roedd y drafft diwygiedig yn cynnwys dysgu, profiadau, twf ac uchelgais. Roedd hefyd yn cynnwys fel thema ar wahân amcan i helpu i leihau’r allgau y gallai pobl heb y sgiliau, y dyfeisiadau neu'r cysylltedd angenrheidiol i fanteisio ar wasanaethau digidol ei brofi.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Seilwaith TG at y gweithdai llwyddiannus ar y Strategaeth Ddigidol a gynhaliwyd yn ddiweddar ar gyfer yr aelodau, a dywedodd bod yr adroddiad wedi'i ystyried a’i gefnogi yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Ers dechrau’r pandemig Covid-19 roedd nifer y bobl a oedd yn gallu gweithio gartref wedi cynyddu o 800 i dros 1500 mewn 10 diwrnod. Rhoddwyd enghreifftiau o achosion pan oedd y Cyngor wedi ymateb i'r pandemig drwy ddarparu gwaith mewn ffyrdd gwahanol; dwy enghraifft oedd galluogi dysgu o bell drwy ddarparu atebion mynediad o bell ar gyfer ysgolion a chyflenwi dyfeisiadau ac unedau WiFi symudol i ddysgwyr dan anfantais ddigidol ledled Sir y Fflint. Mae enghreifftiau eraill wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt Cwsmeriaid, fel rhan o loywi’r amcanion yn Strategaeth y Cyngor yn dilyn adolygiad Archwilio Cymru, bod gwaith wedi’i wneud i adnabod:

 

·         Galwadau a disgwyliadau defnyddwyr gwasanaethau;

·         Meysydd i’w datblygu; a

·         Newidiadau i arferion a gweithdrefnau gwaith

 

Roeddent wedi’u hadolygu yn y Strategaeth ddiwygiedig, ynghyd â’r newidiadau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Roedd gwaith ar y gweill i sicrhau bod costau cywir wedi’u haseinio i’r prosiectau a’r uchelgeisiau yn y strategaeth. Byddai hynny’n creu cynllun cyllido ac yn sicrhau bod unrhyw fylchau cyllido posibl yn cael eu hadnabod mor fuan â phosibl.

 

Byddai ymgynghoriad yn digwydd gyda grwpiau defnyddwyr a phreswylwyr drwy gydol yr haf.

 

Soniodd pob aelod am bwysigrwydd cysylltiadau digidol, yn enwedig ers y pandemig, a oedd wedi arwain at ostyngiadau mewn amseroedd teithio i gyfarfodydd oherwydd eu bod yn cael eu cynnal yn rhithiol, a'r gefnogaeth a roddwyd i breswylwyr, yn enwedig preswylwyr bregus.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, dywedodd y Rheolwr Cyswllt Cwsmeriaid bod Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn cynnig mynediad at gyfrifiaduron ac iPads ac yn parhau i weithredu'r rheolau pellter cymdeithasol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Banks gwestiwn am Wasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru o dan ‘Bartneriaeth Ddigidol’. Eglurodd y Rheolwr Seilwaith TG bod hyn yn ymwneud â darn o waith a oedd wedi’i gwblhau lle’r oedd Cyngor Sir y Fflint yn darparu’r seilwaith TG ac yn ail-ffurfweddu dyfeisiadau ar gyfer y Tîm Cynllunio Rhag Argyfwng i gefnogi eu cyd-leoliad i swyddfeydd Llywodraeth Cyrmru (LlC) yng Nghyffordd Llandudno.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Croesawu’r cynnydd a wnaed i ddarparu strategaeth Sir y Fflint Ddigidol 2017/2022;

 

(b)       Bod Strategaeth Ddigidol ddiweddaredig 2021/2026 yn cael ei chymeradwyo ar ôl ymgynghori â grwpiau defnyddwyr; a

 

(c)        Bod y Prif Swyddog (Llywodraethu) yn cael awdurdod i derfynu’r polisi mewn ymgynghoriad â Dirprwy Arweinydd y Cyngor (Llywodraethu) a'r Aelod Cabinet dros Reolaeth Corfforaethol ac Asedau.

Dogfennau ategol: