Agenda item

Diweddariad ynghylch gweithredu'r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau

hysbysu’r Cyngor am y gwaith sy’n cael ei wneud i weithredu’r Ddeddf.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i hysbysu’r Pwyllgor o weithrediad parhaus Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.  Dywedodd y byddai darpariaethau’r Ddeddf yn dod i rym trwy dri gorchymyn cychwyn ynghyd ag is-ddeddfwriaethau perthnasol eraill yn ystod mis Mawrth 2021.  Byddai’r gorchmynion hyn yn dod â’r darpariaethau perthnasol i rym ar gyfres o ddyddiadau rhwng Mawrth 2021 a 5 Mai 2022.  O ganlyniad i’r pandemig roedd dyddiad cychwyn nifer o ddarpariaethau’r Ddeddf wedi’u gohirio tan 5 Mai 2022 i gyd-fynd â dyddiad yr etholiadau Llywodraeth Leol nesaf. Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad am y prif ystyriaethau a chyfeiriodd at fanylion y gorchmynion cychwyn fel y’u dangosir yn yr adroddiad.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd bod Gorchymyn Cychwyn Rhif 2 wedi cael ei wneud ar 11 Mawrth a’i fod yn ymdrin â chyfundrefn perfformiad a llywodraethu ar gyfer y prif gynghorau ac yn rhoi pwerau cefnogi ac ymyrraeth newydd i Weinidogion Cymru. Gwnaethpwyd Gorchymyn Cychwyn Rhif 3 ar 18 Mawrth a daeth â darpariaethau i rym mewn perthynas â mynychu cyfarfodydd yr awdurdod lleol o bell a threfniadau ar gyfer cyfarfodydd a dogfennau awdurdodau lleol, gan gynnwys cyhoeddi rhai dogfennau cyfarfodydd yn electronig.

 

 Cododd y Cynghorydd Chris Bithell gwestiynau yngl?n â’r darpariaethau o dan y gorchymyn cychwyn cyntaf a’r dyletswyddau o 5 Mai 2022 ar gyfer prif gynghorau i wneud trefniadau i ddarlledu cyfarfodydd yn electronig; sefydlu cynllun deisebau; a’r p?er i ofyn i awdurdodau benodi cydbwyllgorau trosolwg a chraffu. Dywedodd y Prif Swyddog bod y Ddeddf yn gwneud darpariaeth ffurfiol ar gyfer trefniadau dros dro a roddwyd mewn lle tan fis Mai 2021 oherwydd y pandemig i gynnal cyfarfodydd o bell. Dywedodd hefyd bod darpariaeth yn cael ei wneud ar gyfer sicrhau bod deisebau electronig ar gael. Ymatebodd Swyddogion i’r cwestiwn ynghylch y p?er galluogi i benodi cyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu a chytunwyd y byddai Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y darparu gwybodaeth bellach am y ddyletswydd hon ar ôl y cyfarfod. Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd at Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a oedd yn dweud bod awdurdodau lleol yn gallu sefydlu pwyllgorau craffu ac esboniodd bod y geiriad wedi’i newid o ‘gallu’ i ‘gorfod’. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Chris Bithell hefyd am eglurhad ar gael gwared ar y cyfyngiad ar swyddogion monitro hefyd yn cael eu dynodi'n Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd, ac ar ddileu pleidleisiau o ganlyniad i gyfarfod Cymunedol, a oedd yn cael eu dwyn i rym ar 5 Mai 2022 ar gyfer prif gynghorau.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog mai pwrpas y mater cyntaf oedd gwahanu pwerau yn statudol: nid oedd swydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, sy’n cynorthwyo aelodau anweithredol i gyflawni eu rôl, yn cael ei gyfuno gyda swydd y Swyddog Monitro. Mewn ymateb i’r ail fater, amlinellodd sut oedd pleidleisiau cymunedol yn cael eu cynnal a dywedodd ei bod yn debygol bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu bod ffyrdd gwell o ymgysylltu â’r cyhoedd i ganfod barn y cyhoedd.

 

 Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Jean Davies a’i eilio gan y Cynghorydd David Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

 Bod yr amserlen weithredu yn cael ei nodi ac y bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu maes o law.

 

Dogfennau ategol: