Agenda item

Gwasanaethau Ieuenctid

Rhoi gwybod am y newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau ieuenctid o ganlyniad i’r argyfwng presennol.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr – Darpariaeth Ieuenctid Integredig adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith gwasanaethau Darpariaeth Ieuenctid Integredig (DII) Sir y Fflint ar gyfer pobl ifanc a’r gwasanaeth cyfunol arfaethedig mewn ymateb i’r sefyllfa argyfyngus. Roedd y cynigion yn creu arbedion blynyddol posibl o £98,600 sy’n cynrychioli arbediad o 49% ar safleoedd ac 20% ar staffio.

 

Roedd gwasanaethau’r Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig (DII) wedi addasu yn ystod y sefyllfa argyfyngus, gan sicrhau cymysgedd o fynediad agored rheolaidd i glybiau ieuenctid a darpariaeth wedi'i thargedu, fel y manylir yn yr adroddiad. Byddai datblygiad gwasanaeth y DII yn ymwreiddio gwersi a ddysgwyd o’r ymateb i’r pandemig i wireddu gweledigaeth Strategaeth Ieuenctid Cymru 2019.  Byddai'r DII yn cynnal a datblygu ymgysylltiad digidol ac o bell gyda phobl ifanc a staff, gan ailagor darpariaeth clybiau ieuenctid yn fwy cynaliadwy a gweithio mwy mewn partneriaeth â’r trydydd sector ac ysgolion i fod yn fwy pellgyrhaeddol a chael effaith ehangach.  Roedd elfennau allweddol yn cynnwys:-

 

  • Datblygu ymgysylltiad digidol ac o bell;
  • Y DII yn ailagor darpariaeth ieuenctid mwy cynaliadwy; a
  • Y DII yn gweithio mwy mewn partneriaeth â'r trydydd sector ac ysgolion.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Uwch-Reolwr am ei adroddiad a’r gwaith sy’n cael ei wneud i drawsnewid y gwasanaeth i ateb yr heriau sy’n dod yn sgil y sefyllfa argyfyngus.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie ei fod yn cefnogi’r adroddiad a’r gwaith sy’n cael ei wneud i ddefnyddio’r sefyllfa argyfyngus mewn ffordd sy’n fanteisiol i’r bobl ifanc.  Soniodd am weithwyr ieuenctid trochi cymunedol ac ysgolion a gofynnodd am wybodaeth bellach am y rôl hon. Holodd hefyd am yr arbedion posibl wrth reoli safleoedd, a ddangosir yn yr adran sy’n sôn am oblygiadau adnoddau yn yr adroddiad, a oedd wedi'i gyfrifo'n wahanol a hefyd gofynnodd a oedd adborth ar gael o'r broses ymgynghori a ddechreuwyd ym mis Hydref.

 

Esboniodd yr Uwch-Reolwr rôl y gweithwyr ieuenctid trochi cymunedol ac ysgolion a dywedodd eu bod yn weithwyr ieuenctid â chymwysterau lefel gradd a oedd yn eistedd gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid ond yn darparu cymorth mewn ysgolion yn ôl yr angen. Roedd yr arbedion posibl a nodwyd yn yr adroddiad yn ymwneud â’r ffigyrau uchaf posibl gan eu bod yn cynnwys costau glanhau, iechyd a diogelwch, ailwampio, gofalwyr a fandaliaeth. Roedd yr ymgynghoriad a ddechreuwyd ym mis Hydref yn ymgynghoriad gyda phobl ifanc i gael eu barn am sut yr hoffent i ni ymgynghori â nhw am wasanaeth cyfunol arfaethedig y Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig yn Sir y Fflint fel y cyflwynwyd gan y Pwyllgor. Roeddent wedi gofyn am ymgynghoriad llawn, ac un o fanteision y sefyllfa argyfyngus oedd y cyfle i gyfarfod ar-lein a oedd wedi arwain at fwy o ymgysylltiad gyda phobl ifanc.  

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod yr adroddiad yn cael cefnogaeth ganddo ef a'i gyd-swyddogion a dywedodd bod y gwasanaeth yn weledigaethol, integreiddiol a gwerthfawr wrth ymateb i anghenion pobl ifanc.  Diolchodd i’r Aelodau am eu sylwadau cefnogol a dywedodd y gallai'r gwasanaeth hwn ddod yn fodel rôl i eraill wrth symud ymlaen.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Joe Johnson a fyddai modd ystyried creu gorsaf radio i bobl ifanc fel modd o gyfathrebu a rhannu gwybodaeth gyda’i gilydd. Dywedodd yr Uwch-Reolwr bod pobl ifanc yn datblygu podlediadau ar hyn o bryd a oedd wedi cael eu croesawu gan bobl ifanc ledled y Sir, yn enwedig y rheiny mewn ardaloedd gwledig.

 

            Cynigodd Mr. David Hytch yr argymhelliad yn yr adroddiad ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd Janet Axworthy.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo ymgynghoriad Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint ar ddatblygu Cynllun y DII ar gyfer 2021-2024, fel yr amlinellir yn yr adroddiad

Dogfennau ategol: