Agenda item

Adnewyddu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus

Gofyn i’r Pwyllgor Craffu argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r trefniadau adnewyddu ar gyfer rheoli c?n ac yfed alcohol ar y stryd (Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus) yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus diweddar.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) gyflwyniad byr ar yr ymgynghoriad a wnaed ar y ddau Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPO) yn ymwneud â Rheoli C?n a Rheoli Alcohol, ac yn ceisio barn, cyn eu hystyried yn y Cabinet, 20 Hydref.

 

 Cyflwynodd Arweinydd Tîm Safonau Masnach yr adroddiad, gan amlinellu’r gofynion fel y nodwyd yn yr adroddiad. Eglurodd nad oedd PSPO’s â’r hawl i gael effaith am fwy na thair blynedd, oni bai y cânt eu hymestyn o dan Bennod 2, Adran 60 o’r Ddeddf.

 

            Roedd yr ymgynghoriad yn rhedeg rhwng 3 Awst a 4 Medi 2020, ac roedd y canlyniadau wedi'u rhestru yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys sylwadau a gafwyd drwy e-bost nad oedd modd eu cynnwys wrth lenwi’r arolwg electronig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ellis, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio wybod, pan gyflwynwyd y Gorchymyn yn wreiddiol, roedd arwyddion wedi’u gosod i ddechrau, ond yn anffodus, dros amser roeddent wedi cael eu symud oddi yno. Roedd adolygiad llawn o’r arwyddion eisoes wedi digwydd a bydd arwyddion mwy cadarn yn cynnwys mapiau o’r ardal, yn dangos ardaloedd dan waharddiad. Byddai ardaloedd a oedd wedi’u hamlygu fel problem sylweddol, fel Maes Chwarae Lôn y Felin ger Ysgol Uwchradd Elfed, Bwcle, y cyntaf ar y rhestr a phe bai’r estyniad hwn yn cael cymeradwyaeth, symudir ymlaen ag ef ar unwaith, a byddai’n cymryd 3 mis i gwblhau’r prosiect llawn. O ran gorfodaeth o fewn ardaloedd dan waharddiad, mae’r Tîm yn gwirio arwyddion yn y lleoliad cyn iddynt gymryd unrhyw gamau, yn gyntaf drwy siarad â’r bobl, fel rhan o’r broses o ymgysylltu ac addysgu, i sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o ba gyfyngiadau sydd yn y lleoliad hwnnw. Os nad ydynt yn cymryd y cyngor hwnnw, yna byddai Rhybudd Cosb Benodedig yn cael ei roi.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Carolyn Thomas eu bod yn ymwybodol bod Gr?p Pysgota Rosie ym Mharc Gwepra wedi gofyn am PSPO o amgylch y llyn, i eithrio c?n o’r ardal honno. Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton fod yr ardal wedi’i dosbarthu fel ardal hamdden.

 

   Holodd y Cynghorydd Hughes ynghylch pam bod nifer y rhybuddion cosb benodedig yn isel, gan ei fod yn un o’r problemau mwyaf yr oedd pobl yn cysylltu ag ef amdanynt ar ei ward.Ynghyd â’r Cynghorydd Shotton, hoffai weld rhywbeth penodol yn y gorchymyn sy’n targedu perchnogion c?n sy’n methu cael gwared ar wastraff yn y biniau a roddwyd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio nad oedd llwyddiant y tîm gorfodaeth yn cael ei fesur ar faint o rybuddion cosb benodedig a roddwyd, ond eu bod yn edrych ar ymgysylltiad ac addysg.Yn dilyn ymadawiad Kingdom, mae mwy o bwyslais wedi’i roi ar y tîm yn bod yn fwy gweladwy ac yn ymgysylltu a siarad â pherchnogion c?n. O dan Ddeddf yr Amgylchedd, gellir gweithredu camau gorfodi o dan ‘taflu sbwriel’ os yw’r Tîm yn gweld rhywun sydd ddim yn cael gwared ar fagiau gwastraff c?n yn gywir.

 

Fel y gofynnwyd gan aelodau, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio ei bod mewn lle i rannu’r arwyddion llai safonol sydd ganddynt ar hyn o bryd, a gallai hefyd eu rhoi i Grwpiau Cymunedol i’w harddangos.  Unwaith y byddai’r arwydd mwy cadarn yn barod, byddai’n cael ei rannu gydag aelodau a byddent yn cael gwybod cyn y codir yr arwyddion yn eu wardiau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Patrick Heesom yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd David Evans.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet y dylid cytuno ar ymestyn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPO) presennol ar gyfer rheoli c?n;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet y dylid cytuno ar ymestyn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPO) presennol ar gyfer rheoli alcohol;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet bod adolygiad yn cael ei wneud o’r holl arwyddion ym mhob safle, sy’n destun trefniadau PSPO.

Dogfennau ategol: