Agenda item

Gofalwyr Ifanc – Contract Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC)

Craffu’r perfformiad a’r canlyniadau a ddarperir i Ofalwyr Ifanc drwy gontract newydd a model gwasanaeth ar gyfer GOGDdC.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at safon wych yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a darparodd wybodaeth gefndir.  Estynnodd wahoddiad i’r Swyddog Cynllunio a Datblygu a Phrif Swyddog Gweithredol NEWCIS i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dywedodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu bod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi cyflwyno newidiadau arwyddocaol a chadarnhaol i ofalwyr sy’n oedolion a phobl ifanc sy’n ofalwyr ac nad ydynt yn derbyn tâl, a oedd wedi arwain at gyfle i adolygu’r contract gwasanaeth Gofalwyr Ifanc, a ddaeth i ben ym mis Mawrth y llynedd.  Roedd pedwar gofalwr ifanc wedi bod yn rhan o’r broses dendro, drwy gefnogi swyddogion fel partneriaid cyfartal.  Roedd hyn yn cynnwys siapio’r gwasanaeth, dewis cwestiynau a chyfweld darpar ddarparwyr gwasanaeth a oedd wedi arwain at ddyfarnu’r contract i NEWCIS.

 

Wrth gyfeirio at y Cerdyn Adnabod newydd ar gyfer Gofalwyr Ifanc, dywedodd y byddai’r cerdyn newydd yn adeiladu ar seiliau’r cerdyn A2A a fabwysiadwyd yn flaenorol gan Sir y Fflint.  Ychwanegodd fod Sir y Fflint wedi penderfynu mabwysiadu dull rhanbarthol ar gyfer datblygu Cerdyn Adnabod cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr Ifanc, gan weithio gyda Chynghorau Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.  Roedd cynllun cyfathrebu yn cael ei ddatblygu ar y cyd gyda phartneriaid, gan gynnwys lansio’r cerdyn newydd a’r posibilrwydd o gynnwys sêr proffil uchel, a oedd yn cael ei gynllunio ar gyfer 16 Mawrth 2021 i ddynodi diwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc.

 

Mynegodd Prif Weithredwr NEWCIS ei balchder yn dilyn ennill y contract ym mis Gorffennaf y llynedd.  Er nad oedd cyfyngiadau Covid 19 wedi’u cynnwys wrth lunio’r tendr, nid oedd wedi atal cynnydd, ac roedd hyn wedi annog mwy o arloesedd wrth gyflenwi gwasanaethau drwy gyfarfodydd rhithwir oherwydd y cyfyngiadau ar gyfleoedd cyfarfodydd wyneb yn wyneb.  Wrth edrych i’r dyfodol, roedd disgwyl y byddai cymysgedd o gysylltiadau rhithwir ac mewn person.  Ychwanegodd fod y gwasanaeth yn brysur iawn ac roedd gweithio gyda gofalwyr ifanc wedi bod yn brofiad positif iawn i staff NEWCIS, ond roedd yn cydnabod hefyd y bu rhai achosion anodd.  Cyfeiriodd at y cynnydd sylweddol yn nifer y cyfranogwyr yn y grwpiau o dan 18 oed a 18-25 oed.  Wrth edrych i’r dyfodol, roedd yn hyderus y byddai NEWCIS yn parhau i ddarparu gwasanaeth da a chyfeiriodd at gysylltiadau rhanbarthol da gyda Credu a oedd yn darparu gwasanaethu gofalwyr ifanc i ardaloedd awdurdodau lleol eraill a chyfeiriodd at Wrecsam a Sir Ddinbych fel esiamplau.  Roedd yn bleser arbennig gan y Prif Swyddog Gweithredol gyhoeddi bod gofalwr ifanc wedi’i gyflogi gan NEWCIS ym mis Rhagfyr a bod cyllid ar gael i gefnogi gofalwr ifanc i ddechrau ei fusnes ei hun.  Disgrifiodd frwdfrydedd y bobl ifanc, er gwaethaf heriau parhaus y pandemig presennol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at adran 1.11 yr adroddiad a oedd yn datgan bod 201 o atgyfeiriadau newydd wedi’u derbyn rhwng Gorffennaf a Medi 2020.  Esboniodd y Prif Swyddog Gweithredol mai’r cyhoeddusrwydd mewn partneriaeth â’r gwasanaethau cymdeithasol a oedd yn bennaf gyfrifol am hyn ac yn sgil datblygu presenoldeb mwy cadarn ar y cyfryngau cymdeithasol.  Ychwanegodd bod p?er y cyfryngau cymdeithasol wedi galluogi’r Gwasanaeth i ymgysylltu gyda llawer mwy o bobl ifanc.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie ei fod yn cefnogi’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud gan NEWCIS, sy’n dystiolaeth o’r mentrau newydd a ddefnyddir i gyflenwi gwasanaethau a gwelliannau parhaus yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn sgil gweithio mewn partneriaeth.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie hefyd at y cerdyn A2A a ddatblygwyd yn dilyn trafodaethau yn Fforwm y Gwasanaethau Plant.  Roedd yn croesawu datblygiad y cerdyn adnabod ar gyfer Gofalwyr Ifanc a’u bod wedi tynnu ar yr hyn a ddysgwyd a’r profiadau o ddefnyddio’r cerdyn A2A, a chytunodd bod cyhoeddusrwydd wedi bod yn broblem.  Tynnodd sylw at yr astudiaethau achos ar dudalen 67 yr adroddiad a oedd yn pwysleisio pwysigrwydd y gwasanaeth, ac anogodd bawb i’w darllen.

 

Croesawodd y Cynghorydd Gladys Healey yr adroddiad a phwysleisiodd bwysigrwydd gwobrau i ddangos gwerthfawrogiad o ofalwyr ifanc a soniodd am y sglefrfyrddau a’r bagiau ‘rhodd’ fel esiamplau o hyn.  Pwysleisiodd fod gofalwyr ifanc yn arbed swm mawr o arian i’r Cyngor drwy ddarparu gofal di-dâl.

 

Roedd y Cynghorydd Carol Ellis o’r farn bod y cyflawniadau a sicrhawyd mewn cyfnod mor fyr o amser i’w canmol.  Cyfeiriodd at dudalen 45 yr adroddiad a’r gwerth contract a gymeradwywyd gan bob partner ar gyfer y cyfnod o 3 blynedd, sef uchafswm o £71,000 y flwyddyn.  Gofynnodd am ddadansoddiad o’r cyfraniadau a holodd a oedd y gyllideb yn ddigonol o ystyried y cynnydd mawr yn y galw o ganlyniad i godi ymwybyddiaeth.  Cyfeiriodd hefyd at adran 3.02 yr adroddiad, a oedd yn rhoi amlinelliad o’r risg bosibl i’r gwasanaeth.  Awgrymodd y Cynghorydd Ellis y dylai’r Cyngor adolygu’r risg gyllidebol i’r gwasanaeth ymhen 12 mis.

 

Bu i’r Uwch Reolwr – Plant a’r Gweithlu gydnabod y pwyntiau a wnaed gan y Cynghorydd Ellis.  Dywedodd bod y risg yn cael ei monitro gan bob partner ac y byddent yn cytuno ar ymateb ar y cyd os a phryd y byddai angen.  Ychwanegodd bod gan Sir y Fflint berthynas gadarnhaol iawn gyda NEWCIS.  Cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu bod BCUHB wedi rhoi cyfraniad o £9,000 y flwyddyn, roedd y Gwasanaethau Pobl Ifanc wedi darparu £20,000 y flwyddyn ac roedd y gweddill yn cael ei ddarparu drwy gyllid Strategaeth Gofalwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Mewn ymateb i sylwadau cynharach gan y Cynghorydd Mackie, cyfeiriodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu at wersi a ddysgwyd a phwysigrwydd sicrhau bod athrawon yn cydnabod y cerdyn adnabod Gofalwyr Ifanc.  Rhoddodd sicrwydd y byddai ymgyrch cadarn cyn ei lansio, fel rhan o’r cynllun cyfathrebu lleol a rhanbarthol.  Dywedodd y Cadeirydd mai un maes pryder gyda’r cerdyn A2A oedd nad oedd rhai fferyllwyr yn derbyn y Cerdyn Adnabod a’u bod wedi gwrthod rhoi’r feddyginiaeth i’r gofalwr ifanc ar gyfer eu rhiant.

 

Roedd y Prif Weithredwr yn cydnabod mai prosiect bach oedd hwn a oedd yn cael ei gyflwyno ar draws NEWCIS ond eu bod wedi gallu tynnu cyllid ychwanegol i lawr ac wrth edrych i’r dyfodol, dywedodd ei bod yn hyderus y byddai cyfleoedd cyllid pellach ar gael i’r gwasanaeth.

 

Croesawodd y Pwyllgor awgrym gan y Cynghorydd Paul Cunningham y byddai datganiad i’r wasg yn cael ei gyhoeddi drwy’r gwasanaeth Cyfathrebu Corfforaethol i gydnabod llwyddiannau’r gwasanaeth.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd David Mackie a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Mike Lowe.

 

PENDERFYNIAD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn diolch i’r swyddogion am yr adroddiad ac yn llongyfarch Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint am ddatblygu Gwasanaeth Cymorth mawr ei angen ar gyfer Gofalwyr Ifanc;

 

(b)       Mae’r Pwyllgor hefyd yn cymeradwyo NEWCIS am sefydlu Gwasanaeth Cymorth Gofalwyr Ifanc Sir y Fflint ac am gyflawni’r disgwyliadau uchod yn y contract gwasanaeth a chanlyniadau cyflenwi, ac am ddatblygu Cerdyn Adnabod i Bobl Ifanc;

 

(c)        Y byddai’r cyllid ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth i Ofalwyr Ifanc yn cael ei adolygu ymhen 12 mis;

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn cynnig cyhoeddi datganiad i’r wasg am Ofalwyr Ifanc – contract NEWCIS.

 

 

Dogfennau ategol: