Agenda item
Cyllideb 2021/22 - Cam 1
- Cyfarfod Special Meeting, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, Dydd Mercher, 11eg Tachwedd, 2020 10.00 am (Eitem 19.)
- Cefndir eitem 19.
Pwrpas: Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn gwneud sylw am bwysau ariannol Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a strategaeth gyffredinol y gyllideb. Ac yn rhoi cyngor am unrhyw feysydd o effeithlonrwydd costau yr hoffai weld yn cael eu harchwilio ymhellach.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Strategaeth Ariannol ac Yswiriant) yr adroddiad cam cyntaf y gyllideb a oedd yn manylu ar y rhagolwg a’r pwysau o ran costau a fyddai’n cyfrif am ofyniad llawn y gyllideb.
Roedd adroddiad i’r Cabinet ym mis Hydref wedi darparu diweddariad ar y rhagolwg ariannol ar gyfer 2021/22 a’r ddwy flynedd ariannol wedi hynny. Roedd adolygiad llawn o’r rhagolwg wedi’i gynnal i ffurfio llinell sylfaen gywir a chadarn o’r pwysau o ran costau a oedd angen ei gyllido. Roedd yr adolygiad wedi ystyried effeithiau parhaus y sefyllfa argyfwng gan gynnwys cyflymder yr adenillwyd incwm yn erbyn targedau a osodwyd.
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r datrysiadau cyfyngedig sydd ar gael i ariannu’r pwysau o ran costau gyda’r strategaeth gyllido yn ddibynnol iawn ar gyllid cenedlaethol digonol ar gyfer llywodraeth leol. Roedd manylion y pwysau o ran costau ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac Iechyd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Rhoddodd y Prif Weithredwr a'r Rheolwr Cyllid Strategol (Strategaeth Ariannol ac Yswiriant) gyflwyniad manwl a oedd yn trafod y meysydd canlynol:
- Y rhagolwg ariannol ar gyfer 2021/22;
- Y Dyfodol – Yr hyn a gynghorwyd yn ôl ym mis Chwefror;
- Crynodeb o Gyfanswm y Pwysau o ran Costau;
- Datrysiadau Tair Rhan a Chymryd Risgiau;
- Y Sefyllfa Genedlaethol a Chyllid;
- Senarios Ariannu Posibl;
- Yr Amserlen o ran y Gyllideb;
- Cefnogi a Herio Heddiw
Darparwyd manylion ychwanegol o amgylch pwysau penodol o ran costau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol gan y Prif Gyfrifydd fel rhan o’r cyflwyniad.
Gwnaeth y Cadeirydd sylw ar y pwysau o ran costau sydd wedi ei ddangos ar gyfer ehangu Cartref Gofal Preswyl Marleyfield a holodd a oedd y pwysau hwn yn ymwneud â chostau staff ychwanegol. Gofynnodd y Cadeirydd hefyd a oedd swydd y Cydlynydd Plant Ar Goll o Gartref hefyd yn ymwneud â gweithio gyda phlant sydd ar goll o’r ysgol. Eglurodd yr Uwch-reolwr (Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion) fod y pwysau o ran costau ar gyfer ehangiad Cartref Gofal Preswyl Marleyfield yn cynnwys costau staff i gefnogi’r gwlâu ychwanegol ond byddai hefyd yn cynnwys y cyllid ar gyfer y costau glanhau, bwyd a chyfleustodau ychwanegol oedd eu hangen. Eglurodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod y Cydlynydd Plant Ar Goll o Gartref yn rôl a ragnodwyd gyda meini prawf clir yn amlinellu beth oedd yn cael ei ystyried yn blentyn ar goll. Byddai eu rôl yn cynnwys ymweld â phlant a oedd wedi dychwelyd i’w cartref / lleoliad er mwyn deall yn well pan fod y plentyn wedi bod ar goll a rhannu gwybodaeth gyda’r Heddlu i ddeall yn well y patrymau lle’r oedd plant mewn perygl o gael eu camfanteisio arnynt. Byddai cyswllt gydag addysg, os oedd plentyn ar goll gyda’r nos ac os nad oeddynt chwaith yn mynychu’r ysgol. Ategodd y Prif Weithredwr ei gefnogaeth i greu’r swydd hon a oedd wedi’i amlygu’n fater rhanbarthol gan Heddlu Gogledd Cymru er mwyn sicrhau mwy o wydnwch.
Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie y swyddogion am eu gwaith i baratoi’r adroddiad cyllideb ac adleisiwyd ei sylwadau gan nifer o Aelodau'r pwyllgor. Gwnaeth sylw ar y grynodeb o’r pwysau o ran costau a holodd pa ganran o’r gyllideb gyffredinol roedd hyn yn ymwneud ag o a pham fod lleoliadau’r tu allan i’r sir wedi’u cynnwys fel pwysau o ran costau ar hyn o bryd. Awgrymodd hefyd y dylid darparu gwybodaeth bellach i’r Pwyllgor ynghylch yr ystyriaeth i drin rhai risgiau fel ‘Risgiau Agored’ er mwyn rheoli’r gyllideb o fewn y flwyddyn, a gwnaeth sylw am y Gwasanaeth Mabwysiadu, gan holi a ellid gostwng y gost os byddai’r Gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu’n fewnol.
Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at y trafodaethau ar gostau comisiynu fel enghraifft o ‘Risg Agored’ a oedd wedi datblygu i fod yn un lefel uchel yn sgil y sefyllfa argyfwng, mewn perthynas â chostau cyffredinol uwch, hylendid ychwanegol a newidiadau i rotas staff. Os na fyddai Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid ychwanegol i gwrdd â’r angen hwn, byddai’n rhaid i’r Cyngor dalu’r gost. Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y pwysau o ran costau a amlinellwyd yn y cyflwyniad a’r adroddiad yn gyfwerth â 5%-7% o gyllideb gyffredinol y portffolio. Roedd costau cynyddol Lleoliadau Tu Allan i’r Sir yn parhau i gael eu monitro gyda'r Cyngor yn bod yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael â'r pwysau hwn o ran cost a oedd yn parhau i fod yn newidiol. Roedd y dull a ddefnyddiwyd gan y Cyngor dros nifer o flynyddoedd wedi bod yn gynhwysfawr ac yn rhesymol i gefnogi'r risg hwn gan ddarparu gwasanaethau plant mewnol ychwanegol fel enghraifft o reoli’r risg hwn yn y tymor canolig.
Dywedodd yr Uwch-reolwr (Plant a Gweithlu) mai Gogledd Cymru oedd y rhanbarth gyntaf i sefydlu Gwasanaeth Mabwysiadu a chydnabuwyd fel rhanbarth fod rhywfaint o gyflymder y Gwasanaeth wedi’i golli. Comisiynwyd adolygiad o’r gwasanaeth a oedd wedi arwain at strwythur diwygiedig ac roedd gwasanaethau wedi’u hehangu. Nododd hefyd fod Archwilio Mewnol wedi eu comisiynu i gynnal Archwiliad o’r Gwasanaeth Mabwysiadu i brofi a oedd y gwasanaeth a ail-ddyluniwyd yn gweithio ac yn cyflawni canlyniadau da. Cytunwyd y dylid cyflwyno canlyniad yr adolygiad archwilio i’r Pwyllgor ar ôl ei gwblhau.
Gwnaeth y Cynghorydd David Wisinger sylw ar y pwysau cynyddol yn Ysbyty Maelor Wrecsam a holodd a fyddai adnoddau ychwanegol yn cael eu darparu i’r Cyngor os gofynnwyd am gymorth ychwanegol i’w cynorthwyo. Holodd hefyd a fyddai’r pwysau posibl o ran costau ar gyfer y Dyfarniad Tâl Cysgu i Mewn yn cynnwys taliadau wedi’u hôl-dalu. Eglurodd yr Uwch-reolwr (Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion), fod y cyllid i barhau â gwasanaethau cleifion a oedd eisoes yn derbyn Gwasanaethau yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar hyn o bryd oherwydd salwch, unwaith y byddent wedi gadael yr ysbyty wedi’i gyfrifo amdano yn y trefniadau cyllideb graidd. Roedd cynnig wedi ei gyflwyno’n ddiweddar i Lywodraeth Cymru ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) am gyllid pwysau’r gaeaf i gynorthwyo gyda chyfleusterau camu i lawr ychwanegol, cymorth gofal cartref, gwaith cymdeithasol a chymorth therapi galwedigaethol. Eglurodd yr Uwch-reolwr (Diogelu a Chomisiynu) fod y pwysau o ran costau ar gyfer y Dyfarniad Tâl Cysgu i Mewn yn berthnasol i staff Cyngor Sir y Fflint a staff yn y sector annibynnol a oedd wedi'u comisiynu i ddarparu gwasanaethau cysgu i mewn. Roedd penderfyniad eisoes wedi’i gymryd i ddal yn ôl unrhyw gynnydd ar gyfer gwasanaethau a gomisiynwyd nes fod y pwysau o ran costau’n cynnwys costau wedi’u ôl-ddyddio.
Mewn ymateb i gwestiwn pellach ynghylch y Dyfarniad Tâl Cysgu i Mewn, eglurodd yr Uwch-reolwr (Diogelu a Chomisiynu) y byddai’r Dyfarniad, pe bai’n cael ei gymeradwyo, yn golygu y byddai’r isafswm cyflog cenedlaethol yn cael ei dalu i’r holl staff sy’n cysgu i mewn am oriau a weithiwyd hyd yn oed os oeddent yn cysgu.
Cynigiwyd yr argymhellion, fel yr amlinellir yn yr adroddiad a sleidiau’r cyflwyniad i'r Pwyllgor. Awgrymodd y Cynghorydd Dave Mackie argymhelliad ychwanegol gan ddiolch i swyddogion am y gwaith a wnaed wrth baratoi gwybodaeth y gyllideb. Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd David Wisinger ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi strategaeth gyffredinol y gyllideb;
(b) Dylai’r Pwyllgor gadarnhau safbwynt y Cyngor ar y polisi trethiant lleol.
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi disgwyliadau'r Cyngor o Lywodraethau, fel yr amlinellwyd yn y cyflwyniad a ddarparwyd;
(d) Dylid nodi’r pwysau o ran costau Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad;
(e) Ni ddylai'r Pwyllgor gynnig unrhyw feysydd arbedion effeithlonrwydd pellach i’w harchwilio ymhellach; a
(f) Bod y Pwyllgor yn mynegi ei ddiolch i bob Swyddog a oedd ynghlwm â pharatoi’r ` gyllideb hyd yma.
Dogfennau ategol:
- Medium Term Financial Strategy: Council Fund Revenue Budget 2021/22 outline, eitem 19. PDF 106 KB
- Appendix 1 – Cabinet Report 20th October 2020 – Medium Term Financial Strategy and Budget 2021/22, eitem 19. PDF 586 KB