Agenda item

Diweddariad Llywodraethu

Pwrpas:   Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Pwyllgor o faterion yn ymwneud â llywodraethu, gan gynnwys cynnydd y Cynllun Busnes a hyfforddiant.

Cofnodion:

            Rhoddodd Mr Latham ddiweddariad i’r Pwyllgor ar y materion Llywodraethu diweddaraf ar gyfer y Gronfa gan gynnwys newid bychan i rai amserlenni yn y cynllun busnes. Nododd fod y Gronfa yn cynnal gwiriad cydymffurfiaeth yn erbyn gofynion Y Rheoleiddiwr Pensiynau, a bod Mrs Fielder a Mrs Williams wedi ei adolygu’n ddiweddar gyda goruchwyliaeth y Bwrdd.Pan nad oedd y Gronfa’n cydymffurfio, cymerwyd camau gweithredu lle roedd yn briodol.

 

            O ran risgiau’n ymwneud â llywodraethu, roedd y rhai oedd o fewn rheolaeth uniongyrchol y Gronfa’n gymharol isel. Roedd rhai meysydd risg-uchel i’r Gronfa, yn ymwneud â ffactorau allanol fel newidiadau mewn rheoleiddio ac effaith COVID-19.

 

            Roedd Mr Latham yn dymuno mesur barn y Pwyllgor o ran amseru dyddiau hyfforddiant y Pwyllgor i’r dyfodol.Cytunodd y Pwyllgor i’r gwaith o drefnu’r dyddiau hyfforddiant gychwyn cyn gynted â phosibl ac felly cadarnhaodd Mrs McWilliam y byddai mewn cysylltiad gyda rhai dyddiadau posibl ar gyfer y sesiynau hyn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bateman a oedd y Gronfa wedi gwneud unrhyw gynnydd o ran recriwtio arbenigwr ar y we.Cadarnhaodd Mrs Williams fod arbenigwr wedi ei benodi’n fewnol o adran arall o’r Cyngor ble roeddent wedi bod yn rhan o’r rhaglen Hyfforddi Graddedigion.Pwysleisiodd y penodiad cadarnhaol ac edrychai ymlaen at y profiad y gallent ei gynnig i’r tîm.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad.

(b)  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r newidiadau i’r amserlenni ar gyfer tasgau llywodraethu yn y cynllun busnes fel yr amlinellir ym mharagraff 1.01.

(c)  Cytunodd y Pwyllgor y dylid trefnu’r sesiynau hyfforddi nesaf yngl?n â materion pwnc penodol fel y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 1.08.

Dogfennau ategol: